Un o’n Partneriaid Academaidd newydd, Dr Angharad Naylor
23 Medi 2022Beth yw eich rôl yn y brifysgol?
Rwy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg. Rwyf wedi ymgymryd â llawer o rolau gweinyddol yn yr ysgol, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, hefyd Cyfarwyddwr Recriwtio a Marchnata, ac Uwch-diwtor Personol.
Dywedwch wrthym am eich hanes yn y brifysgol
Rwyf wedi cyfrannu at nifer o Brosiectau Partneriaeth gan gynnwys prosiectau Cymunedau Dysgu a Llais y Myfyrwyr. Rwyf wedi gweithio’n agos gyda Brand Caerdydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ogystal â Deon y Gymraeg ac Academi’r Gymraeg er mwyn datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol.
Rwy’n mwynhau pob agwedd ar gydweithio â myfyrwyr trwy addysgu, dysgu a chyfleoedd allgyrsiol yn ogystal â thrwy weithgareddau cefnogi fel tiwtora personol a’r rhaglen fentora.
Mae’r profiadau hyn a’r cysylltiad parhaus â gwella profiad myfyrwyr wedi fy arwain at y rôl Bartner Academaidd benodol hon ar gyfer Cymorth Dysgu Personol.
Beth fydd eich rôl newydd yn ei olygu?
Byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol i ddatblygu’r ffyrdd yr ydym yn cefnogi staff a myfyrwyr yn ystod eu taith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Beth sy’n eich cyffroi am fod yn Bartner Academaidd?
Rwy’n edrych ymlaen at edrych ar ffyrdd y gallwn ddatblygu arferion gorau mewn tiwtora personol, gan adeiladu ar arferion cyfredol yn ogystal â dylunio a chyflwyno gweithgareddau ac adnoddau fydd yn cefnogi staff a thiwtoriaid ymhellach wrth helpu myfyrwyr.
Bydd y rhain i gyd yn parhau i wella profiad myfyrwyr yn ogystal â gwella’r ffyrdd y caiff ysgolion, gwasanaethau academaidd a staff eu cefnogi er mwyn rhoi cymorth dysgu cynhwysol effeithiol ac o ansawdd uchel i fyfyrwyr.