Sylw i brosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr
8 Rhagfyr 2021Ysgrifennwyd gan Hyrwyddwyr Myfyrwyr Saffron Corbyn ac Aleks Tanaka
Y prosiect rydyn ni’n gweithio arno yw ‘Connectedness in Bioscience’ gyda Dr Isaac Myers, pennaeth Blwyddyn 1 yn yr Ysgol Biowyddoniaeth. Mae’r pandemig yn golygu fod gwneud ffrindiau ym mlwyddyn gyntaf y brifysgol wedi dod yn her fawr a nod y prosiect hwn yw goresgyn unigrwydd ym myfyrwyr Biowyddoniaeth Blwyddyn 1 trwy greu gwahanol gyfleoedd i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gael mwy o gysylltiad â’u cyfoedion a dod yn fwy cyfarwydd â’r myfyrwyr y byddant yn treulio eu blynyddoedd prifysgol gyda.
Rydym wedi parhau â’r gwaith a gyflawnwyd y llynedd trwy reoli’r sesiynau cymheiriaid. Yn y sesiynau yma, mae timau yn cael eu creu trwy Microsoft Teams, lle mae myfyrwyr yn cael ei rhoi mewn grŵp â nifer o rai eraill. Yn eu hamserlenni, mae lle ar gyfer un sesiwn yr wythnos lle gallant drefnu cyfarfod hefo’r tîm i wneud unrhyw weithgaredd y maen nhw’n ei ddymuno, yn academaidd neu’n gymdeithasol. Rydym wedi cymryd rheolaeth o’r sesiynau cyfoedion hyn a gwneud unrhyw newidiadau sydd angen i grŵp lle mae myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu ag aelodau eraill o’u tîm. Rydym hefyd wedi anfon arolygon i gael barn myfyrwyr ar sut maen nhw’n teimlo am y sesiynau cyfoedion ac a ydyn nhw’n teimlo fel eu bod nhw wedi cysylltu â myfyrwyr eraill yn eu grŵp blwyddyn. Yna gobeithiwn gymharu canlyniadau’r arolwg hwn â chanlyniadau’r llynedd i arsylwi a yw sesiynau cymheiriaid wedi gwella eu profiad.
Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynnal noson gwis myfyriwr yn erbyn darlithydd mewn Biowyddoniaeth cyn y Nadolig. Mae hyn er mwyn rhoi cyfle wyneb-yn-wyneb i ddatblygu unrhyw ryngweithio ar-lein y mae myfyrwyr wedi’i wneud trwy sesiynau cyfoedion. Bydd hyn hefyd yn diystyru unrhyw feddyliau nerfus y gall rhwystro myfyrwyr rhag rhyngweithio â darlithwyr. Rydym yn hynod gyffrous am ddatblygiad y prosiect hwn ac i weld yr effaith gadarnhaol y gallwn ei chael.