Hyfforddiant Arbenigol Archaeoleg Gymunedol: Ymgorffori Sgiliau Cynaliadwy a Meithrin Cymunedau Gwirfoddol
3 Hydref 2025
Datblygodd Dr David Roberts fodel hyfforddi i gefnogi gwirfoddolwyr ym maes archaeoleg gyda sgiliau hanfodol. Roedd hwn brosiect a gafodd ei hariannu gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) . Fe’i cefnogwyd gan bartneriaid gan gynnwys Treftadaeth CAER a’r Wiltshire Field Group, ac mae bellach yn barod i gael ei gyflwyno ar lefel genedlaethol.Datblygodd Dr David Roberts fodel hyfforddi i gefnogi gwirfoddolwyr ym maes archaeoleg gyda sgiliau hanfodol. Roedd hwn brosiect a gafodd ei hariannu gan Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) . Fe’i cefnogwyd gan bartneriaid gan gynnwys Treftadaeth CAER a’r Wiltshire Field Group, ac mae bellach yn barod i gael ei gyflwyno ar lefel genedlaethol.

Mae mwy na 200,000 o bobl yn y DU yn cymryd rhan yn flynyddol mewn prosiectau archaeoleg, gan wella eu lles, eu sgiliau a’u cysylltiadau cymdeithasol. Canfu arolwg yn 2018 gan Gyngor Archaeoleg Prydain fod adnabod darganfyddiadau yn angen hyfforddi allweddol. Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, rhoddodd y cynllun peilot hwn fodel hyfforddi ymarferol ar brawf er mwyn cryfhau sgiliau, hyder a chydweithio ymhlith gwirfoddolwyr.
Cynhaliodd y prosiect weithdai hyfforddi dwys dros ddau ddiwrnod yng Nghaerdydd, Devizes, a Chaerwysg. Cymerodd 87 o wirfoddolwyr o 17 grŵp archaeoleg ran, yn ogystal â nifer ehangach o bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr.
Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar adnabod esgyrn anifeiliaid, crochenwaith Rhufeinig a rheoli data digidol, gan ddefnyddio dysgu ymarferol a phriod ddeunydd y bobl oedd yn cymryd rhan, gyda chefnogaeth partneriaid gan gynnwys CAER Heritage a Wiltshire Field Group.

Oherwydd cyllid y CSE, roedd modd peilota model hyfforddi manwl gan ddefnyddio hyfforddwyr arbenigol a gweithdai estynedig. Roedden ni’n gallu gwerthuso’n gadarn y broses o ddatblygu sgiliau, cefnogi ymgysylltu ystyrlon â grwpiau archaeoleg a chreu sylfaen dystiolaeth er mwyn seilio cyllid a thrafodaethau yn y dyfodol am ehangu’n genedlaethol gyda sefydliadau fel Cyngor Archaeoleg Prydain.
- AHRC
- BBSRC
- Cydweithredu rhwng sefydliadau
- EPSRC
- ESRC
- MRC
- Ymgysylltu â'r Cyhoedd
- Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
- Yr Ysgol Deintyddiaeth
- Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
- Yr Ysgol Meddygaeth
- Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
- Yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg
- Yr Ysgol Peirianneg
- Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth
- Yr Ysgol Seicoleg
- Ysgol Busnes Caerdydd
- Ysgol Pensaernïaeth Cymru
- Ysgol y Biowyddorau
- Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth
- Cydnabyddiaeth i Eight Voices in Darkness am rannu profiadau byw o golli golwg ac iechyd meddwl.
- Sut gall gwaith ymchwil ddod yn fwy cynhwysol i bobl sy’n cael anhawster rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth?
- Sut gall meddalwedd delweddu meddygol a ddatblygwyd yng Nghaerdydd gyrraedd mwy o ymchwilwyr, clinigwyr ac arloeswyr ym maes gofal iechyd?
- Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?
- Beth sy’n digwydd pan na all manwerthwyr ymddiried yn eu cofnodion stoc?