Skip to main content

Brexit

GIG Cymru: beth gallai tynged un sector ar ôl Brexit ei olygu i’r wlad gyfan

20 Medi 2019
Mae Brexit yn barhaus yn yr ystafell aros yn ôl pob golwg, ond sut allai effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru?

Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds a’i chydweithwyr o Uned Ymchwil Economi Cymru, Dr Annette Roberts a’r Athro Max Munday, yn ystyried tynged y GIG yng Nghymru ar ôl Brexit.

Un o’r pryderon mwyaf yng nghyswllt Brexit yw beth fydd yn digwydd i’r GIG pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE.  Ymhlith yr elfennau niferus sy’n ansicr mae’r posibilrwydd y gallai’r GIG fod yn rhan o drefniant masnach gyda’r Unol Daleithiau.  Er bod yr ysgrifennydd masnach rhyngwladol, Liz Truss, wedi dweud “na fydd yn cael ei roi ar werth”, does dim byd wedi cael ei gytuno eto.

Yn yr un modd, mae llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir na fyddai GIG Cymru yn rhan o unrhyw drefniant masnach rhwng yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig chwaith.  Mae gweinidog cysylltiadau rhyngwladol Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud “nad oes unrhyw siawns o gwbl” y bydd GIG Cymru yn cael ei ddefnyddio i daro bargen.  Ond er gwaethaf y safbwyntiau pendant, mae ansicrwydd ynghylch pwysau cyfreithiol a gwleidyddol yr honiadau hyn.

Nid oes neb yn sicr beth bydd tirlun ôl-Brexit yn ei olygu i’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cyffredinol yng Nghymru, neu’n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r craffu ar sut gallai hyn effeithio ar iechyd a llesiant pobl Cymru eisoes wedi cychwyn.  Ac yn awr mae ein gwaith ymchwil parhaus wedi dangos y gallai fod ansicrwydd economaidd i Gymru os bydd goblygiadau Brexit yn effeithio ar weithgarwch GIG Cymru.

Y GIG sydd angen y mewnbwn mwyaf o wariant cyhoeddus yng Nghymru.  Ar gyfer 2016-2017, mae ein cyfrifiadau yn nodi mai cyfanswm gwariant refeniw GIG Cymru (costau gweithrediadol pob dydd megis cyflogau a phrynu nwyddau, nid buddsoddiadau cyfalaf fel ysbytai newydd) yw £7.66 biliwn.  Ond canfuwyd bod manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i’r gwariant hwn, y tu hwnt i ofal iechyd uniongyrchol.

Gwerth GIG Cymru

Mae bron 45% (£3.5 biliwn) o wariant refeniw GIG Cymru yn talu am gyflogau a thâl 76,600 o staff, yn ogystal â 1,860 ychwanegol o staff asiantaethau.  Mae hyn yn golygu mai’r GIG yw un o brif gyflogwyr y wlad, ac yn cyfrif am 6% o gyflogaeth Cymru.  Ac nid yw’r ffigurau hynny yn cynnwys ymarferwyr cymunedol lleol fel Meddygon Teulu a deintyddion.

Mewn cyferbyniad i’r hyn a welwn mewn llawer o sectorau eraill yn yr economi (megis gweithgynhyrchu), mae cyflogaeth y GIG wedi’i wasgaru’n gymharol gyfartal ledled Cymru.  Mae’r gweithgaredd hwn yn darparu cyfraniadau pwysig i economïau lleol mewn rhai rhannau llai ffyniannus o’r wlad.  Mae rhanbarth de-ddwyrain Cymru, er enghraifft, yn cynnwys rhai o’r cyfraddau diweithdra uchaf yng Nghymru, mewn mannau megis Blaenau Gwent a Chaerffili.  Ond maeBwrdd Iechyd Aneurin Bevan ynddo’i hun yn cynnal dros 11,000 o swyddi yn yr ardal hon.

Nid yw manteision economaidd GIG Cymru wedi’u cysylltu â chyflogaeth uniongyrchol yn unig. Mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod 47% o wariant GIG Cymru, heb gynnwys cyflogau, yn aros yn economi Cymru.

