Prosiect Hyrwyddwyr Myfyrwyr y Mis: Mawrth
4 Ebrill 2022Ysgrifennwyd gan Tomos Lloyd a Joy Okeyo
Rydym wedi bod yn gweithio ar Brosiect Llais Myfyrwyr yn ENCAP gyda Robert Meredith o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (ENCAP). Nod y prosiect hwn yw gwneud yn siŵr bod y cylch adborth rhwng staff a myfyrwyr yn yr Ysgol yn effeithlon ac yn ymatebol, gan alluogi pob myfyriwr i fynegi pryderon a rhoi adborth yn hawdd i’r staff yn yr Ysgol a sicrhau eu bod yn ystyried ac yn gwrando ar yr adborth. Mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfle i’r Ysgol werthuso systemau presennol o roi adborth ac ystyried awgrymiadau newydd sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o’r Brifysgol.
Yn seiliedig ar sgyrsiau ag Ysgolion a staff eraill ar draws y Brifysgol, rydym wedi awgrymu sawl cam gweithredu i wella’r cylch adborth a sicrhau bod adborth yn gynrychioliadol o’r garfan. Un o’r platfformau rydym wedi ystyried eu cyflwyno yn yr Ysgol er mwyn hwyluso hyn yw Unitu. Mae wedi bod yn effeithiol mewn Ysgolion eraill o ran cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n ymgysylltu a’r broses rhoi adborth ac yn cymryd rhan ynddi. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Ysgol ar y prosiect hwn ac yn edrych ymlaen at nodi rhagor o atebion.
Prosiectau’r gorffennol
https://blogs.cardiff.ac.uk/LTAcademy/cy/2022/03/03/prosiect-hyrwyddwyr-myfyrwyr-y-mis-chwefror/
https://blogs.cardiff.ac.uk/LTAcademy/cy/2021/12/20/dadansoddeg-dysgu-ym-mhrifysgol-caerdydd/
https://blogs.cardiff.ac.uk/LTAcademy/cy/2021/12/08/sylw-i-brosiect-hyrwyddwyr-myfyrwyr/