Cynilo Rhagofalus rhwng Cenedlaethau yn Ewrop
18 Hydref 2021Gall y teulu estynedig eich gofalu rhag digwyddiadau anffafriol. Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae Francesco Scervini a Serena Trucchi yn dogfennu sianel cynilo newydd, sef effaith ansicrwydd incwm y plentyn ar gynilion y rhieni, ac yn dangos ei rôl yn fframwaith pandemig COVID-19.
Yn ystod pandemig COVID-19, gwnaeth cyfraddau cynilo gynyddu mewn llawer o fannau lle ceir economi ddatblygedig.
Mae’r newid hwn yn adfywio diddordeb economegwyr a llunwyr polisïau yn y ffactorau sy’n rheoli gwariant ac arferion cynilo aelwydydd.
Mae’r ffactorau hyn yn allweddol i ddeall canlyniadau cynnydd o’r fath mewn cynilion cyfanredol i les unigol, effeithiolrwydd ymyriadau polisi i ysgogi galw cyfanredol a lefelau cyflogaeth a gweithgarwch ar ôl y pandemig.
Mae astudiaethau eraill wedi dangos mai rhagofal yw un o’r prif ffactorau sydd wedi achosi cynnydd mewn cynilion yn ystod pandemig COVID-19. Mae llawer iawn o ansicrwydd wedi bod yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ynghylch swyddi, incwm aelwydydd ac iechyd cyffredinol yr economi yn y dyfodol.
Gwnaeth y cynnydd hwn mewn ansicrwydd beri i bobl gynilo er mwyn bod â chlustog ar gyfer wynebu unrhyw gyfnodau gwael yn y dyfodol.
Mewn astudiaeth ddiweddar, dadansoddwyd y cysylltiad rhwng cynilion a risg incwm o safbwynt sy’n pontio’r cenedlaethau. Yn benodol, gwnaethom ymchwil i weld a yw ansicrwydd incwm y cenedlaethau iau’n effeithio ar arferion cynilo eu rhieni, ac i ba raddau.
Yn yr achos hwn, gall gweithwyr ar gam hwyr yn eu bywyd gwaith gynyddu faint o gynilion rhagofalus sydd ganddynt mewn ymateb i gynnydd mewn ansicrwydd incwm, hyd yn oed os bydd ansicrwydd incwm yn effeithio arnynt lai (am eu bod yn dibynnu ar ffynonellau incwm llai cyfnewidiol, fel budd-daliadau ymddeol, a chyfoeth cymharol fawr).
Felly, gall yr ysgogiad rhagofalus rhwng cenedlaethau i gynilo gyfrannu at esbonio cyfoeth a llwybrau cynilo unigolion ar gam hwyr yn y cylch oes, sef pobl sydd wedi ymddeol neu weithwyr sy’n agosáu at oedran ymddeol.
Yn ein hastudiaeth, dadansoddwyd penderfyniadau cynilo unigolion dros 50 oed o sampl o wledydd Ewropeaidd. Gwelsom fod ansicrwydd incwm yn y dyfodol yn peri i bobl gynilo – nid yn unig yr unigolyn y mae’r ansicrwydd yn effeithio arno, ond y rhieni hefyd.
Os bydd ansicrwydd incwm y plentyn yn cynyddu 1%, bydd y rhieni yn cynilo tua 0.4% yn fwy. Mae ein canlyniadau’n tynnu sylw at heterogenedd sylweddol yng nghryfder yr ysgogiad rhagofalus rhwng cenedlaethau ar draws y gwledydd i gynilo. Mae’r sianel hon yn gryfach lle mae system les wannach ar waith, sy’n gyson â rhywfaint o amnewidiadwyedd rhwng yswiriant preifat a chyhoeddus (rhwng cenedlaethau) i risg incwm.
Mae i’r canlyniad hwn oblygiadau i bolisïau perthnasol. Gellir newid cysylltiadau teuluol a rhwydweithiau anffurfiol am fesurau lles cyhoeddus, fel budd-daliadau diweithdra a phecynnau ysgogi, a fydd yn cael mwy o sgîl-effeithiau cadarnhaol na’r polisïau.
Mae Francesco Scervini yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Pavia (yr Eidal).
Mae Serena Trucchi yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’r canfyddiadau a drafodir yn yr erthygl hon yn seiliedig ar “Intergenerational Precautionary Savings in Europe” Scervini a Trucchi (2021), sydd i’w gyhoeddi yn Oxford Bulletin of Economics and Statistics.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018