Skip to main content

Entrepreneuriaeth

A allwn ni ddysgu entrepreneuriaeth?

21 Chwefror 2019
Ein hystafelloedd dysgu yw’r canolfannau meithrin perffaith ar gyfer egin entrepreneuriaid

Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Shumaila Yousafzai yn dadlau dros ddull newydd o ddysgu entrepreneuriaeth, sy’n galw am weithredu, ymarfer ac arbrofi.

Dywedodd yr Athro Entrepreneuriaeth o America, Jeff Timmons unwaith: “Nid yw [Entrepreneuriaeth] yn ymwneud â chwmnïau newydd, cyfalaf a chreu swyddi, nac arloesi, na chreadigrwydd na datblygiadau. Mae hefyd yn ymwneud â meithrin ysbryd dynol dyfeisgar a gwella dynol ryw.”

Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’r pwyslais cyffredinol ar arwyddocâd ac effaith bosibl entrepreneuriaeth fel grym economaidd pwerus wedi cynyddu’n fawr.

Ac eto, mae’r ymateb ym maes addysg entrepreneuriaeth, hynny yw, sut rydym yn addysgu pobl i ddilyn eu syniadau busnes eu hunain, wedi bod rhywfaint yn ddiffygiol.

Yn hytrach, mae ymchwilwyr ac ymarferwyr ar draws y DU a’r byd yn parhau i gnoi cil ynghylch a ellir dysgu entrepreneuriaeth.

Dirgelwch a hud a lledrith

Ymgynghorydd rheoli, addysgwr ac awdur o America, Peter Drucker

Yn lle’r athroniaeth hon, rwy’n credu y byddem yn gwneud yn dda i gofio datganiad Peter Drucker ar y pwnc.

Dywedodd: “Nid hud a lledrith yw entrepreneuriaeth, nid yw’n ddirgel ac nid yw’n gysylltiedig â genynnau mewn unrhyw ffordd. Mae’n ddisgyblaeth. Ac, fel unrhyw ddisgyblaeth, fe ellir ei dysgu.”

Rydym ar ei hôl hi fel addysgwyr, ac ni ddylid tanbrisio gwerth ein rôl ni wrth annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i fynd i’r afael â’r heriau byd-eang.

“Ein hystafelloedd dysgu yw’r canolfannau meithrin perffaith ar gyfer egin entrepreneuriaid.”

Ac o ran addysg, rwy’n credu o hyd mai dyma’r cyfrwng perffaith i ailddiffinio ac ehangu astudiaeth bwrpasol a chamau gweithredu a allai arwain at fywyd a byd gwell.

Mae cynnwys yn dod yn fwy gwerthfawr, mae addysg rheoli busnes, yn gyffredinol, a’n rôl a’n dulliau addysgu fel addysgwyr a’n rhyngweithiadau yn yr ystafell ddosbarth yn cael eu cwestiynu.

Rydym yn cael ein harchwilio, ‘does dim dwywaith ynghylch hynny.  Ac nid yw’r ffordd rydym yn darparu addysg am entrepreneuriaeth yn eithriad.

Dysgu drwy weithredu

Dywedodd Peter Drucker hefyd: “Nid yw entrepreneuriaeth yn wyddoniaeth nac yn gelfyddyd. Ymarfer ydyw.”

Heddiw, yn fwy nag erioed, dylem fod yn meithrin meddylfryd entrepreneuraidd ymhlith ein myfyrwyr drwy fagu brwdfrydedd entrepreneuraidd yn eu plith a rhoi profiadau iddynt i ymarfer entrepreneuriaeth yn rhan o’n rôl fel addysgwyr. 

Trwy ddull sy’n seiliedig ar ymarfer, rydym yn gallu sicrhau bod myfyrwyr yn arwain bywyd mwy entrepreneuraidd, yn magu tueddiad i weithredu ac yn ymgymodi ag ansicrwydd. 

