Skip to main content

Cyflog bywCysylltiadau cyflogaethUncategorized

ShareAction – Defnyddio Buddsoddi i Hyrwyddo’r Cyflog Byw

18 Medi 2018

Yn ein postiad diweddaraf, eglura’r Athro Ed Heery un o nodweddion diffiniol ymgyrch Cyflog Byw y DU – sef iddo ddod i’r amlwg trwy gymdeithas sifil.

Datblygwyd y Cyflog Byw gan sefydliadau cymdeithas sifil – elusennau a chyrff anllywodraethol – sy’n mynd ati i hyrwyddo safonau llafur da ac i gyflogwyr eu mabwysiadu. Un sefydliad o’r fath sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer y Cyflog Byw yw ShareAction.

Mae ShareAction yn elusen ymgyrchu sy’n bodoli “i wneud buddsoddi yn ffynhonnell er budd” ac mae’n defnyddio actifiaeth gan gyfranddalwyr i annog ymddygiad cyfrifol gan gwmnïau mawr, rhestredig. Mae’n enghraifft drawiadol o’r hyn a ddisgrifir weithiau fel actorion cyflogaeth newydd (Heery and Frege 2006); hynny yw, sefydliadau cymdeithas sifil sy’n mynd ati i hyrwyddo buddiannau pobl sy’n gweithio trwy ddefnyddio dulliau sy’n wahanol i’r ddibyniaeth ar fargeinio ar y cyd a chyfraith cyflogaeth, sydd wedi nodweddu’r mudiad llafur traddodiadol ers tro.

Ymddwyn yn foesegol

Sefydlwyd ShareAction ddiwedd y 1990au, gan ddeillio o ymgyrch i annog Cynllun Pensiwn y Prifysgolion i ymwrthod â buddsoddi mewn gweithgynhyrchu arfau. Yn ei flynyddoedd cynnar, cyfeiriwyd gweithgarwch ymgyrchu at benderfyniadau buddsoddi cynlluniau pensiwn ond, ers hynny, mae ShareAction wedi datblygu strategaeth driphlyg, eang, i hyrwyddo buddsoddi cyfrifol.

Mae un elfen o’r strategaeth hon yn cynnwys lobïo i ddiwygio’r system fuddsoddi fel ei bod hi’n haws i fuddsoddwyr a’r cwmnïau y buddsoddant ynddynt wneud penderfyniadau moesegol. Mae ail elfen yn cynnwys hyrwyddo actifiaeth gan fuddsoddwyr, yn enwedig ymhlith cyfranddalwyr bach.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys hyfforddi ymgyrchwyr a chydlynu gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol a gweithgarwch arall ymgyrchu i roi pwysau ar fusnesau mawr i ymddwyn yn foesegol. Mae elfen olaf y strategaeth yn cynnwys cynnal ymgyrchoedd ar faterion penodol, pan gaiff Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol cwmnïau corfforaethol mawr eu targedu ag apeliadau i fabwysiadu polisïau moesegol.

Mae’r ymgyrchoedd hyn, sy’n seiliedig ar fater penodol, yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o weithgarwch busnes. Ar hyn o bryd, mae un ffocws mawr ar gynaliadwyedd amgylcheddol, gydag ymgyrchoedd ar wahân wedi’u hanelu at y diwydiant bancio a thanwydd ffosil i annog trawsnewid i economi carbon isel. Hefyd, mae ShareAction yn ymgyrchu ynghylch cynaliadwyedd cymdeithasol ac mae wedi hyrwyddo mwy o dryloywder mewn cadwyni cyflenwi byd-eang, trwy ei fenter Datgelu Gwybodaeth am y Gweithlu.

“Mae’n un o’r llu o sefydliadau ymgyrchu sy’n annog cwmnïau amlwladol yn y DU i gymryd mwy o gyfrifoldeb am amodau gweithio o fewn eu cadwyni cyflenwi.”

