Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Myfyrio ar ein digwyddiad mis Mai yn y gyfres seminarau Cymrawd Addysgu Cenedlaethol (NTF) gyda Nigel Francis

30 Mai 2024
Ysgrifennwyd gan Dr Nigel Francis, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau a’r Athro Emmajane Milton, Athro mewn Ymarfer Addysgol.

Cawson ni sesiwn drafod wych a diddorol arall ar y 15 Mai 2024 yn ein cyfres rwydweithio a thrafod rheolaidd Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol (NTF).

Rhoddodd sesiwn Nigel o’r enw “Asesiadau sy’n annog cydweithio ac nid cydgynllwynio: pwysigrwydd gwaith tîmysgogiad i gydweithwyr ystyried manteision a heriau ymgorffori gwaith tîm yn asesiadau myfyrwyr. Rhannodd Nigel ei brofiadau o weithio fel hyn ac esboniodd y manteision sylweddol i staff a myfyrwyr, yn enwedig o ran llwyth gwaith staff. Mae gwaith tîm yn ymdrech gymdeithasol ac yn hollbwysig, mae’n helpu myfyrwyr i feithrin perthnasoedd â’i gilydd. Gwnaeth hyn i mi feddwl sut gallwn ni ddefnyddio’r mathau hyn o ffyrdd o weithio i feithrin profiadau cadarnhaol, cefnogol a cholegol sy’n cefnogi ein myfyrwyr i fod yn llwyddiannus, i feithrin ymdeimlad o berthyn, a gwella eu llesiant. Mae hyn yn arbennig o bwysig ei bod yn ymddangos bod llawer o fyfyrwyr yn parhau i deimlo rhywfaint o unigedd ers y pandemig….

Buom yn trafod sut i reoli deinameg grŵp a’r tensiynau a all ddigwydd yn achlysurol, a sut i liniaru hyn. Roedd y syniadau hyn yn cynnwys mynd ati’n rhagweithiol i addysgu’r disgwyliadau o’r hyn sy’n gyfystyr â gwaith tîm gwych, a chael mecanweithiau ar gyfer hunanreoleiddio grŵp. Mae gan y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg adnoddau defnyddiol iawn ar gyfer y rhai sy’n ystyried defnyddio gwaith tîm, a chan y tîm Sgiliau Astudio ar gyfer myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gwaith grŵp.

Gofynnon ni i Dr Nigel Francis am ei fyfyrdodau hefyd:

“Mae gweithio mewn tîm yn sgil mor allweddol i raddedigion, felly mae’n rhaid i ni gynnig cyfleoedd iddyn nhw ymarfer hyn fel rhan o’u cwrs. Yn bwysig, dylai tasgau gwaith tîm fod yn rhan o ddull asesu ar lefel rhaglen. Roedd y trafodaethau yn y gweminar yn ysgogol ac yn herio fy meddwl, mewn ffyrdd cadarnhaol, i’m helpu i barhau i wella’r broses hon ar gyfer fy myfyrwyr.”

Roedd y sawl a gymerodd ran yn arbennig o hoff o:

  • Cael cyfleoedd i ddysgu am yr hyn y mae staff eraill yn ei wneud ac enghreifftiau o ddisgyblaethau eraill
  • Dysgu am sut mae staff yn datblygu eu dulliau addysgu yn gyson
  • Y cysylltiadau â’r strategaeth ddatblygol a dyfodol y Brifysgol
  • Cael ein hannog i feddwl PAM rydyn ni’n gwneud gwahanol fathau o asesu a’r sgiliau rydyn ni am i’n myfyrwyr eu datblygu.
  • Gwerth y broses yn hytrach na’r cynnyrch wrth ddefnyddio gwaith tîm a phwysigrwydd ei alw’n waith tîm yn hytrach na gwaith grŵp
  • Defnyddio Padlet i annog cwestiynau a chyfraniadau

Ymunwch â ni yn ein seminar nesaf

Rydyn ni’n eich gwahodd yn gynnes i ymuno â ni yn seminar nesaf y Gymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ar 19 Mawrth rhwng 13.00 a 15.00 ar gampws Cathays yn ystafell -1.80 adeilad Morgannwg. Cofrestrwch drwy Core.

Mae ein digwyddiad nesaf gydag enillydd NTF yr Athro Jason Tucker o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a’i gydweithiwr Jon Forbes o Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr a byddan nhw’n cyflwyno ar yr hyn sy’n argoeli i fod yn sesiwn hynod bwysig ac amserol -“Priodoleddau graddedigion fel llinyn aur profiad myfyrwyr Caerdydd – ymarfer cyd-greu.”

Cadwch eich lle drwy’r System AD gan ddefnyddio’r côd: TEAC9691

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno.