Skip to main content

EPSRC, Yr Ysgol Peirianneg

WasteReBuilt: dull cylchol o drawsnewid tywod gwastraff yn adnodd ar gyfer yr amgylchedd adeiledig

18 Rhagfyr 2025

Concrit yw’r deunydd adeiladu a ddefnyddir mwyaf eang yn y byd, ond mae un o’i gynhwysion allweddol yn dod yn adnodd naturiol cynyddol werthfawr. Ar wahân i ddŵr, tywod adeiladu addas yw’r adnodd naturiol a echdynnir fwyaf, gyda’r galw byd-eang yn parhau i gynyddu. Felly, mae dod o hyd i opsiynau eraill sy’n lleihau gwastraff ac yn diogelu adnoddau naturiol yn dod yn her bwysig i’r diwydiant adeiladu.

Wedi’u cefnogi gan Gyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol Prifysgol Caerdydd, mae Dr Riccardo Maddalena, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Sifil, a Joseph Pugh, Cydymaith Ymchwil Peirianneg Sifil, wedi bod yn ymchwilio i ganfod a all tywod ffowndri gwastraff ffowndri o’r diwydiant metel bwrw ddisodli tywod newydd mewn concrit mewn ffordd ddiogel.

Drwy weithio’n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant, mae’r prosiect hwn yn helpu i ddangos y ffordd y gall deunyddiau gwastraff gefnogi economi fwy cylchol wrth leihau tirlenwi a diogelu adnoddau naturiol gwerthfawr.

Nod WasteReBuilt oedd dangos y gall tywod ffowndri gwastraff o’r diwydiant metel bwrw ddisodli tywod gwyryf mewn concrit, gan leihau defnydd o safleoedd tirlenwi a diogelu adnoddau naturiol. Edrychodd y prosiect ar ymarferoldeb defnyddio hyd at 100% tywod gwastraff, gan herio’r safonau presennol sy’n caniatáu 30% yn unig.

Gwnaethon ni nodweddu tywod gwastraff, cynhyrchu a phrofi cymysgeddau concrit, ac asesu gwydnwch ac effaith amgylcheddol. Rhannwyd canlyniadau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y prif gyflwyniad yn y Gynhadledd Ryngwladol gyntaf ar Dywod Ffowndri a Ddisbyddwyd ym Mrasil yn 2025, a chawson nhw eu cynnwys yng nghyfryngau’r diwydiant.

Gwnaeth gweithdy gyda phartneriaid yn y diwydiant – gan gynnwys Weir Ltd, Cemex, MPA, Knights Brown ymhlith eraill – hwyluso’r broses o drosglwyddo technoleg. Mae un papur wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn ac mae un arall yn y wasg. Sicrhaodd y prosiect hefyd ysgoloriaethau PhD a ariennir ar y cyd i ddatblygu’r dechnoleg.

Gwnaeth cyllid gan IAA alluogi profion cysyniad, ymgysylltiad â’r diwydiant a gwelededd mewn digwyddiadau allweddol. Mae’r prosiect hefyd wedi elwa ar gyllid Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth IAA. Cyflymodd hyn yr effaith drwy brawf ar safle yn y byd go iawn ac ymgysylltiad â’r diwydiant.

Mae’r camau nesaf yn cynnwys symud i fyny i TRL6-7 drwy gyllid gan Innovate UK a’r UE, gan ddylanwadu ar bolisi drwy weithdai i randdeiliaid, a chyhoeddi canfyddiadau er mwyn cefnogi astudiaeth achos y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Nod y tîm yw denu buddsoddiad busnes ac integreiddio egwyddorion yr economi gylchol yn safonau adeiladu.

Mae prosiect WasteReBuilt yn dangos y ffordd y gall ymchwil ar y cyd helpu’r diwydiant i ddod o hyd i atebion ymarferol i heriau amgylcheddol mawr. Drwy gyfuno ymchwil peirianneg ag arbenigedd diwydiant, mae’r tîm yn cefnogi datblygiad deunyddiau adeiladu mwy cynaliadwy ac yn helpu i leihau’r galw am adnoddau naturiol newydd.

Darllenwch ragor am y prosiectau yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/community/our-local-community-projects/community-projects-in-wales-and-further-afield/2023-projects/wasterebuilt-a-circular-approach-to-transform-waste-sand-into-resource-for-the-built-environment