Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Ystyried pynciau dysgu ac addysgu pwysig drwy ddull Caffi’r Byd

4 Hydref 2024

Dechreuodd Caffi’r Byd ym 1995 yng Nghaliffornia. Mae’n seiliedig ar saith egwyddor sy’n cynnwys creu lle croesawgar, trafod cwestiynau o bwys, gwrando ar ein gilydd, chwarae, dwdlo a chael hwyl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Caffi’r Byd.

Mae modd i unrhyw un sy’n addysgu neu sy’n cefnogi dysgu fynd i ddigwyddiadau Caffi’r Byd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys tiwtoriaid graddedig, arddangoswyr graddedig a staff y Gwasanaethau Proffesiynol. Mae’r digwyddiadau’n dod ag aelodau o’r staff ynghyd i wrando ar safbwyntiau gwahanol, gan arwain at oleuni newydd a chyd-ddoethineb (Brown ac Isaacs, 2005). Cafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn 2022, ac ers hynny, mae’r Tîm Cymrodoriaethau wedi cynnal 14 o ddigwyddiadau, gyda phob un yn canolbwyntio ar bwnc dysgu ac addysgu penodol. Ceir trafodaethau bord gron sy’n codi uwchlaw ffiniau ysgolion academaidd, rolau a chyfarwyddiaethau. Yn ogystal â chael sgyrsiau, mae pawb yn cael eu hannog i dynnu neu fraslunio eu hatebion i gwestiynau, sy’n helpu i ysgogi meddwl a datblygu syniadau, ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth (Alexander, 2019) a chryfhau ymarfer myfyriol (Simpson, 2016). Dewch i roi cynnig arni!

Mae Dr Walter Colombo, darlithydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn mynd i ddigwyddiadau Caffi’r Byd yn rheolaidd. Dyma beth sydd ganddo i’w ddweud:

“Y tro cyntaf i mi glywed sôn am ddigwyddiadau Caffi’r Byd oedd ychydig dros flwyddyn yn ôl, wrth ddilyn rhaglen Cymrodoriaethau Addysg. Roedden nhw i’w gweld yn gyfle da i gymharu a chyfnewid gwybodaeth am ddulliau a phrofiadau addysgu gydag eraill. Fodd bynnag, roedd yn glir o’r dechrau bod gan y digwyddiadau hyn lawer mwy i’w gynnig, oherwydd natur tra amrywiol y grŵp o unigolion sy’n cymryd rhan ynddyn nhw. Ymhlith y rhain mae unigolion sy’n ymgeisio am gymrodoriaethau, darlithwyr ac addysgwyr ar raddau gwahanol, siaradwyr gwadd a hwyluswyr. Mae’r amrywiaeth enfawr hon yn gwneud y digwyddiadau hyn yn gyfle gwirioneddol unigryw i rannu, trafod a dysgu sut mae technegau a dulliau addysgol yn cael eu defnyddio mewn gwahanol ysgolion, yn ogystal â chlywed yn uniongyrchol gan addysgwyr sydd â rolau, profiadau ac arbenigedd gwahanol.

Mae natur y digwyddiadau, sy’n seiliedig ar thema benodol, nid yn unig yn ysgogi dadansoddiadau manwl a thrafodaethau bywiog ar bynciau addysgol amrywiol ond hefyd yn ein galluogi i ymchwilio i amrywiaeth eang o sianeli cyfathrebu. Gall y rhain gynnwys sioeau sleidiau mwy traddodiadol, celfyddydau gweledol a hyd yn oed gerddoriaeth a sesiynau amlgyfrwng weithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r amser yn y digwyddiadau ar gyfer rhyngweithio â’r rhai sy’n bresennol. Rydyn ni’n cyfnewid profiadau, yn cael trafodaethau, yn ymchwilio i ddulliau amgen ac yn chwilio am atebion newydd i broblemau cyffredin.

Mae digwyddiadau Caffi’r Byd yn chwa o awyr iach yn y byd academaidd – amgylchedd lle rydyn ni’n rhy aml yn glynu wrth ein harferion dyddiol a’n hymrwymiadau. Maen nhw’n ein hatgoffa ni ein bod ni i gyd yn addysgwyr a ddylai geisio gwella ein methodolegau a strategaethau addysgu’n barhaus. Dim ond drwy broses o gymharu a rhyngweithio â chydweithwyr eraill a’r rhai y tu allan i’n meysydd penodol, waeth beth yw ein rolau a ble rydyn ni arni yn ein gyrfaoedd, y gallwn ni gyflawni hyn.”

Ymunwch â ni

Edrychwch ar y pynciau, y dyddiadau a’r amseroedd ar y daflen sy’n rhestru digwyddiadau Caffi’r Byd yn 2024-25, sy’n cynnwys y ddolen i gadw eich lle. Bydden ni’n falch iawn o’ch gweld yn y digwyddiadau!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi gyd-hwyluso digwyddiad Caffi’r Byd, cysylltwch ag Alyson Lewis: LewisA81@caerdydd.ac.uk

Cyfeirnodau

Alexander, R. (2019). Dialogic Teaching. Ar gael yn https://robinalexander.org.uk/dialogic-teaching/ [Cyrchwyd: 23 Chwefror 2023]

Brown, J. ac Isaacs, D. (2005). The World Café: Shaping Our Futures Through Conversations That Matter. UDA: Berrett-Koehler Publishers

Simpson, A. (2016). ‘Designing pedagogic strategies for dialogic learning in higher education’ yn Technology, Pedagogy and Education 25(2), tud. 135-151

Deunydd darllen pellach

Estacio, E. a Karic, T. (2016). ‘The World Café: An innovative method to facilitate reflections on internationalisation in higher education’ yn Journal of Further and Higher Education 40(6), tud. 731-745

Lorenzetti, L., Azulai, A. a Walsh, C. (2016). ‘Addressing Power in Conversation: Enhancing the Transformative Learning Capacities of the World Café’ yn Journal of Transformative Education 14(3), tud. 200-219

Pinto-Pinho, P., Ferreira, A., Matos, B., Santiago, J., Henriques, M., Corda, P., Lima, T., Rodrigues, M., Pereira, M.L. a Fardilha, M. (2003). ‘The World Café method and spaces dedicated to active teaching & learning: A dynamic combo that motivates students for biosciences learning’ yn Innovations in Education and Teaching International, tud. 1-15