Skip to main content

Economi DU

Mae’r duedd negyddol mewn newyddion ynglŷn â sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn effeithio ar ein parodrwydd i dalu trethi

3 Rhagfyr 2021

I ateb y galw ymhlith y cyhoedd am gynnwys negyddol, mae’r cyfryngau’n dueddol o roi gormod o sylw i newyddion negyddol. Mae Miloš Fišar, Tommaso Reggiani, Fabio Sabatini, a Jiří Špalek yn ysgrifennu bod y duedd negyddol wrth roi sylw i faterion polisi economaidd yn lleihau cydymffurfiaeth o ran trethi. Ar y llaw arall, pan fydd pobl yn cael gwybodaeth ddibynadwy am ddefnydd priodol o refeniw treth, mae cydymffurfiaeth yn cynyddu’n sylweddol. 

Pam ydym yn talu trethi? Nid dim ond oherwydd ein bod yn ofni archwiliadau a chosbau. Gall bodlonrwydd ar waith y llywodraeth a hyder mewn sefydliadau hefyd chwarae rhan mewn cydymffurfiaeth o ran treth.

Mae theorïau economaidd yn awgrymu bod dinasyddion sy’n credu nad yw’r llywodraeth yn gwario eu trethi mewn modd priodol yn tueddu i ymateb drwy wrthod talu eu hatebolrwydd treth cyfan. Ond yn lle hynny, dychmygwch sefyllfa lle mae cred gyffredin bod sefydliadau’n defnyddio trethi er mwyn ariannu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd trethdalwyr yn fwy parod i gydymffurfio, fel pe bai “contract seicolegol” ar waith gydag awdurdodau. Mae contract o’r fath yn dibynnu ar degwch y broses wleidyddol a dilysrwydd y canlyniadau polisi sy’n deillio ohoni.

Mae’r safbwyntiau hyn yn awgrymu bod gan wybodaeth am waith y llywodraeth a’r broses wleidyddol rôl hanfodol. Fodd bynnag, mae’r sylw a roddir i faterion economaidd a pholisi yn y cyfryngau yn bell o fod yn gytbwys. Mae’r cyfryngau torfol yn dueddol o roi gormod o sylw i newyddion negyddol gan eu bod yn ysgogi ymateb seicoffisiolegol cryfach yn y gynulleidfa, ac yn gweddu’n well i’r chwant am gynnwys negyddol ymhlith y cyhoedd. Mae’r duedd negyddol hon yn creu ‘sbiral o sinigiaeth’ yn y diwydiant. Mae’r galw ymhlith y cyhoedd am newyddion dramatig yn cryfhau’r cymhelliad ymhlith newyddiadurwyr a gwneuthurwyr newyddion i ddarparu cynnwys negyddol. Yn ddiweddar, mae lledaeniad naratifau sy’n feirniadol o’r sefydliad ac yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn mudiadau poblyddol wedi gwaethygu’r duedd negyddol mewn adroddiadau am effeithlonrwydd a thegwch sefydliadau cyhoeddus.

Sut mae’r duedd negyddol hon yn y sylw a roddir i faterion polisi economaidd yn effeithio ar gydymffurfiaeth o ran treth?

Arbrawf labordy

I ateb y cwestiwn hwn, cynhaliwyd arbrawf labordy arloesol gennym i astudio sut mae dod i gysylltiad â newyddion â thuedd yn effeithio ar gydymffurfiaeth. Cymharwyd cydymffurfiaeth dreth tri grŵp o bobl o dan amodau gwahanol. Gwyliodd y grŵp cyntaf newyddion â thuedd negyddol am waith y llywodraeth. Nod y driniaeth hon oedd adlewyrchu’r duedd i fod yn negyddol yn y cyfryngau, sef y status quo wrth roi gwybodaeth am arian cyhoeddus a materion polisi. Nesaf, dangosodd yr arbrofwyr newyddion cadarnhaol i’r ail grŵp o gyfranogwyr. Yn olaf, roedd grŵp rheoli a gafodd driniaeth blasebo.

