Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?
28 Medi 2026
Wrth i ‘Medi Ail-law’ annog pobl i feddwl yn wahanol am yr hyn maen nhw’n ei brynu, ei ailddefnyddio a’i basio ymlaen, mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn edrych ar y rhwydweithiau a’r arferion ehangach sy’n cynnal economïau ail-law.
Gyda chefnogaeth Cronfa Ddilynol Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Prifysgol Caerdydd, bu Dr Alida Payson o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn gweithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr a sefydliadau cymunedol i feithrin cysylltiadau, rhannu dysgu a datblygu adnoddau hygyrch i bobl sy’n gweithio mewn mannau ail-law.

Caiff mannau ail-law fel siopau elusen, prosiectau ailddefnyddio, rhwydweithiau atgyweirio a chyfnewidfeydd cymunedol yn aml eu hystyried yn fannau cynaliadwy sy’n lleihau gwastraff, gan eu bod yn ymestyn oes ddefnyddiol ystod eang o wrthrychau a deunyddiau.
Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar y rôl ehangach y gall y mannau hyn ei chwarae ym mywyd y gymuned drwy ddod â staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr eraill ynghyd i rannu gwaith a chyfeillgarwch. Yn benodol, roedd yn edrych sut y gall mannau ail-law ddod yn fwy hygyrch, yn fwy cynhwysol i bobl Anabl, ac yn fwy abl i gefnogi a rhannu gwybodaeth, gofal a chyswllt cymdeithasol.
Ehangodd y tîm, a oedd yn cynnwys Dr Violet Broadhead, Dr Rhiannon Craft a Lizzie Harrison, rwydwaith o ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n gweithio mewn economïau ail-law. Datblygwyd partneriaethau newydd gyda sefydliadau sy’n ymwneud ag ailgylchu pren, ailddefnyddio paent, cyfnewid dillad, mynediad i bobl anabl, manwerthu elusennol, ac atgyweirio cymunedol a chasgliadau treftadaeth.

O gyfweliadau ac ymweliadau â safleoedd, crëwyd dau becyn cymorth mewn iaith glir yn canolbwyntio ar hygyrchedd ac atgyweirio cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am bartneriaid y pecyn cymorth ar Atgyweirio Cymdeithasol i Gynnal Economïau Ail-law:
- Prosiect Ailgylchu Pren Bryste https://www.bwrp.org.uk/
- Cyfnewidfa Dillad Cymunedol Leeds https://leedscommunityclothesexchange.com/
- Prosiect Ailgylchu Paent Seagulls https://seagullsreuse.org.uk/
Rhagor o wybodaeth am bartneriaid y pecyn cymorth ar Hyrwyddo hygyrchedd a thegwch i bobl anabl mewn mannau ail-law:
- Miranda Evans (Anabledd Cymru https://www.anableddcymru.org/), Siobhan Kelly (Prifysgol Salford), Ollie Ayres (y Hobby Hub Yaxley CIC), Jessica Chudasama-Alloway a Ben Usher-Barrass (Aucademy), a Fiona Wonford ac Elizabeth Cake (ScrapStore @ East Kent Mencap)
Buom yn gweithio hefyd gyda’r sefydliad polisi Fashion Roundtable (www.fashionroundtable.co.uk), ac ymuno â thri digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus i feithrin dealltwriaeth o safleoedd a materion ail-law.

Cefnogodd cyllid IAA y tîm i feithrin perthnasoedd, rhannu ymchwil a throi dysgu gan sefydliadau ail-law yn adnoddau ymarferol. Gyda’r cyllid, roedd modd i ni fynd i’r safleoedd lle’r oedd y gwaith pwysig hwn yn digwydd a siarad yn uniongyrchol â’r bobl sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd. Helpodd y cyllid ymchwilwyr gyrfa gynnar i gysylltu eu gwaith â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ymarferwyr, gan greu deunyddiau a all gefnogi economïau ail-law mwy meddylgar, hygyrch a chymdeithasol-gysylltiedig. Yn olaf, galluogodd cyllid IAA ni i dalu cyfranwyr yn deg am eu hamser.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r prosiect wedi cynhyrchu pecynnau cymorth newydd ar hygyrchedd ac atgyweirio cymdeithasol, a gaiff eu cyhoeddi trwy flog Secondhand Cultures. Bydd y tîm yn parhau i fonitro adborth, olrhain lawrlwythiadau a gweithio gyda phartneriaid i ddeall sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio’n ymarferol.
Roedd erthygl gysylltiedig yn The Conversation, a ysgrifennwyd gan aelod o dîm y prosiect Violet Broadhead, yn trafod pwysau a roddir ar siopau elusen yn sgil rhoddion dillad digroeso ac fe’i darllenwyd dros 134,000 o weithiau.
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?
- Beth sy’n digwydd pan na all manwerthwyr ymddiried yn eu cofnodion stoc?
- Sut gall gwaith ymchwil ddod yn fwy cynhwysol i bobl sy’n cael anhawster rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth?
- Ehangu Effaith ACT-PNMH: Ymyriadau Seicolegol ar gyfer Iechyd Meddwl Perinatal
- Gwneud parciau cymdogaeth yn gynhwysol i ferched yn eu harddegau a menywod ifanc yng Nghaerdydd