Ledled Cymru, mae swyddi’r GIG hefyd yn talu’n well na chyfartaledd Cymru.  Mae cyflog cyfartalog gweithwyr y GIG yn agos at £34,000 y flwyddyn, tra bod cyfartaledd Cymru yn £24,600

Nid yw manteision economaidd GIG Cymru wedi’u cysylltu â chyflogaeth uniongyrchol yn unig, fodd bynnag. Gan ddefnyddio data a ddarparwyd gan GIG Cymru, rydym wedi amcangyfrif effeithiau lluosydd gwariant GIG yn y wlad,  hynny yw, yr incwm ychwanegol a gynhyrchir ar gyfer yr economi leol yn sgîl gwariant mewn maes penodol.  Mesurwyd yr effeithiau hyn fel gwerth gros a ychwanegwyd (mesur o’r nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn ardal) a nifer y swyddi CALl a gynhaliwyd.

Gan ddefnyddio data caffael y GIG, rydym hefyd wedi amcangyfrif cyfran y gwariant sy’n aros yn economi Cymru.  Mae cyfanswm y gwariant ar hanfodion pob dydd, o gyfarpar meddygol a llawfeddygol i fwyd a chyfleustodau, ychydig dros £4.2 biliwn.  Mae’r gwariant hwn yn arwain at ganlyniadau economaidd anuniongyrchol oherwydd bod cynhyrchwyr y nwyddau a’r gwasanaethau yn gwario arian ar ddiwydiannau eraill yng Nghymru.  Er enghraifft, mae cyflenwr dyfeisiau meddygol yng Nghymru yn prynu nwyddau metel yng Nghymru wrth greu ei gynnyrch.  Felly, mae caffael y GIG yn annog gwariant ychwanegol yn yr economi leol – mae’n creu’r hyn a elwir yn “effeithiau cyflenwr”.

Mae maint yr effeithiau hyn yn dibynnu ar ffynhonnell leol wreiddiol GIG Cymru, a faint o gynnyrch lleol a ddefnyddir ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.  At ei gilydd, mae ein gwaith ymchwil yn awgrymu bod 47% o wariant GIG Cymru, heb gynnwys cyflogau, yn aros yn economi Cymru.

Ymhlith manteision anuniongyrchol eraill gwariant y GIG mae’r effeithiau ar wariant aelwydydd – mae gweithwyr y GIG yn gwario arian ar nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru.  Yn yr un modd, mae gweithwyr mewn cwmnïau cyflenwi yn gwario’u cyflog yn yr economi leol, gan roi hwb pellach i’r galw. Trwy ychwanegu’r effeithiau hyn o ran sbarduno incwm at yr effeithiau cyflenwr, gallwn amcangyfrif cyfraniad llawn GIG Cymru i weithgarwch economaidd rhanbarthol.

Effaith economaidd

Wrth edrych ar y ffigurau hyn ochr yn ochr, rydym yn amcangyfrif bod bron 9% o’r cyfanswm gwerth gros a ychwanegwyd yng Nghymru (£5.4 biliwn) yn cael ei gefnogi gan effeithiau cyfunedig uniongyrchol gwariant GIG Cymru, ac yn effeithio ar weddill economi Cymru.

Mae nifer y swyddi a gefnogir yn bwysig iawn ar gyfer economi Cymru.  O ychwanegu at bron 78,500 sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol (gan gynnwys gweithwyr asiantaeth), amcangyfrifir bod 67,000 arall o swyddi CALl anuniongyrchol yn cael eu cefnogi.  Mae’r effaith gronnol yn fwy na 145,000 o swyddi CALl, neu ryw 11% o gyfanswm y bobl gyflogedig a hunangyflogedig yng Nghymru.  Nid yw’r ffigurau hyn yn ystyried y manteision ychwanegol yn sgîl rhaglen gwariant cyfalaf GIG Cymru.

O ddadansoddi hyn ymhellach, rydym yn amcangyfrif bod pob £1 biliwn o wariant refeniw uniongyrchol y GIG yn cynnal cyfanswm o bron 19,000 o swyddi yng Nghymru.   Canfyddir y rhain ar draws sectorau iechyd a rhai nad ydynt yn gysylltiedig â iechyd, gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu, manwerthu a gwasanaethau busnes a phroffesiynol.

Mae ein hymchwil yn dangos bod manteision y GIG yn estyn y tu hwnt i iechyd a llesiant i gynnwys nifer o ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd yn Nghymru. Er nad ydym yn gwybod eto a fydd amharu posibl oherwydd Brexit yn creu canlyniadau anfwriadol i economi Cymru, mae ein gwaith ymchwil yn dangos pa mor werthfawr yw’r GIG i Gymru.

Mae Dr Laura Reynolds yn Gydymaith Ymchwil ôl-ddoethurol yn Uned Ymchwil Economi Cymru,  Ysgol Busnes Caerdydd.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar The Conversation UK, mewn cydweithrediad â Dr Annette Roberts a’r Athro Max Munday.