Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr y Mis: Ioana a Sara

16 Rhagfyr 2021

Llongyfarchiadau i Ioana a Sara, sydd wedi cael eu henwi’n Hyrwyddwyr y Mis ar gyfer mis Rhagfyr.

Mae gan Ioana ymagwedd gadarnhaol. Hoffem ddiolch iddi am fod yn ddibynadwy, hyblyg a chadarnhaol yn ystod y semester hwn pan oedd angen hyrwyddwyr ar y funud olaf. Mae Ioana wedi cyfrannu’n fawr tuag at y prosiect a’r tasgau sy’n cael eu cynnal gan y cynllun. A hithau’n uwch hyrwyddwr, mae hi wedi cynnig cipolwg allweddol i helpu i wella’r cynllun ar gyfer ein hyrwyddwyr.

Mae Sara wedi rhoi ymrwymiad ac ymroddiad mawr i’r cynllun. Mae’n cymryd rhan weithredol ym mhob tasg ac yn cynhyrchu gwaith o safon uchel iawn. Ar hyn o bryd mae hi’n aelod gweithgar o’r prosiect Cyfathrebu a Marchnata – Sgiliau Academaidd a Mentora ac wedi rhoi cipolwg amhrisiadwy sydd wedi helpu i lywio’r gwaith prosiect i wella profiad y myfyriwr.

Rydym am ddiolch i Ioana a Sara am fod yn aelodau gwych o’r tîm ac am weithio gyda ni i wella profiad myfyrwyr i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ac os oes gennych ddiddordeb mewn cynnwys yr Hyrwyddwyr yn eich gwaith, anfonwch ebost at flwch post pencampwyr y myfyrwyr,cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk.

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr