Dewch i gwrdd â Chymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd
25 Ebrill 2023Dewch i gwrdd â Martha, ysgrifennydd Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd. Fe wnaethom ofyn i Martha, sy’n astudio Rheoli Busnes (BSc), i sôn am y gymdeithas a pham mae myfyrwyr yn ymuno…
Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn gymdeithas sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr. Gyda thros 3500 o fyfyrwyr yn yr ysgol busnes, dyma’r ffordd orau i fyfyrwyr gwrdd â phobl eraill o wahanol gyrsiau, blynyddoedd a chefndiroedd.
Mae’r gymdeithas hon yn tyfu’n barhaus ac rydym yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn academaidd gyda digwyddiad bob pythefnos. Mae gennym ni ddigwyddiadau cymdeithasol anacademaidd megis dawnsfeydd, nosweithiau cwis, a barbeciws haf. Cyn bo hir byddwn yn cynnal Dawns Ffarwel ar gyfer myfyrwyr yr ysgol busnes sy’n graddio eleni.
Mae gennym hefyd ddigwyddiadau gyda siaradwyr gwadd trwy gydol y flwyddyn lle rydym yn cael siaradwyr allanol i ymweld â ni o ystod eang o fusnesau i rannu eu straeon a chynnig cyngor. Ymhlith y siaradwyr a gawsom yn ddiweddar mae: Mark Sweeney, Prif Weithredwr yn Novo solutions, Ciaran Branney, Cyfarwyddwr Peirianneg yn Purple Sector, a Tillie Page, Hyfforddwr Busnes a Dechrau Busnes.
Mae ymuno â chymdeithas yn rhan allweddol o’ch bywyd prifysgol a bydd yn cyfoethogi eich profiad cyfan. Mae llawer o fanteision ond yr un gorau yw’r cyfleoedd diddiwedd i gwrdd â phobl.
Rwy’n rhan o’r pwyllgor sy’n rhedeg y gymdeithas a fi yw’r ysgrifennydd sy’n gwneud y gwaith gweinyddol, yn cadw cofnodion cywir ac yn cyfathrebu â’r pwyllgor ac aelodau’r gymdeithas. Rydw i wir wedi mwynhau fy rôl ar y pwyllgor eleni a bod yn rhan o’r gymdeithas. Mae wedi dysgu sgiliau amhrisiadwy i mi, fel rheoli amser, trefnu pobl, a chynllunio digwyddiadau. Gallaf drosglwyddo’r sgiliau hyn i fy mywyd gwaith.
Rydw i wrth fy modd yn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd gan fy mod yn teimlo’n rhan o gymuned sydd eisiau helpu eraill i ffynnu a llwyddo. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o brifysgol sy’n cefnogi ei myfyrwyr ac yn rhoi’r cyfleoedd gorau iddynt i’w helpu i wella mewn sawl ffordd. Gallai hyn gynnwys ymuno â’r ystod eang o gymdeithasau lle gallwch ddysgu sgil neu chwaraeon newydd neu gwrdd â phobl newydd o bob cefndir.
Mae’n hawdd ymuno â chymdeithas a gallwch roi cynnig ar gymdeithas cyn ymrwymo i brynu aelodaeth flynyddol. Mae’r mwyafrif o gymdeithasau’n cynnal sesiynau ‘rhoi cynnig arni’ ar ddechrau’r ddau semester er mwyn i fyfyrwyr allu dod draw i roi cynnig ar y gweithgareddau cymdeithasol, cwrdd â phobl, a gweld a yw’r gymdeithas yn cyd-fynd â’u diddordebau.
Mae Cymdeithas Ysgol Busnes Caerdydd yn codi £4 am aelodaeth flynyddol.
(Gall darpar fyfyrwyr ymuno ar ôl iddynt gofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd).
Mae dros 200 o gymdeithasau i ddewis ohonynt yn Undeb Y Myfyrwyr. Mae grwpiau ar gyfer Economeg, Ymgynghoriaeth, Cyllid, Masnachu ac Entrepreneuriaeth. Mae yna gymdeithasau penodol hyd yn oed i Taylor Swift, Yoga, Nofio Gwyllt, Dawns Hip Hop ac A-cappella, felly mae rhywbeth i bawb.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018