Hyrwyddwr Myfyrwyr y Mis – Ionawr
16 Chwefror 2023Llongyfarchiadau i Alydia a Lyla sydd wedi cael eu henwi’n Hyrwyddwyr y Mis ar gyfer mis Ionawr.
Mae Alydia yn myfyriwr yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae ei hagwedd gadarnhaol a’i dull gwaith rhagweithiol wedi bod yn amhrisiadwy dros y mis diwethaf. Mae cyfraniadau amhrisiadwy Alydia, yn arbennig y prosiect App Myfyrwyr, wedi bod o fudd i’r brifysgol. Mae Alydia wedi rhoi persbectif myfyriwr ar leoliad ac mae ei gwaith caled wedi cael ei gydnabod nid yn unig gennym ni ond gan aelodau eraill o staff sydd wedi gweithio gyda hi – Da iawn Alydia
Mae Lyla yn myfyriwr yn Ysgol y Biowyddorau ac mae hi wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad mawr i’r cynllun. Mae’n cymryd rhan weithredol ym mhob tasg ac ar hyn o bryd mae’n aelod gweithgar o 3 phrosiect byw. Mae Lyla bob amser yn cynhyrchu gwaith o safon uchel ac mae wedi helpu i siapio gwaith prosiect i wella profiad myfyrwyr.
Ymunwch â’n tîm o hyrwyddwyr myfyrwyr cyflogedig
Cael eich talu i helpu i lunio profiad y myfyrwyr drwy dod yn hyrwyddwr myfyrwyr. Dyma ragor o wybodaeth am y cynllun a sut gallwch gymryd rhan.