Mae ymgyrch y Cyflog Byw yn rhan o’r fenter hon i annog cynaliadwyedd cymdeithasol. Nod ShareAction yw y bydd holl aelodau’r FTSE100 yn talu’r Cyflog Byw ‘go iawn’ i’w holl weithwyr yn y DU; hynny yw, cyfradd cyflog fesul awr a gyfrifwyd gan y Living Wage Foundation, sydd â’r nod o roi safon byw rhesymol ond boddhaol i weithwyr cyflog isel. Mae’n ymgyrchu i fusnesau’r FTSE100 ennill achrediad ffurfiol gan y Living Wage Foundation fel Cyflogwyr Cyflog Byw, sy’n sicrhau’r Cyflog Byw nid yn unig i gyflogeion uniongyrchol ond i gyflogeion contractwyr sydd wedi’u lleoli’n barhaol yn eu busnes, fel staff glanhau, arlwyo a diogelwch.

Ymgyrchoedd, actifiaeth trwy grefft a galwadau am weithredu

Mae’r dulliau a ddefnyddir gan ShareAction i hyrwyddo’r Cyflog Byw yn nodweddiadol o’i repertoire ymgyrchu. Mae un elfen yn targedu buddsoddwyr sefydliadol ac mae ShareAction yn cynhyrchu Briffiau rheolaidd i Fuddsoddwyr ar y Cyflog Byw, sy’n egluro beth ydyw ac yn dadlau achos busnes dros ei fabwysiadu. Hefyd, mae wedi creu rhwydwaith parhaol o fuddsoddwyr sydd wedi ymrwymo i’r Cyflog Byw ac sydd eu hunain yn annog y cwmnïau y maent yn buddsoddi ynddynt i’w fabwysiadu. Pan fydd ymgyrch yn canolbwyntio ar aelod unigol o’r FTSE100, daw’r grŵp hwn o fuddsoddwyr ynghyd i ysgrifennu at y Prif Weithredwr a galw ar y busnes i ddod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig.

Ail ddull yw defnyddio ymgyrchu cyhoeddus i roi pwysau ar fusnesau blaenllaw, fel arfer yn ystod y cyfnod cyn cyfarfod blynyddol y cyfranddalwyr.

“O blith yr ymgyrchoedd hyn, cynhaliwyd un o’r amlycaf ar y cyd â’r Craftivist Collective yn 2015. Y targed ar yr achlysur hwn oedd Marks & Spencer a threfnodd yr ymgyrch gyfres o ‘stitch-ins’ mewn siopau M&S, lle y cafodd hancesi poced M&S eu brodio â galwadau ar i’r busnes fabwysiadu’r Cyflog Byw.”

Yna, cyflwynwyd yr hancesi poced hyn i aelodau bwrdd M&S, i gyfranddalwyr blaenllaw ac i enwogion a oedd yn cymryd rhan mewn hysbysebion M&S. Yn fwy diweddar, cafodd y cwmni adeiladu tai, Persimmon, ei dargedu trwy ddeiseb ar-lein yn beirniadu cyflog enfawr a ddyfarnwyd i’w Brif Weithredwr, gan amlygu y gallai’r dyfarniad ariannu talu’r Cyflog Byw i gyfanswm o 4,100 o weithwyr y DU.

Y dull olaf, sy’n diffinio dull ShareAction o weithredu, yw sicrhau presenoldeb yng nghyfarfod blynyddol cyfranddalwyr cwmnïau FTSE100 y gellir cyflwyno cynigion iddynt, sy’n codi cwestiwn ynghylch y Cyflog Byw ac yn galw am weithredu gan Fwrdd y cwmni. Mae ShareAction yn dal cyfranddaliadau ym mhob un o gwmnïau amlycaf y DU, gan ei alluogi i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd cyfranddalwyr, ac mae wedi datblygu rhwydwaith o fuddsoddwyr sy’n actifyddion, y gallant hefyd fod yn gyflogeion cwmnïau’r FTSE100, ac mae’n eu hyfforddi i ofyn cwestiynau a chyflwyno cynigion i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol cwmnïau.

