Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Cwrdd â Tîm sbarc|spark!

6 Rhagfyr 2021

Mae canolfan arloesedd unigryw sy’n rhoi syniadau ar waith ar ei ffordd. Mae sbarc|spark wedi cael ei ddisgrifio fel ‘uwchlabordy newydd cymdeithas.’ Mae’n dod ag arbenigwyr ac entrepreneuriaid Prifysgol Caerdydd at ei gilydd i greu cwmnïau deillio, busnesau newydd, prosesau a chynhyrchion newydd.

Mae’r adeilad chwe llawr, ar Gampws Arloesedd Caerdydd, bron â’i gwblhau. Y tu mewn, mwy na 350 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, myfyrwyr mentrus a staff y Brifysgol yn gweithio gyda hyd at 400 o gydweithwyr o fyd busnes a chymdeithas i greu, profi a meithrin mentrau newydd.

Wedi’i gynllunio gan benseiri arobryn Hawkins\Brown, mae’r adeilad yn dwyn ynghyd SPARK – y Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol – ac Innovations@sbarc Caerdydd, lle bydd syniadau newydd yn cael eu rhoi ar brawf.

Yma, mae rhai o staff allweddol yr adeilad yn amlinellu eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth i’r adeilad symud yn nes at agor:

Yr Athro Chris Taylor

Fi yw Cyfarwyddwr Academaidd, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Fy nghyfrifoldeb i yw datblygu a chyflawni gweledigaeth gyffredinol ar gyfer SPARK drwy weithio’n agos gyda’r canolfannau ymchwil a’r sefydliadau sy’n rhan o SPARK, gyda chydweithwyr o bob rhan o’r holl Ysgolion a Cholegau yn y Brifysgol, a chyda’n partneriaid anacademaidd allanol niferus. Ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, rwy’n arwain tîm SPARK i annog mwy o gydweithio, rhyng-ddweud, creadigrwydd ac entrepreneuriaeth yn ein huchelgeisiau ymchwil, i ychwanegu gwerth at waith anhygoel gwyddonwyr cymdeithasol Prifysgol Caerdydd ac i greu newid sylweddol yn ein gallu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol cymhleth.

Cyswllt: TaylorCM@caerdydd.c.uk

Sally O’Connor

Fi yw Cyfarwyddwr Gweithrediadau Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Fy nghyfrifoldeb i yw darparu arweinyddiaeth, goruchwyliaeth weithredol ac annog gweithgarwch ymchwil ac arloesi newydd ar draws SPARK gan weithio’n agos gydag uwch staff gwasanaethau proffesiynol yn SPARK ac academyddion yn yr endidau cyfansoddol, gan nodi meysydd gweithgarwch a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu’r dangosyddion perfformiad allweddol. Yn ganolog i’m rôl mae sicrhau bod y synergeddau wrth wraidd SPARK; cyd-greu a chydweithio – pobl yn gweithio gyda’i gilydd ar draws disgyblaethau academaidd ac ymarferwyr ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf taer cymdeithas yn cael eu gwireddu.

Cyswllt: Oconnors@caerdydd.ac.uk

Rhys Pearce-Palmer

Fel Rheolwr Gweithrediadau Arloesi rwy’n gofalu am Innovations@Sbarc Caerdydd a Medicentre ar gampws y Mynydd Bychan. Gall busnesau sydd am gydleoli â’r brifysgol gael mynediad i swyddfeydd y gellir eu gosod, labordai gwlyb, a mannau cydweithio yn y ddau safle. Yn ogystal â gweithio’n agosach gyda’r brifysgol, bydd fy nhîm a minnau’n curadu cyfleoedd datblygu busnesau i denantiaid megis rhwydweithio, cydweithio a mentora cyfoedion. Byddaf hefyd yn sicrhau bod tenantiaid yn cael mynediad i weithgareddau partner megis SETsquared ac UKSPA.

 

Cyswllt: PearceR5@caerdydd.ac.uk

Emily Travis

Fel Rheolwr Cymunedol SPARK, rwy’n gyfrifol am reoli perthynas SPARK â phartneriaid allanol a’n model aelodaeth, gan weithio ar draws agendâu ymchwil, arloesi a sgiliau i gefnogi partneriaid preswyl ac aelodau gyda’u perthynas ar draws SPARK a’r Brifysgol ehangach. Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Academaidd a’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, rwyf hefyd yn gyfrifol am arwain ar ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol sbarc | spark, am arwain ein grŵp ymgysylltu mewnol SPARK ac am oruchwylio cyfathrebu perthnasol.

Cyswllt: TravisE@caerdydd.ac.uk

Patricia Bone (Trish)

Fel Rheolwr Cymorth yr Adeilad, byddaf yn cydlynu ac yn rheoli diogelwch cyffredinol yr adeilad, gwaith cynnal a chadw a lles yr holl ddeiliaid yn yr adeilad drwy sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio ac yn bodloni’r holl reoliadau gofynnol. Bydd gweithgareddau o ddydd i ddydd hefyd yn cynnwys gwaredu gwastraff, glanhau a materion yr ystâd, gan helpu pobl i sefydlu ar gyfer digwyddiadau ac archebu ystafelloedd pŵl a mannau cyhoeddus. Mae gennyf dîm o ddau a fydd yn fy helpu, Elisha Richards, arweinydd Tîm Cymorth yr Adeilad a Rhodri Williams, sef y Cynorthwy-ydd Cymorth  yr Adeilad.

Cyswllt: Bonep@caerdydd.ac.uk

Karen Stapleton

Fi yw Swyddog Gweinyddol Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK). Fy nghyfrifoldeb yw ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi’r tîm. Mae hyn yn cynnwys cynllunio a threfnu cyfarfodydd, digwyddiadau ac ymweliadau, archebu ystafelloedd a threfnu arlwyo. Rwy’n ysgrifennydd lle byddaf yn trefnu, paratoi papurau ac agendâu ar gyfer cyfarfodydd, eu mynychu a chymryd cofnodion ynddynt gan gynnwys Bwrdd Rheoli SPARK. Rwy’n goruchwylio’r broses o reoli dyddiadur y Cyfarwyddwr Academaidd, Chris Taylor. Rwyf hefyd yn cynorthwyo’r Rheolwr Cymunedol gyda digwyddiadau a gweithgareddau a byddaf yn arwain y Fforwm Amgylcheddol a Chynaliadwyedd.

Cyswllt: StapletonK1@caerdydd.ac.uk

Mae ein drysau ar fin agor. Felly galwch heibio! I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn sbarc | spark, cysylltwch â Sally O’Connor – OconnorS@caerdydd.ac.uk