Hyrwyddwyr Myfyriwr y Mis – Ebrill
15 Mai 2023Mae Ellie, sy’n myfyriwr o’r Ysgol y Biowyddorau wedi bod yn allweddol wrth helpu i lunio profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd mewn ffordd gadarnhaol, mae hi bob amser yn awyddus i gymryd rhan ac yn cynhyrchu gwaith o safon uchel. Mae ei mewnbwn ar y prosiectau y mae hi wedi ymwneud â nhw a’r tasgau mae hi wedi’u cwblhau wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig y darn blog a ysgrifennodd yn ddiweddar ynghylch ymuno â’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr! Hoffem ddiolch o galon i Ellie am fod yn aelod gwych o’r tîm – rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda ti fel Hyrwyddwr Hŷn yn 23/24.
Mae Usman, sy’n myfyriwr o’r Ysgol Busnes Caerdydd wedi dangos llawer iawn o ymrwymiad ac ymroddiad i’r cynllun, gan fynd i’r afael â’r amrywiol dasgau y cynigiwyd iddo. Mae bob amser yn barod i gymryd rhan ac mae’n hyblyg iawn – yn enwedig ar gyfer stondinau’r ACF a Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd. Mae ei gyfraniad at dasgau a gwaith prosiect wir wedi helpu i gael effaith gadarnhaol ar brofiad myfyrwyr. Hoffem ddiolch i Usman am ei waith caled a’i agwedd broffesiynol.