Deall ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi
5 February 2025Mae risgiau i gydweithio’n rhyngwladol ar ymchwil. Yn yr erthygl flog hon, mae’r tîm Uniondeb Ymchwil, Llywodraethu a Moeseg (RIGE) yn ein helpu ni i ddeall ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi a rheolaethau allforio.
![](http://blogs.cardiff.ac.uk/doctoral-academy-blog/wp-content/uploads/sites/553/2025/01/Copy-of-short-piece-photo-template-1200-x-800-px-11.png)
Mae ‘ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi’ yn derm sy’n cael ei ddefnyddio yn y sector ymchwil. Mae’n golygu diogelu eiddo deallusol, ymchwil sensitif, pobl a seilwaith y DU rhag lladrad, camddefnydd ac ecsbloetiaeth.
Bydd yn aml yn cael ei gyfeirio ato ynghyd â ‘rheolaethau allforio’. Mewn cyd-destun ymchwil, mae’r rhain yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig ag anfon nwyddau, technoleg, meddalweddau neu arbenigedd strategol i leoliad y tu allan i’r DU (neu hyd yn oed yn y DU mewn rhai achosion).
Myth: Mae hyn yn cyfyngu ar gydweithio academaidd.
Y realiti: Mae’r prosesau a’r rheoliadau hyn ar waith i hwyluso cydweithio academaidd, a hynny drwy leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ymchwil ryngwladol.
Myth: Nid yw hyn yn berthnasol i mi.
Y realiti: Mae hyn yn berthnasol i lawer o bobl, yn enwedig ymchwilwyr sy’n ymwneud â phynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg Gall eitemau anniriaethol megis adroddiadau, data a chyflwyniadau mewn cynadleddau hefyd fod yn destun rheolaethau allforio.
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddeall ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi a rheolaethau allforio. Os yw eich ymchwil yn canolbwyntio ar STEM, ac os ydych chi’n gweithio gyda phartner rhyngwladol, dylai eich goruchwyliwr fod wedi cyfeirio eich prosiect at dîm RIGE i gael asesiad ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi. Mae ein hasesiad yn cynnwys mesur lliniaru i sicrhau bod ein prosiectau ymchwil rhyngwladol yn cael eu cynnal yn ddiogel ac yn unol â fframwaith rheoleiddio’r DU. Bydd tîm RIGE yn gofyn i ymchwilwyr PhD a neilltuwyd i brosiectau risg uwch fynd i sesiynau hyfforddi rheolaeth allforio o bryd i’w gilydd, felly os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth pellach arnoch i ddeall y mater hwn, cysylltwch â resgov@caerdydd.ac.uk
Rydyn ni wedi llunio ychydig senarios i ddangos sut gallai ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi a rheolaethau allforio effeithio ar eich gwaith.
Senario 1
![](http://blogs.cardiff.ac.uk/doctoral-academy-blog/wp-content/uploads/sites/553/2025/01/unammned.jpg)
Roedd myfyriwr PhD yn cynnal ymchwil gyda chwmni milwrol yn y DU ar Systemau Awyr Di-griw. Roedd goruchwyliwr y myfyriwr wedi gofyn am asesiad ymchwil y gallwn ni ymddiried ynddi drwy RIGE a ddaeth i’r casgliad bod yr ymchwil yn cael ei rheoli ac y dylai tîm y prosiect ddod i sesiwn ar reolaethau allforio er mwyn deall eu rhwymedigaethau wrth weithio gydag ‘eitemau’ dan reolaeth.
Yn ystod y sesiwn, rhoddwyd gwybod i’r myfyriwr, gan fod yr ymchwil yn cael ei ‘rheoli’ bod gofyn iddyn nhw gadw at y cynllun rheoli gwybodaeth sydd ar waith i lywodraethu’r prosiect er gwaethaf bod yr ymchwil wedi’i lleoli yn y DU. Roedd y cynllun yn gwahardd cyfnewid gwybodaeth gydag unrhyw un sydd y tu allan i dîm prosiect y DU. Rhoddwyd gwybod i’r myfyriwr y byddai angen trwydded rheolaeth allforio i rannu data’r prosiect y tu allan i’r DU.
Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf y prosiect, gofynnodd y partner diwydiannol i’r myfyriwr PhD rannu ychydig o’u canlyniadau gyda thîm y prosiect. Trefnwyd cyflwyniad hybrid i ganiatáu i bobl ymuno wyneb yn wyneb ac ar-lein. Sylwodd y myfyriwr nad oedd un o’r rheini a gafodd wahoddiad wedi bod yn aelodau o’r tîm ymchwil o’r blaen, a datgelodd ymholiad pellach eu bod nhw’n gydweithiwr o safle Ewropeaidd a oedd am ymuno o bell. Gan fod y cydweithiwr wedi ei leoli dramor, rhoddodd y myfyriwr PhD wybod i’r partner y byddai cyfnewid unrhyw wybodaeth reoledig yn gyfystyr ag allforio ac felly byddai angen trwydded. Tynnwyd y gwahoddiad i ddod yn ôl oddi wrth y cydweithiwr tramor.
Senario 2
![](http://blogs.cardiff.ac.uk/doctoral-academy-blog/wp-content/uploads/sites/553/2025/01/graphene_topic_1024.jpg)
Roedd ymchwilydd ôl-ddoethurol, a gafodd radd PhD mewn deunyddiau uwch o brifysgol dramor, yn cynnal ymchwil helaeth mewn prifysgol yn y DU am ddefnyddio graffin yn ddeunydd amddiffynnol.
Cysylltodd yr ymchwilydd ôl-ddoethurol â’u cyn oruchwyliwr PhD yn y brifysgol dramor, a oedd yn arbenigo mewn defnyddio graffin yn ddeunydd adeiladu. Pwysleisiodd eu cyn oruchwyliwr PhD y byddai angen rhannu’r nodau a’r canfyddiadau ymchwil yn llawn er mwyn deall gofynion prosiect y DU.
Cyn cyfnewid unrhyw ddata, ymgynghorodd yr ymchwilydd ôl-ddoethurol â thîm gwasanaethau proffesiynol eu sefydliad. Fe wnaeth y tîm eu helpu gyda pholisi cydweithredu’r brifysgol, a oedd yn gofyn am ystyriaeth o reolaethau a sancsiynau allforio’r DU. Trwy’r broses hon, cadarnhawyd y byddai’r ymchwil yn destun rheolaeth allforio oherwydd y defnydd deuol posibl o raffin yn ddeunydd amddiffynnol. Cafodd ei ddarganfod hefyd fod y brifysgol dramor yn destun sancsiynau’r DU.
Gan gydnabod na allai’r cydweithio barhau, rhoddodd yr ymchwilydd ôl-ddoethurol wybod i’r brifysgol yn y DU nad oedd unrhyw eiddo deallusol wedi’i drosglwyddo ac y bydden nhw’n chwilio am bartneriaid amgen i barhau â’u hymchwil â nhw er bod cysylltiad wedi bod â phrifysgol sydd wedi’i chymeradwyo.
Mae’r Awdurdod Cenedlaethol er Diogelwch Amddiffynnol (NPSA) hefyd wedi cyhoeddi rhai fideos newydd byr sy’n ceisio helpu sefydliadau academaidd i ddeall a lliniaru’r risgiau diogelwch sy’n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil:
- Llywodraeth Awdurdodaidd
- Rhoi cyflwyniadau dramor a dull y llywodraeth
- Rheolyddion Allforio a Sancsiynau
Bydden ni hefyd yn argymell cyfeirio at Ganllawiau Ymchwil Ddibynadwy ar gyfer Academia yr Awdurdod Diogelwch Diogelu Cenedlaethol.
- February 2025
- September 2024
- June 2024
- March 2024
- February 2024
- November 2023
- September 2023
- June 2023
- May 2023
- January 2023
- December 2022
- November 2022
- October 2022
- September 2022
- July 2022
- May 2022
- April 2022
- January 2022
- December 2021
- November 2021
- August 2021
- July 2021
- June 2021
- February 2021
- January 2021
- November 2020
- October 2020
- September 2020
- August 2020
- July 2020
- June 2020
- April 2020
- March 2020
- February 2020
- January 2020
- December 2019
- November 2019
- October 2019
- September 2019
- August 2019
- July 2019
- June 2019
- May 2019
- April 2019
- March 2019
- February 2019
- January 2019
- December 2018
- November 2018
- October 2018
- September 2018
- August 2018
- July 2018
- June 2018
- May 2018
- April 2018
- March 2018
- February 2018
- Biosciences
- Careers
- Conferences
- Development
- Doctoral Academy Champions
- Doctoral Academy team
- Events
- Facilities
- Funding
- Humanities
- Internships
- Introduction
- Mental Health
- PGR Journeys
- Politics
- Public Engagement
- Research
- Sciences
- Social Sciences
- Staff
- STEM
- Success Stories
- Top tips
- Training
- Uncategorized
- Wellbeing
- Working from home