Amcan allweddol ymyriadau fel y rhain yw sicrhau cyfarfod gydag uwch reolwyr i drafod achrediad Cyflog Byw. Yn aml, bydd y Living Wage Foundation, sef y corff achredu, yn cymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn a dyma pryd bydd ShareAction yn trosglwyddo’r awenau i’w chwaer-gorff anllywodraethol, a fydd yn goruchwylio’r broses o weithredu’r Cyflog Byw.

“Mae mwy na 30 o gwmnïau’r FTSE100 wedi ennill achrediad Cyflogwr Cyflog Byw yn sgil ymyrraeth gan ShareAction mewn cyfarfodydd i gyfranddalwyr, ac mae Croda International, Diageo, Informa, Ashtead Group a WPP wedi ennill achrediad yn ystod y 12 mis diwethaf.”

Perthynas gadarnhaol â busnesau

Mae dwy egwyddor drefniadol yn sylfaen i’r dull ymddangosiadol lwyddiannus hwn o ymgyrchu dros y Cyflog Byw. Yn gyntaf, mae ShareAction yn sefydliad rhwydweithio. Mae’n adeiladu ac yn cydlynu rhwydweithiau o fuddsoddwyr a chyfranddalwyr ac mae’n gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o gyrff ymgyrchu eraill i gyflawni ei amcanion. Mae ei weithgarwch ar y cyd â’r Living Wage Foundation yn rhagorol yn hyn o beth, ond gellir gweld yr un math o bartneriaeth mewn agweddau eraill ar waith ShareAction. Mae’n fath o weithredu sy’n aml yn nodweddu actorion cyflogaeth newydd o’r math hwn.

Yn ail, mae ShareAction yn ymgyrchu “heb fod yn ymosodol”. Er y gall ei ymgyrchu cyhoeddus godi cywilydd ar uwch swyddogion ac amlygu methiant corfforaethol, y diben bob amser yw defnyddio dylanwad buddsoddwyr i ddatblygu perthynas gadarnhaol â busnes. Y nod yn y pen draw yw darbwyllo uwch swyddogion i ymrwymo i amcanion yr ymgyrch mae ShareAction yn eu hyrwyddo.

Felly, rhaid pwysleisio nad yw ShareAction yn sefydliad gwrth-gyfalafol. I’r gwrthwyneb, mae ei waith yn seiliedig ar y gred bod modd diwygio’r system fuddsoddi ac y gall pwysau buddsoddwyr gael ei ddefnyddio i hyrwyddo mathau mwy cynaliadwy o weithgarwch busnes. Unwaith eto, mae hyn yn nodwedd gyffredin actorion cyflogaeth newydd – maent yn aml yn feirniadol o fusnesau ond yn ceisio darbwyllo corfforaethau bod gweithredu mewn modd ‘cynaliadwy’ yn fuddiol i fusnes yn y tymor hwy.

Mae ShareAction, fel llawer o gyrff ymgyrchu eraill o’r math hwn, o’r farn ei bod hi’n bosibl amlygu buddiannau cyffredin gyda busnesau, buddiannau cyffredin sy’n ymgorffori budd y cyhoedd.

Mae Ed Heery yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei ymchwil gyda’i gydweithwyr, Dr Deborah Hann a Dr Dave Nash, yn canolbwyntio ar weithredu’r Cyflog Byw yn y DU. Os hoffech ddarllen canfyddiadau’r gwaith ymchwil hwn, dilynwch y dolenni isod:

Heery et al. (2017) The Living Wage campaign in the UK, Employee Relations

Heery et al (2017) The Living Wage – Employer Experience

Heery et al (2018) Employers and the Real Living Wage: Responding to Civil Regulation

Cyfeiriad

Heery, E. and Frege, C. (2006). ‘New actors in Industrial Relations’, British Journal of Industrial Relations, 44/1: 6-1-4.