Skip to main content

Uncategorized

Cipolwg o’r hyn sydd ar y gweill i chi eleni

4 September 2024

Dros y misoedd diwethaf, mae’r Academi Ddoethurol wedi bod yn brysur yn cynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Rydyn ni’n credu’n gryf na allwch chi edrych ymlaen heb edrych yn ôl yn gyntaf, ac felly rydyn ni wedi treulio llawer o’n hamser yn ystyried yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf a’r hyn y gallwn ni ei wneud yn 2024/25 i helpu ein hymchwilwyr ôl-raddedig i ffynnu.

Edrych yn ôl ar 2023/24

Roedd 2023/24 yn gyfnod cynhyrchiol i’r Academi Ddoethurol. Yr adeg hon y llynedd, wrth inni agosáu at ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, fe wnes i gyhoeddi blog a oedd yn trafod ein hamcanion at y flwyddyn i ddod. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cyflawni’r mwyafrif helaeth ohonyn nhw.

Roedd 2023/24 hefyd yn flwyddyn o dwf. Mae hyn yn amlwg wrth ystyried mai’r rhaglen eleni oedd ein rhaglen fwyaf ers 2019. Yn ogystal â dyfarnu mwy na £15,000 o gyllid i gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ymgymryd â chyfleoedd datblygu a threfnu gweithgareddau, roedd ein rhaglen yn cynnwys 302 sesiwn mewn 92 pwnc. Cadwodd 1135 o fyfyrwyr gwahanol hefyd le ar ein sesiynau 5700 o weithiau.

Darganfyddwch fwy yn ein fideo Adolygiad Blynyddol:

Cau’r ddolen adborth

Un o’n blaenoriaethau hefyd eleni oedd casglu barn ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid, gan gynnwys Undeb y Myfyrwyr a’r ysgolion academaidd, am ein darpariaeth a’n gwasanaethau. Roeddwn ni hefyd yn ffodus o gael myfyriwr ymchwil ôl-raddedig o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Gifty Andoh Appiah, yn ymuno â ni ar interniaeth ymchwil â thâl ym mis Mai a Mehefin. Cynhaliodd Gifty adolygiad beirniadol o gynnig yr Academi Ddoethurol o safbwynt y myfyrwyr o ran amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, gan ddefnyddio grwpiau ffocws a thechnegau ansoddol eraill i feincnodi ein perfformiad yn unol â disgwyliadau cyllidwyr ac i lunio rhestr o argymhellion.

Edrych ymlaen

Er y byddwn ni’n paratoi ymateb llawn i’r adroddiad hwn yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni eisoes wedi dod o hyd i nifer o newidiadau a gwasanaethau newydd rydyn ni’n credu a fydd yn gwella profiad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn 2024/25, gan gynnwys:

  • Cynyddu nifer y sesiynau hybrid sydd ar gael yn ein rhaglen a gwneud pob un o’n digwyddiadau ymsefydlu/ailgyfarwyddo a’n hencilion i awduron yn hybrid fel mater o drefn;
  • Addasu’r amseroedd safonol o ran dechrau a gorffen digwyddiadau er mwyn osgoi’r adeg mynd â’r plant i’r ysgol ac yn gyffredinol helpu i hwyluso ymgysylltu i fyfyrwyr rhan-amser, gofalwyr a dysgwyr o bell;
  • Cael gwared ar yr angen i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gadw lle yn y rhan fwyaf o leoedd astudio’r Academi Ddoethurol, ac ystyried y posibilrwydd o gadw’r adeilad ar agor trwy’r dydd a’r nos, bob dydd;
  • Ailwampio tudalennau’r myfyrwyr ar y fewnrwyd a diweddaru ein modiwl ar Ddysgu Canolog, sef ‘Adnoddau i Fyfyrwyr Ymchwil’ er mwyn cyfeirio myfyrwyr yn haws, a bydd y ddau yn lansio ym mis Hydref;
  • Creu Rhwydwaith Cymorth Cyd-fyfyrwyr newydd, a fydd hefyd yn cael ei lansio ym mis Hydref. Bydd y Rhwydwaith yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd â diddordebau a chymhellion tebyg greu grwpiau cymorth dan ofal cyd-fyfyrwyr;
  • Ystyried opsiynau ar gyfer cymorth wedi’i deilwra ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig anabl a niwroamrywiol;
  • Anfon e-bost y digwyddiadau dysgu, sy’n cynnwys dyddiadau sesiynau sydd ar y gweill, unwaith yr wythnos yn hytrach nag unwaith y mis.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio tuag at yr amcanion hyn eleni. Cadwch lygad ar ein newyddion yn ystod y misoedd nesaf i gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn a digwyddiadau arloesol eraill.

– Dr James Farror, Pennaeth Datblygu a Phrofiad yr Academi Ddoethurol 


Bellach, gallwch chi weld yr holl gyrsiau a’r sesiynau sefydledig rydyn ni’n bwriadu eu cynnal eto yn ystod 2024/25 ar y Porth Dysgwyr.

Mae’n bwysig nodi ein bod yn cynllunio ein rhaglen yn weithredol drwy gydol y flwyddyn, yn seiliedig ar y galw gan fyfyrwyr ac argaeledd ein hyfforddwyr/hwyluswyr. Oherwydd hyn, nid oes dyddiadau ar gyfer bob un o’r sesiynau hyn eto, ond bydd y rhain yn cael eu hychwanegu ar sail achlysurol dros y misoedd nesaf.

Felly, rydyn ni’n cynghori’n gryf eich bod yn cadw llygad allan am fwletinau ein digwyddiadau dysgu misol, sy’n cynnwys dyddiadau ar gyfer sesiynau sydd ar ddod, ac yn bwysicaf oll, eich bod yn parhau i wirio’r Porth Dysgwyr yn aml.