Skip to main content

ESRC, Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg

Cydnabyddiaeth i Eight Voices in Darkness am rannu profiadau byw o golli golwg ac iechyd meddwl.

12 Hydref 2026

Mae’r ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd, Dr Claire Nollett, wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am waith a ariennir gan IAA sy’n trafod colli golwg, iselder a lles meddyliol. Dyfarnwyd gwobr Sgwrs Orau’r Gynhadledd iddi yng Nghyngres Optometreg a Gwyddor Golwg Prydain am gyflwyniad yn gysylltiedig â’r gwaith, ac mae’r gwaith newydd ennill y Wobr Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yng Ngwobrau Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2026.

Datblygwyd y gwaith gyda chyllid Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a reolir gan Brifysgol Caerdydd. Mae’n defnyddio straeon cleifion, sain a phortreadau ffotograffiaeth i helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddeall effaith emosiynol colli golwg yn well a gwella cefnogaeth i bobl sy’n byw â nam ar eu golwg.

 

Fideo Gwobr Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

https://ymchwiliechydagofalcymru.org/about/news/national-awards-2026?utm_campaign=Researcher%20bulletin%202026%2010%2009&utm_medium=email&utm_source=e-shot

 

Un o allbynnau mwyaf arwyddocaol y rhaglen waith yw Eight Voices in Darkness, gosodiad clyweledol a ffilm sy’n rhannu profiadau wyth o bobl sy’n byw gyda cholli eu golwg ac effaith hynny ar eu hiechyd meddwl. Dangoswyd y gosodiad yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ac ers hynny mae wedi’i ddatblygu’n adnodd fideo gan Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau’r Golwg.

 

Mae’r gwaith yn adeiladu ar brosiect cynharach a ariannwyd gan IAA AHRC dan arweiniad Dr Nollett a’r Athro Kez Latham o Brifysgol Anglia Ruskin, a ddatblygodd adnoddau addysgol i fyfyrwyr optometreg yn ymwneud ag ymdrin ag iechyd meddwl mewn pobl oedd yn colli eu golwg.

 

Wrth ddatblygu Eight Voices in Darkness, gweithiodd Dr Nollett a’r Athro Kez Latham gyda Sight Life i ganfod pobl oedd yn barod i rannu eu profiadau o fyw gyda cholli eu golwg. Recordiwyd eu straeon yn ddigidol a’u datblygu’n osodiad sain gan yr artist Richard Bowers, gyda phortreadau gan aelodau o glwb ffotograffiaeth Sight Life.

 

Arddangoswyd y gosodiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd am dridiau, gan ddenu 186 o ymwelwyr o’r sector colli golwg, y sector iechyd meddwl, pobl â cholled golwg, teuluoedd ac aelodau o’r cyhoedd. Cwblhaodd llawer o ymwelwyr ffurflenni adborth, gydag ymatebion yn dangos bod y gosodiad wedi helpu pobl i ddeall effaith emosiynol ac iechyd meddwl yn sgil nam golwg yn well.

 

Nododd un ymwelydd:

“Doeddwn i ddim wedi ystyried yr effaith emosiynol ac iechyd meddwl y gallai nam ar y golwg ei achosi. Agorodd fy llygaid i’r brwydrau mae pobl yn eu hwynebu, sy’n aml ddim yn cael eu clywed.”

 

Creodd y gwaith hefyd le ar gyfer trafodaeth broffesiynol fwy penodol. Ar ôl ymweld â’r gosodiad, cymerodd 20 o randdeiliaid offthalmoleg, optometreg, adsefydlu golwg, cyswllt clinigau llygaid, y trydydd sector, y byd academaidd a phobl â phrofiad byw, ran mewn gweithdy i lunio argymhellion ar gyfer gwella ymarfer ac ymchwil yn y dyfodol.

 

Dangosodd adborth gan ymwelwyr a rhanddeiliaid sut y gall profiad byw gefnogi myfyrio, empathi a dysgu ymarferol. Disgrifiodd rhai gweithwyr proffesiynol y newidiadau y byddent yn eu gwneud yn eu hymarfer, gan gynnwys cyfeirio pobl yn gynharach at sefydliadau cymorth colli golwg, gwell cydnabyddiaeth o anghenion iechyd meddwl, ac ymwybyddiaeth gryfach o gymorth cymheiriaid.

 

Ers hynny, mae’r gwaith wedi’i ddatblygu’n ffilm a phecyn dysgu sain i’w ledaenu’n ehangach. Mae fersiwn fideo o Eight Voices in Darkness bellach ar gael yng Nghanolfan Ymchwil Gwasanaethau’r Golwg, lle gall defnyddwyr ofyn am gael gwylio’r adnodd.

 

Yn fwy diweddar, mae Dr Nollett hefyd wedi derbyn cefnogaeth IAA y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) ar gyfer gwaith cysylltiedig yn addasu ymyriad PTSD digidol dan arweiniad i unigolion sy’n colli eu golwg.

 

Diolch enfawr i: Cyngor Deillion Cymru, Ian (ffotograffydd), Sight Life, Lee, Mark, Sharon, Sian, Tracey, Nicki, Nicky a Mark (storïwyr), a Rhys Denton am gefnogi’r prosiect.

 

Rhagor o wybodaeth:

Gwylio Eight Voices in Darkness trwy Ganolfan Ymchwil Gwasanaethau’r Golwg::

https://www.cvsr.co.uk/eight-voices-in-darkness/About

 

Darllen erthygl y Penarth Times am yr arddangosfa:

https://www.penarthtimes.co.uk/news/25559961.cardiff-university-exhibition-sight-loss-mental-health/

 

Papur mynediad agored: Eight Voices in Darkness: using art to involve the public in research dissemination | Research Involvement and Engagement | Springer Nature Dolen

 

Gwrando ar gyfweliad RNIB Connect am y prosiect:

https://audioboom.com/posts/8795570-new-instillation-shares-8-voices-in-darkness

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Dr Claire Nollett: [email protected]