Gellir cynhyrchu gwerth gyda bron i ddim byd

Rydym wedi dechrau archwilio’r egwyddorion hyn ar y modiwl Venture Growth ein MSc mewn Strategaeth Busnes ac Entrepreneuriaeth  drwy weithgarwch rydym yn ei alw yn yr ‘Her Adnoddau’.

Dyma ymarfer a addaswyd o Tina Seelig, Athro Ymarfer yn Adran y Gwyddorau Rheoli a Pheirianneg ym Mhrifysgol Stanford ac mae’n wers wych i ddechrau busnes gydag ychydig iawn o arian.

“Mae myfyrwyr yn dysgu’n gyflym nad arian parod neu adnoddau ffisegol yw eu hased mwyaf. Maen nhw’n cydnabod bod dechrau gyda’r hyn sydd gyda nhw, yn hytrach na’r hyn sydd ei angen arnynt, yn cynyddu pa mor debygol ydynt o lwyddo.”

Mae’r ymarfer yn dangos bod modd cynhyrchu gwerth gyda bron i ddim byd, ac mae’n helpu myfyrwyr i gymhwyso meddylfryd entrepreneuraidd a chreadigol er mwyn caffael adnoddau.

Meddwl am arian parod yn olaf

Mae hefyd yn annog y myfyrwyr, ein darpar-entrepreneuriaid yn y dyfodol i “feddwl am arian parod yn olaf.”

Yn un o’r heriau adnoddau, gwelwyd y myfyrwyr, mewn grwpiau, yn mynd â bag o glai ac yn gwneud arian o addurniadau yr oeddent yn eu ffurfio gyda’r deunydd crai.

Her arall gyda’r adnoddau oedd lansio busnes a oedd yn gysylltiedig â Dydd Sant Ffolant lle roddwyd talebau Amazon iddynt ac fe’u rhannwyd i grwpiau. Roedd modd i’r myfyrwyr fenthyca adnoddau o’u rhwydwaith o ffrindiau (e.e. glud, paent, gliter ac ati) neu o ddroriau eu ceginau, ond nid oeddent yn gallu defnyddio arian i gael gafael ar adnoddau.

‘Her Adnoddau’ Dydd Sant Ffolant

Rhoddwyd y cyfarwyddiadau canlynol iddynt:

  • Gall eich tîm wario cymaint o amser ag yr hoffech yn cynllunio, ond unwaith y byddwch yn dechrau masnachu, pedair awr yn unig fydd gyda chi i wneud cymaint o arian ag sy’n bosibl
  • Ni allwch gymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon
  • Ni allwch gasglu arian parod cyn neu ar ôl y pedair awr
  • Ni allwch wneud unrhyw beth ar ôl y pedair awr

Gwnaeth ein myfyrwyr godi cyfanswm o £655.90.

Roddwyd yr elw i The Children Recovery Foundation (TCRF), sef cartref plant amddifaid o oddeutu 300 o blant ifanc yn Sierra Leone.

Mae Yaina Samuels yn Entrepreneur Preswyl yn Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae ganddi 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn sefydliadau preifat, cyhoeddus ac yn y trydydd sector

Mae cysylltiad agos rhwng Yaina Samuels, un o’n Entrepreneuriaid Preswyl â TCRF, ac ysgrifennodd am ei hangerdd dros weithio ar ochr gymdeithasol entrepreneuriaeth ar y blog hwn y mis diwethaf.

Mae hi yn Sierra Leone ar hyn o bryd, lle cynhaliodd alwad fideo gyda’n myfyrwyr o’r cartref plant amddifaid. Nododd Yaina fod TCRF yn gallu talu rhent am hanner y flwyddyn gyda’r cyllid, a gwnaethant hefyd fynd â’r plant amddifad i’r traeth am ddiwrnod.

Mewn cyfnod lle mae addysg entrepreneuriaeth yn ffrwydro ar draws y byd, mae angen dulliau newydd o addysgu entrepreneuriaeth. Mae hyn er mwyn ateb y galw yn ogystal â chadw golwg ar natur newidiol entrepreneuriaeth.

Mae Dr Shumaila Yousafzai yn Ddarllenydd mewn Entrepreneuriaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.