Mae monitro ac adrodd ar amrywiaeth enetig gyda dangosyddion GBF yn ymarferol, yn fforddiadwy ac yn effeithiol
3 Tachwedd 2025
Mae monitro ac adrodd ar amrywiaeth enetig gyda dangosyddion GBF (Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang) yn ymarferol, yn fforddiadwy ac yn effeithiol
Yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig COP16, 2024, roedd Dr. Isa-Rita hefyd wedi cynrychioli Gweithredu e-COST Action (Genetic Nature Observation and Action). Roedd hi’n rhan o’r Glymblaid dros Geneteg Cadwraeth (CCG). Hwylusodd sesiynau bwth, gan amlygu pwysigrwydd amrywiaeth genetig gan ddefnyddio gemau, deunyddiau print, canllawiau briffiau polisi Cynlluniau Strategaeth a Gweithredu Cenedlaethol ar Fioamrywiaeth (NBSAP), yn ogystal â dangos offer dangos amrywiaeth genetig.

Yn ogystal, tynnwyd sylw at ymchwil sy’n cefnogi cynnwys amrywiaeth genetig ym maes polisi ar fioamrywiaeth. Cyllidwyd y prosiect hwn gan y Cyngor Ymchwil er Biotechnoleg a’r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith (IAA) Prifysgol Caerdydd.
Mae amrywiaeth genetig yn hanfodol i sichrau gwytnwch rhywogaethau yn erbyn clefydau a newid yn yr hinsawdd, ac er mwyn cynnal ecosystemau sydd o fudd i gymdeithas. Mae ymchwil yn dangos bod monitro amrywiaeth genetig yn ymarferol ac yn angenrheidiol er mwyn creu dyfodol bioamrywiol. Cynhaliodd tîm y prosiect weithgareddau cyfnewid gwybodaeth yng Nghynhadledd Partïon Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (CoP16).
Yn CoP16, cynhaliodd Cynghrair Geneteg Cadwraeth (CCG) stondin, a hwylusodd sesiynau yn arddangos pwysigrwydd amrywiaeth genetig gan ddefnyddio gemau, deunyddiau print, canllawiau briff polisi ar gyfer NBSAPs, ac arddangosiadau o offer dangos amrywiaeth genetig. Yn ogystal, tynnodd y Gynghrair sylw at ymchwil sy’n cefnogi cynnwys amrywiaeth genetig mewn polisi bioamrywiaeth. Yn rhan o’r rhan o’r CCG, roedd Isa-Rita hefyd wedi cynrychioli Gweithrediad e-COST GENOA (Genetic Nature Observation and Action).

Adeiladwyd perthnasoedd yn seiliedig ar dystiolaeth gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Sefydliad Bioamrywiaeth Cenedlaethol De Affrica, Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain, Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig, ac eraill. Yn ôl yr adborth, ceir cynnydd mewn cydnabyddiaeth o bwysigrwydd monitro amrywiaeth genetig. Ymunodd dros 130 o bobl â chronfa ddata o unigolion cyswllt, ac mae Prifysgol Caerdydd bellach yn arsylwr swyddogol o’r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol.
Rhagor o wybodaeth am y partneriaid –
GENOA
https://www.genoageneticdiversity.eu
Y Glymblaid er Geneteg Cadwraeth
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Cydnabyddiaeth i Eight Voices in Darkness am rannu profiadau byw o golli golwg ac iechyd meddwl.
- Sut gall gwaith ymchwil ddod yn fwy cynhwysol i bobl sy’n cael anhawster rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth?
- Sut gall meddalwedd delweddu meddygol a ddatblygwyd yng Nghaerdydd gyrraedd mwy o ymchwilwyr, clinigwyr ac arloeswyr ym maes gofal iechyd?
- Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?
- Beth sy’n digwydd pan na all manwerthwyr ymddiried yn eu cofnodion stoc?