Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo 2023

4 Mai 2023
People at an exhibition
Student Champions Poster Exhibition 2023

Mae Charis Francis, Swyddog Ymgysylltu â’r Myfyrwyr yn esbonio sut beth oedd Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo eleni.

Ar 19 Ebrill, am y tro cyntaf ers i’r cynllun ddechrau ym mis Hydref 2018, cynhaliwyd Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo, sy’n digwydd unwaith y flwyddyn, ar sail wyneb yn wyneb.

Er bod pob Arddangosfa Bosteri cyn hyn a oedd yn rhithiol yn wych, roedd cynnal y digwyddiad wyneb yn wyneb yn anhygoel ac yn ein hatgoffa cynifer o bobl (staff a myfyrwyr fel ei gilydd) sy’n cymryd rhan yn y cynllun i wella Llais Myfyrwyr yn barhaus ledled Prifysgol Caerdydd.

Cafodd y sawl a gymerodd ran, ar 4ydd llawr Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, y cyfle i weld 17 o bosteri sy’n adlewyrchu prosiectau a thasgau gwahanol y Myfyrwyr Hyrwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd hon.

Ymhlith y posteri roedd hyrwyddo’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, prosiectau addysg ddigidol megis Cyrsiau Blackboard Ultra a sut mae cronfa adnoddau’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi gwella. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o staff o bob rhan o’r Brifysgol, wrth i’r arddangosfa gael ei chyflwyno gan yr Athro ac Arweinydd Academaidd Llais y Myfyrwyr, Luke Sloan, a Chyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu, Helen Spittle.

Ar ôl lluniaeth a rhwydweithio, aeth y staff a’r myfyrwyr i’r ystafelloedd llai o’u dewis, lle cafwyd pedair sgwrs gan Berchnogion Prosiectau Allanol ar y cyd â’n Myfyrwyr Hyrwyddo:

  • Marianna Majzonova, Emily Rymer, a Deepika Khali: “Prosiect Ultra – Taith Adnoddau Cymorth Dysgu Digidol”
  • Isaac Myers, Hannah Doe, ac Ellie Hosford: “Grymuso Mewnflychau: sut gallwn ni sicrhau bod myfyrwyr yn darllen eu hebyst?!”
  • Michael Hackman, Hannah Shaw, ac Emyr Kreishan: “Pecyn Cymorth Grymuso Myfyrwyr i Wella eu Cymuned Ddysgu Ymholi”
  • Llinos Carpenter, Hannah Doe, a Riya Majithia: “Myfyrwyr sy’n llunio dyfodol!”

Yn dilyn pob un o’r sesiynau hyn daethon ni i ddeall llawer mwy am y cynllun Myfyrwyr Hyrwyddo a’r dylanwad ehangach y mae’r myfyrwyr hyn yn ei gael ar ddarpar fyfyrwyr hyrwyddo.

Mae’r Myfyrwyr Hyrwyddo wedi gweithio mor galed eleni i wella prosesau, profi’r defnyddwyr, hyrwyddo arolygon i godi ymwybyddiaeth o fecanweithiau adborth, dadansoddi data a llawer mwy. Gwych o beth yw gweld hyn yn dod i’r amlwg mewn digwyddiad mor brysur.

Sut gall myfyrwyr fod yn Fyfyrwyr Hyrwyddo

Bellach, gallwch chi wneud cais i fod yn rhan o gynllun Myfyrwyr Hyrwyddo blwyddyn academaidd 2023/24 a’r dyddiad cau yw hanner nos 8 Mai 2023.

Mae pob myfyriwr a fydd yn astudio yng Nghaerdydd yn 2023/24 yn gymwys i wneud cais. Dyma gyfle â thâl ac yn rôl hyblyg fydd yn cyd-fynd ag astudiaethau’r myfyrwyr.

Gall myfyrwyr wneud cais yma neu wybod rhagor am y cynllun.

Os ydych chi’n aelod o staff a hoffech chi helpu i hysbysebu’r rôl hon, neu os oes hoffech chi weithio gyda’r Myfyrwyr Hyrwyddo yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 ar dasg neu brosiect, cysylltwch â cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk a gallwn drafod eich syniadau a chreu cynllun gweithredu.