Skip to main content

Heb gategori

Profiad myfyriwr – LinkedIn Learning

19 Ionawr 2022

LinkedIn Learning: Trysorfa o adnoddau nad ydych o bosibl wedi clywed amdani!

Ysgrifennwyd gan Jade Tucker (Hyrwyddwr Myfyrwyr)

A minnau’n fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn sy’n astudio Seicoleg, byddech o bosibl yn tybio fy mod yn gwybod popeth sydd i’w wybod am y casgliad o adnoddau a chyrsiau dysgu rhithwir sydd ar gael i fyfyrwyr ar y fewnrwyd. Fodd bynnag, nid tan i mi achub ar gyfle i ymgymryd â phrosiect drwy’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr y cefais wybod am LinkedIn Learning, ac ni allwn ystyried dysgu hebddo erbyn hyn!!


Mae LinkedIn Learning yn blatfform dysgu ar-lein. Mae ei gynnwys yn amrywio’n fawr ac yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau proffesiynol, creadigol a thechnegol. Y newyddion da yw ei bod yn cymryd llai nag awr fel arfer (llawer llai na hynny’n aml) i wneud y cyrsiau arno.

Mae mor hawdd creu cyfrif. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi yw eich manylion mewngofnodi yn y Brifysgol. Mae gwneud hynny’n agor y drws i amrywiaeth eang o gynnwys dysgu newydd sy’n ymdrin ag amrywiaeth o egwyddorion academaidd. A minnau’n fyfyriwr sy’n astudio Seicoleg sydd hefyd yn casáu’r modiwlau ystadegol, byddai’n rhaid i mi argymell y cyrsiau ystadegol fel Statistics Foundations: The Basics, sy’n cynnwys cynllun gwers hawdd ei ddeall, trawsgrifiad manwl a chwisiau pennod gwych. Rwy’n fwy hyderus y byddaf yn hwylio drwy’r arholiadau yn fy mlwyddyn olaf, a byddwch chi’n teimlo’r un ffordd hefyd gyda LinkedIn Learning!

Mae LinkedIn Learning nid yn unig yn cefnogi eich dysgu yn y Brifysgol, ond hefyd yn addysgu amrywiaeth o sgiliau defnyddiol i chi (ac yn bwysicaf oll, yn rhoi tystysgrifau sy’n tynnu sylw cyflogwyr at y sgiliau hynny) i gyfoethogi eich CV a llenwi’r adran ofnadwy honno ar gyflawniadau. Rwyf eisoes wedi cael tystysgrifau ar gyfer datblygu gwydnwch, iechyd meddwl, diogelu a pharodrwydd i newid, yr holl bethau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, i gyd yn fy wythnos gyntaf!

Mae’r cyrsiau’n hawdd eu dilyn. Mae eich sgiliau newydd a’r tystysgrifau’n siŵr o wneud i chi sefyll allan yn y farchnad swyddi a’ch helpu i sicrhau cyfweliadau. Hyd yn hyn, mae fy mhrofiad o ddefnyddio LinkedIn Learning wedi bod yn wych, ac rwy’n hyderus y bydd eich profiad chi o’i ddefnyddio’n wych, hefyd!