Hyrwyddwr myfyrwyr y Mis – Saffron
25 Tachwedd 2021Llongyfarchiadau i Saffron, sydd wedi ennill Hyrwyddwr y Mis am fis Tachwedd!
Mae Saffron wedi gwneud cyfraniadau rhagorol mewn trafodaethau prosiect biowyddorau, sydd wedi helpu i siapio’r gwaith hwn trwy ddarparu ei mewnwelediad myfyriwr.
Dangoswyd Saffron lefel mawr o ymrwymiad ac ymroddiad i’r cynllun, gan ymgysylltu’n weithredol â’r holl dasgau a gynigiwyd iddi. Mae ganddi agwedd gadarnhaol, yn benodol drwy ddarparu cefnogaeth munud olaf ar gyfer creu adnoddau ar gyfer gwaith strategol ar ddatblygiadau Gwella Modiwlau. Mae hi bob amser yn awyddus i gymryd rhan ac yn cynhyrchu safonau uchel o waith. Rydym am ddweud diolch enfawr i Saffron am fod yn aelod gwych o’r tîm ac am weithio gyda ni i wella profiad myfyrwyr i bob myfyriwr ledled Prifysgol Caerdydd.
Os hoffech ddarganfod mwy am y Cynllun Hyrwyddwr Myfyrwyr, e-bostiwch y tîm hyrwyddwyr myfyrwyr, cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk.