Llwyddiant i gyfranogwyr ein Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg – Mawrth 2025
28 Mawrth 2025
Llongyfarchiadau i’r 79 cyfranogwr diweddaraf ar dderbyn eu gwobr Cymrawd Cyswllt, Cymrawd, ac Uwch Gymrawd trwy gynllun Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd.
Mae Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn addysgwyr effeithiol. Mae 79 aelod o staff Prifysgol Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus yn dilyn ein ffenestr marcio diweddaraf ar gyfer y rheiny a gyflwynodd yn Ionawr 2025, gan godi cyfanswm nifer ein cymrodorion i dros 800.
Dyma oedd gan rhai o’r cymrodorion i ddweud:
Uwch Gymrawd
“Mae gweithio gyda fy myfyrwyr cymdeithasol, talentog a chwilfrydig yn ddeallusol yn fy atgoffa o’r hyn sy’n bwysig.”
– Dr Rebecca Saunders
“Helpodd y cynllun wrth wneud i mi fyfyrio’n feirniadol ar fy mhrofiadau arweinyddiaeth a rhoi cyfle i mi rwydweithio â staff ledled y Brifysgol. Roedd hyn yn caniatáu inni rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd.”
– Martina Nathan
“Rwy’n falch o fod wedi ennill fy Nghymrodoriaeth Hŷn ym mis Mawrth. Mae’r rhaglen wedi yn fy ngalluogi i fyfyrio ar fy addysgu a’m harweinyddiaeth a chysylltu â staff ar draws y Brifysgol.”
– Lowri Davies
“Fe wnes i fwynhau’r cyfleoedd i ddysgu gan gydweithwyr ac i rannu syniadau a phrofiadau yn y gweithdai a gweithio gyda staff o feysydd gwahanol. Diolch i’m mentor Aled Davies (ENGIN) ac i staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg am eu cefnogaeth gyson!”
– Dr Angharad Naylor
Cymrawd
“Mae cymryd rhan yn y rhaglen Gymrodoriaeth wedi gwella fy safbwynt ar addysgu roboteg ac wedi fy ysbrydoli i archwilio dulliau addysgu arloesol, diddorol. Roedd yn brofiad gwerth chweil, gan ddod ag adrannau rhyngddisgyblaethol, ymchwilwyr a chymrodorion at ei gilydd i drafod strategaethau dysgu arloesol a dulliau pedagogaidd. “
– Seyed Amir Tafrishi
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Gymrodoriaeth wedi fy helpu i ddatblygu arweinyddiaeth mewn addysg a dysgu dealltwriaeth ddyfnach i mi o Addysgeg, Androgogy a’i roi ar waith yn fy ymarfer addysgu. Fe wnes i fwynhau’r rhaglen a mae wedi cefnogi fy nysg gydol oes ac wedi rhoi cyfle i mi ymgysylltu â chydweithwyr ar draws yr Ysgolion Prifysgol.”
– Sarah Cross
“Agorodd y rhaglen fy llygaid i syniadau newydd, fe wellodd fy nealltwriaeth o addysgeg, a rhoi nod go iawn i mi ddatblygu fel addysgwr.”
– Dr Rhys Jones
“Mae bod yn rhan o’r Rhaglen Cymrodoriaethau wedi helpu i mi wella fy sgiliau a fy nhechnegau dysgu.”
– Muneerah Huwaikem
“Fe wnes i fwynhau’r rhaglen Gymrodoriaeth yn fawr a byddaf yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy’n gweithio ym maes AU. I mi, roedd yn gyfle i fyfyrio’n feirniadol ar fy ymarfer addysgu, i ddysgu gan eraill, a rhoi cynnig ar dechnegau newydd. Alla i ddim aros i fynd i ddechrau arni ar y rhaglen Uwch Gymrawd! “
– Gemma Scammell
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau ac ideolegau newydd o amgylch gwahanol ddulliau addysgu a wedi fy nghyflwyno i rai academyddion gwirioneddol ysbrydoledig!”
– Elizabeth Williams
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen wedi helpu mi wella fy arfer, yn enwedig pan mae’n dod ar ganllawiau EDI a UDL.”
– Clare Parry
“Mwynheais y rhaglen gan iddo fy ngalluogi I adlewyrchu arf y arfer dysgu, gan sicrhau mod i’n ymgysylltu ag ardaloedd y fframwaith UKPSF mewn modd sydd wedi ei selio ar dystiolaeth.”
– Abubakar Sha’aban
Cymrawd Cyswllt
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen wedi bod yn hynod werth chweil. Nid yn unig mae wedi caniatáu i mi fyfyrio ar a gwella fy sgiliau addysgu ond hefyd ymgysylltu’n ddwfn â’r gymuned academaidd. Diolch i dîm y Rhaglen Gymrodoriaeth a’r Academi Addysg Uwch am y wobr.”
– Yashu Gosavi
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Gymrodoriaeth wedi fy helpu i ddatblygu llawer mwy o sgiliau addysgusydd wedi ngalluogi i wella o ran rheoli dosbarthiadau a chyfranogiad dysgwyr. Roedd strwythur a chyflwyniad yr hyfforddiant o’r radd flaenaf. Yn union yr hyn yr oeddwn ei angen. Llawer o ddiolch.”
– Nwode AgwuCity name (optional, probably does not need a translation)
“Roedd y broses yn bleserus, yn oleuedig, a’n werthfawr. Mae’r rhaglen wedi fy helpu i godi safon fy addysgu ar gyfer JOMEC a (gobeithio cyn hir) CARBS!”
– Miguela Gonzalez
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Gymrodoriaeth wedi gwella fy ymagwedd at addysgu a dysgu’n sylweddol, gan gynnig cyfle i mi fyfyrio ymhellach ar agweddau allweddol ar addysg.”
– Layla Khan
“Fe wnes i fwynhau’r rhaglen oherwydd ei bod yn ddiddorol a’n datblygu fy ngwybodaeth a’m sgiliau mewn ysgrifennu myfyriol.”
– Luret Lar
“Mae bod yn rhan o’r rhaglen Gymrodoriaeth wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a’m strategaethau addysgu ac wedi fy nysgu i weithio yn barhaus ar ddatblygu fy sgiliau. Fe wnes i fwynhau’r rhaglen oherwydd ei fod yn syml, addysgiadol a’n frwdfrydig.”
– Hossam Abdelaziz
“Mae’r garreg filltir hon yn fy nhaith broffesiynol yn dilysu fy ymrwymiad i ragoriaeth addysgu ac ymarfer myfyriol o fewn addysg uwch. Mae cyflawni AFHEA nid yn unig yn cydnabod fy nghymhwysedd addysgu ond hefyd yn fy ysgogi i wella ac arloesi yn fy arferion addysgol yn barhaus.”
– Hanan Muhajab
Cysylltu
Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein rhagenni, neu â chwestiwn, cysylltwch gyda’r tîm Cymrodoriaeth Addys gyn yr Academi Dysgu ac Addysgu: ltacademy@cardiff.ac.uk