Hyrwyddwyr Myfyriwr y mis – Mawrth
14 Ebrill 2023Mae Maggie yn myfyriwr yn yr Ysgol Beirianneg. Yn nigwyddiad y Rhwydwaith Addysg, rhoddodd Maggie drosolwg diddorol o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Hyrwyddwyr, a dynnodd sylw at effaith gadarnhaol y gwaith hwn ar lais y myfyrwyr. Bu Maggie nid yn unig yn ofyn cwestiynau ac ateb y rhai a gafodd eu gofyn iddi hi, ond hefyd gymryd rhan yn y sesiwn o’r dechrau i’r diwedd.
Mae Agbo yn myfyriwr yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae o wedi manteisio ar nifer o gyfleoedd, nid yn unig yn rhan o’i waith prosiect, “Adolygu negeseuon ebost” ac Ap y Myfyrwyr, ond hefyd ymgymryd â thasgau ad hoc dros yr wythnosau diwethaf. Mae Agbo bob amser yn gwneud ei waith ag angerdd a thrwy arfer ymagwedd gadarnhaol, ac mae’r gwaith yn dangos hynny’n glir.
Ymunwch â’n tîm o hyrwyddwyr myfyrwyr cyflogedig
Cael eich talu i helpu i lunio profiad y myfyrwyr drwy dod yn hyrwyddwr myfyrwyr. Dyma ragor o wybodaeth am y cynllun a sut gallwch gymryd rhan.