Newyddion da yn arwain at gynnydd mewn cydymffurfiaeth o ran treth

O’i gymharu â’r driniaeth blasebo, nid yw dod i gysylltiad â newyddion negyddol yn effeithio ar gydymffurfiaeth o ran treth, sy’n cadarnhau bod cyfranogwyr yn ystyried tuedd negyddol y cyfryngau fel y norm yn hytrach na’r eithriad. Wrth i’r dewis newyddion a’i dôn wyro oddi wrth y status quo, gan arwain at gynnwys cadarnhaol, mae cyfranogwyr yn cydymffurfio gryn dipyn yn fwy na’r grŵp rheoli. Mae’r effaith yn sylweddol yn economaidd: nododd pobl a ddaeth i gysylltiad â newyddion da gyfradd gydymffurfio 23 pwynt canran yn uwch na’r rhai a ddaeth i gysylltiad â newyddion negyddol neu niwtral.

Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod naratif materion cyllid cyhoeddus a pholisi yn cael effaith bwysig ar gydymffurfiaeth o ran treth, gan awgrymu bod newyddion â thuedd yn ffynhonnell gyson o wybodaeth sy’n cael effaith seicolegol. Mae unigolion yn tueddu i ymateb gyda’r un ymddygiad maent yn ei weld gan y llywodraeth, ac yn fwy cyffredinol mewn sefydliadau cyhoeddus, fel pe bai dinasyddion a’r wladwriaeth yn cael eu rhwymo gan gontract seicolegol. Felly, mae tueddiad systematig y cyfryngau i ganolbwyntio ar newyddion negyddol yn arwain at gostau cymdeithasol cudd sy’n gysylltiedig ag anallu’r llywodraeth i fanteisio’n llawn ar ei photensial o ran refeniw treth a chyflawni nodau cyllidol, gydag effeithiau niweidiol ar ei gallu i ddarparu nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon.

Fodd bynnag, y canfyddiad mwyaf trawiadol yw’r effaith gadarnhaol y mae hyd yn oed ychydig o newyddion da am waith y sector cyhoeddus yn ei chael ar gydymffurfiaeth o ran treth. Mae greddf yn awgrymu bod darn o newyddion negyddol yn fwy trawiadol nag un da. Ond i’r gwrthwyneb, rydym yn gweld bod dangos nifer fach o ddarnau o wybodaeth ddibynadwy i gyfranogwyr am ddefnydd priodol o refeniw treth yn rhoi hwb sylweddol i gydymffurfiaeth.

Hyrwyddo sylw diduedd i newyddion da

Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gallai rhoi mwy o sylw diduedd i newyddion da (hefyd) gryfhau’r contract seicolegol rhwng trethdalwyr a’r wladwriaeth yn y pen draw.

Mae’r neges i lunwyr polisïau yn un syml. Gall polisïau cyhoeddus greu’r amgylchiadau i hyrwyddo cydymffurfiaeth o ran treth mewn ffyrdd nad ydym wedi eu hystyried o’r blaen. Gallai llunio strategaethau a chymhellion i annog gwybodaeth fwy cytbwys sy’n rhoi sylw diduedd i newyddion cadarnhaol helpu’r llywodraeth i gyflawni ei hamcanion refeniw treth. Gallai cynyddu cydymffurfiaeth arwain at gylch rhinweddol drwy wella’r ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus. Wrth fynd ar drywydd hyn, rhaid i awdurdodau ddiogelu’r hawl i feirniadu, sy’n cefnogi’r gred bod y broses wleidyddol yn deg a bod y canlyniadau polisi yn ddilys, gan gryfhau ymhellach yr awydd i gydymffurfio o ran treth.

♣♣♣

Nodiadau:

Cafodd yr erthygl hon ei chynnwys yn wreiddiol yn LSE Business Review