Skip to main content

Profiad myfyrwyr

O Aseiniad i Benodiad

8 Medi 2021
Euphoric young indian girl student winner celebrate victory triumph sit at home desk with laptop computer win online fortune feel excited get new job opportunity good exam result great news concept
Euphoric young indian girl student winner celebrate victory triumph sit at home desk with laptop computer win online fortune feel excited get new job opportunity good exam result great news concept

Yn ein post diweddaraf, yr ymgeisydd PhD Julie Sharmin Akter sy’n rhannu hac gyrfa a allai ei gwneud yn haws cael swydd ar ôl gadael y brifysgol.

Fel myfyrwyr ôl-raddedig, mae ein gyrfaoedd yn peri cyfyng-gyngor parhaus.

Dydyn ni byth yn siwr beth i’w ddewis o ran proffesiwn yn y dyfodol. Ddylen ni ymgeisio am brentisiaethau mewn diwydiant?  Ddylen ni barhau gydag astudiaethau pellach? Neu a ddylen ni fynd am entrepreneuriaeth a dilyn prosiect ein breuddwydion? Ond mae angen llawer o fuddsoddiad ar yr olaf, wrth gwrs!

Ac mae’n rhaid dod o hyd i amser i feddwl am y pethau hyn wrth i ni astudio, nid ar ôl graddio…

Felly, sut allwn ni baratoi ar gyfer y prawf mawr hwn?

Wel, dwyf i ddim yn arbenigwr, ond yn ystod fy nghyfnod yn astudio yn Leeds, Caerdydd ac yn addysgu ym Mhrifysgol Jagannath, rwyf i wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn brwydro â’r un pethau – a fi yn eu plith!

Felly o bosib gallaf i helpu?

Fel myfyrwyr â gradd busnes, rydym ni’n treulio 3 blynedd (4 weithiau) yn astudio llawer o fodiwlau gwahanol. Mae rhai ohonyn nhw’n gwbl feintiol (h.y. mathemateg ariannol, ystadegau) a rhai yn gwbl ansoddol (h.y. rheoli strategol, rheoli pobl). I’w pasio’n llwyddiannus, mae angen i ni gyflwyno nifer o aseiniadau unigol a grŵp (h.y. astudiaethau achos) a mynegi rhai tybiaethau fel argymhellion.

Pam wyf i’n dweud hyn wrthych chi? Wel, efallai y gallwn ni ddefnyddio’r aseiniadau hyn i helpu i baratoi ar gyfer penodiadau yn y dyfodol.

Er enghraifft, dychmygwch fod rhywun wedi gwirioni ar y sector manwerthu ac yn caru ceir fel BMW.

Nawr, os ydyn nhw’n canolbwyntio ar BMW ar gyfer eu haseiniad fel rhan o fodiwl rheoli strategol, yn darllen strategaeth fabwysiedig y cwmni ac yn ceisio cysylltu eu tactegau gyda theori, yna mae’n hawdd iddyn nhw ddeall cryfderau neu wendidau profadwy strategaethau gweithredu BMW, ar draws logisteg, gweithrediadau, ac weithiau weithgareddau marchnata.

Wrth symud ymlaen, os ydyn nhw’n dewis canolbwyntio ar yr un cwmni BMW ar gyfer y modiwl rheoli pobl, gallan nhw edrych yn fanwl ar yr agweddau mae’r sefydliad wedi’u mabwysiadu ar gyfer rheoli perthnasoedd dynol neu reoli perthynas â’r cwsmer.

Fel y gwelon ni yn yr enghraifft rheoli strategol, unwaith eto, byddan nhw mewn sefyllfa gref i ganfod cryfderau ac arferion gorau. Byddan nhw’n gwybod pam mai’r cwmni hwn yw’r gorau i weithio iddo neu sut mae’r cwmni’n sicrhau boddhad cwsmeriaid. Felly hefyd gallan nhw ganfod gwendidau, fel pam nad yw’r cwmni’n dda i weithio iddo neu sut mae’r cwmni’n ymdrin â chwynion cwsmeriaid. 

Gyda’i gilydd, mae’r aseiniadau hyn yn ffurfio ymchwil o eiddo’r myfyriwr ac yn cefnogi eu harbenigedd mewn perthynas â BMW. Mae’r aseiniadau hefyd yn gweithredu fel tystiolaeth gref (cofiwch mai arbenigwyr academaidd sy’n marcio’r aseiniadau) ar gyfer ceisiadau am swyddi yn y dyfodol. Ac felly, os oes cyfle i gyfiawnhau eu harbenigedd mewn cyfweliad am rôl prentisiaeth yn BMW, mae’n bosib y byddan nhw’n gwybod mwy nag ymgeiswyr eraill.

Dwyf i ddim yn dweud mai dyma’r unig ffordd y gallwn ddefnyddio ein haseiniadau, ond gallai fod yn un ffordd i feddwl am ein gyrfa yn y dyfodol a datblygu rhai medrau i’n helpu i gyflawni ein huchelgais ar hyd y ffordd.

Fe weithiodd i fi.

Cefais y syniad am fy nghynnig PhD o fodiwl ar reoli’r gadwyn gyflenwi yn Ysgol Busnes Leeds. Roedd Athro yno yn hoffi fy syniad ac fe anogodd fi i ddilyn fy llwybr PhD.

A dyma fi nawr.

Mae Julie Sharmin Akter yn ymgeisydd PhD yn yr Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyn dechrau ar ei hastudiaethau PhD, cwblhaodd ddwy raglen ôl-raddedig, y naill yn Ysgol Busnes Caerdydd a’r llall yn Ysgol Busnes Leeds. Ers hynny, mae hi wedi gweithio fel Ymchwilydd Ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd ac fel Athro Cynorthwyol ym Mhrifysgol Jagannath Bangladesh.