Syniadau a chyfleoedd newydd cyffrous ar gyfer ein cymuned ymchwil ôl-raddedig
24 May 2023Yma yn yr Academi Ddoethurol rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Dr James Farror yn Bennaeth newydd ar faterion Datblygu a Phrofiad. Yma, mae James yn rhannu ei amcanion a’i syniadau wrth iddo ymgymryd â’r rôl newydd hon, a’r newidiadau a’r cyfleoedd cadarnhaol y mae’n gobeithio eu cyflwyno er budd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
“Mae ychydig wythnosau wedi mynd heibio ers i mi ddechrau yn fy swydd newydd, ac rwy’n gyffrous fy mod wedi dechrau yn y rôl hon ar adeg hollbwysig i ymchwil ôl-raddedig.
Bu cryn drafod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghylch dyfodol addysg ddoethurol a’r diwylliant y mae ymchwilwyr yn datblygu ynddo. Er mwyn ymateb i’r heriau cynyddol gymhleth sy’n wynebu’r byd, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi sawl strategaeth gyda’r nod o ddatblygu gweithlu ymchwil mwy amrywiol a deinamig. Yn sgîl ail-alinio o ran blaenoriaethau, mae UKRI a’r Cynghorau Ymchwil wedi gorfod ailystyried pa mor effeithiol yw addysg ddoethurol yn ei chyflwr presennol ac a yw’r strwythurau cymorth presennol yn addas i’r diben.
Yn fy rôl newydd, bydd llawer o fy ffocws ar sicrhau bod darpariaeth a gwasanaethau’r Academi Ddoethurol yn adlewyrchu anghenion ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid a chyllidwyr, wrth i’r anghenion hynny newid. I’r perwyl hwn, rwyf yn goruchwylio fersiwn estynedig o adolygiad y tîm o’u rhaglen flynyddol, ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi cynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ledled y brifysgol ac wedi dechrau trafodaethau gyda’n prif randdeiliaid, gan gynnwys Deoniaid Addysg Ôl-raddedig a Chyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig y colegau, ledled ysgolion.
O ganlyniad i’r trafodaethau hyn, rydym wedi gallu amlygu sawl maes blaenoriaeth. Yn ogystal ag awch am ragor o amrywiaeth o ran y cyfleoedd datblygu mae’r Academi Ddoethurol yn eu cynnig, mae’n amlwg bod awch hefyd am gymorth wedi’i deilwra’n ymwneud â gyrfaoedd a chyflogadwyedd ac o ran cyfleoedd sy’n fwy rhwydd eu canfod, i fyfyrwyr ymgysylltu ag ymchwilwyr eraill, boed wyneb yn wyneb neu ar-lein, mewn cyd-destunau cymdeithasol a phroffesiynol. Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hefyd wedi gofyn am gymorth sydd wedi’i dargedu’n fwy penodol ar gyfer grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac ymchwilwyr sy’n wynebu heriau a rhwystrau penodol o ran ymgysylltu. Yn olaf, hoffai staff a myfyrwyr gael rhagor o dryloywder ynghylch y gwasanaethau mae’r Academi Ddoethurol yn eu cynnig, y digwyddiadau dysgu mae hi’n eu cynnal, a’r adnoddau mae hi’n eu cynnig.
Mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn mynd i gymryd amser. Fodd bynnag, rydym eisoes wedi dechrau ar y gwaith mewn sawl maes; mae nifer o fentrau peilot a newidiadau gweithredol wedi’u cynnig, mae’r rhain unai wedi’u cyhoeddi eisoes neu i’w cyhoeddi yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf, gan gynnwys:
- Cyfres newydd o ddarpariaethau datblygu, gan gynnwys trafodaethau bord gron amser cinio, grwpiau trin a thrafod ymchwil a chlinigau cymorth un-i-un;
- Cronfa Ddatblygu newydd, lle gall ymchwilwyr ôl-raddedig wneud cynnig am hyd at £1000 i ymgymryd â gweithgaredd datblygu;
- Newidiadau i batrymau amserlennu i ganiatáu amser ar gyfer rhagor o weithgarwch yn ystod misoedd yr haf, hyn er mwyn rhoi budd i ddysgwyr rhan-amser a dysgwyr o bell;
- Cyfleoedd allgymorth â thal, gan gynnwys swyddi addysgu mewn ysgolion uwchradd trwy bartneriaeth newydd gyda’r Brilliant Club;
- Lleoliadau cyflogedig, gan gynnwys swydd ymchwil yn yr Academi Ddoethurol;
- Encil preswyl i awduron ym mis Awst, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr dreulio penwythnos i ffwrdd yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ddatblygu eu traethawd ymchwil;
- Adolygiad o’r cymunedau ar-lein rydym yn eu rheoli a’u hyrwyddo a sut rydym yn cysylltu gweithgarwch â chymdeithasau ehangach yn y brifysgol;
- Adolygiad o bob agwedd ar ein dulliau cyfathrebu yn eu cyfanrwydd, gyda’r nod o symleiddio ein prosesau;
- Ymarfer mapio o’n holl ddigwyddiadau ac adnoddau dysgu cydamserol ac anghydamserol, sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt.
Rydym yn teimlo’n gyffrous yn cyflwyno’r newidiadau hyn ynghyd â mentrau newydd, ac yn gobeithio y byddant yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol sylweddol i’ch profiad.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein mentrau presennol a rhai sydd ar ddod, cadwch lygad ar ein ebyst ‘crynoadau’ rheolaidd a’n tudalennau ar y fewnrwyd.
- September 2024
- June 2024
- March 2024
- February 2024
- November 2023
- September 2023
- June 2023
- May 2023
- January 2023
- December 2022
- November 2022
- October 2022
- September 2022
- July 2022
- May 2022
- April 2022
- January 2022
- December 2021
- November 2021
- August 2021
- July 2021
- June 2021
- February 2021
- January 2021
- November 2020
- October 2020
- September 2020
- August 2020
- July 2020
- June 2020
- April 2020
- March 2020
- February 2020
- January 2020
- December 2019
- November 2019
- October 2019
- September 2019
- August 2019
- July 2019
- June 2019
- May 2019
- April 2019
- March 2019
- February 2019
- January 2019
- December 2018
- November 2018
- October 2018
- September 2018
- August 2018
- July 2018
- June 2018
- May 2018
- April 2018
- March 2018
- February 2018
- Biosciences
- Careers
- Conferences
- Development
- Doctoral Academy Champions
- Doctoral Academy team
- Events
- Facilities
- Funding
- Humanities
- Internships
- Introduction
- Mental Health
- PGR Journeys
- Politics
- Public Engagement
- Research
- Sciences
- Social Sciences
- Staff
- STEM
- Success Stories
- Top tips
- Training
- Uncategorized
- Wellbeing
- Working from home