Fy mhrofiad i yn Arddangosfa Posteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr 2021
14 Ebrill 2022Ysgrifennwyd gan Chloe Rideout, Swyddog Gweinyddol
Roedd Arddangosfa Posteri Hyrwyddwyr Myfyrwyr y llynedd yn ddigwyddiad bythgofiadwy. Ar y pryd, roeddwn yn newydd i’r adran a’r cynllun, felly es i’r Arddangosfa Posteri heb wybod ei fod yn ddigwyddiad a chynllun gwych!
Gyda chyfyngiadau COVID ar eu hanterth, roedd Arddangosfa Posteri’r Hyrwyddwyr yn rhithwir am yr ail flwyddyn yn olynol – felly yn anffodus, nid oedd bwyd, pennau ysgrifennu na laniardau yn cael eu rhoi’n rhad ac am ddim – sef rhai o’r manteision wrth fynd i ddigwyddiadau cyn y pandemig!
A finnau’n newydd i’r adran a’r ardal, cliciais y botwm ‘ymuno nawr’. Roeddwn i’n aros yn eiddgar i’r digwyddiad ddechrau, wedi gwisgo’n drwsiadus ar yr hanner uchaf ac yn edrych drwy raglen y digwyddiad ar safle Teams. Yn ail ar yr agenda roedd y ‘Sesiynau Posteri’. Rhannwyd yr Hyrwyddwyr yn bedwar grŵp a gwnaethant gyflwyniadau ar bedair thema wahanol – Dadansoddi Data, Creu Adnoddau, Casglu Adborth, a Mewnwelediadau Myfyrwyr. Siaradodd yr Hyrwyddwyr am y gwaith yr oeddent wedi bod yn ymwneud ag ef a’r effaith a gawsant ar brosiectau ond hefyd ar brofiad myfyrwyr. Ar ddechrau’r sesiynau posteri, sylweddolais yn syth ei fod yn gynllun sy’n haeddu cael ei ddathlu a’i hysbysebu.
Cefais fy nghyfareddu gan y gwaith gwych yr oedd yr Hyrwyddwyr wedi’i wneud ac wedi bod yn rhan ohono. O gyfrannu at gyfathrebu ac adnoddau strategaeth, llunio cynlluniau arolygon, i brofi ap Prifysgol Caerdydd gyda defnyddwyr – roedd yn amlwg bod eu mewnbwn yn werthfawr wrth lunio profiad y myfyrwyr yn gadarnhaol a helpu i lunio cyfeiriad strategol.
Nesaf ar yr agenda, cawsom gyflwyniadau gan Berchnogion Prosiect Allanol (Aelodau Staff Prifysgol Caerdydd). Roedd y cyflwyniadau yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, adnoddau Technolegau Dysgu, a Chysylltedd yn yr ysgol BIOSI. Cyflwynodd Perchnogion Prosiect Allanol ar y cyd â Hyrwyddwyr a oedd wedi gweithio ar eu prosiect yn trafod nodau, canlyniadau a chamau nesaf y prosiect tra bu’r Hyrwyddwyr yn siarad am y mewnbwn a gawsant. Roedd gwrando ar y cynlluniau yn effeithio ar waith, a’r unigolion yn anhygoel. Roedd yr aelodau o staff a’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn hynod ddiolchgar a llawn brwdfrydedd am y cynllun. Roedd hyn yn gyfareddol. Roedd yn amlwg bod y cynllun hwn yn cael ei werthfawrogi’n fawr, yn berl werthfawr, gan unrhyw un a gafodd gyfle anhygoel i weithio gydag ef.
Yn olaf, daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, Claire Morgan, a’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr, a oedd wir yn dangos y bartneriaeth a chydweithrediad y mae’r cynllun yn ei gynnig.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r cynllun yn ei gyflawni a’i effaith, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn dod i’r digwyddiad eleni, ar 22 Mehefin. Gallwch ofyn cwestiynau i’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr am y cynllun yn y sesiynau Holi ac Ateb. Hefyd cewch glywed yn uniongyrchol gan Hyrwyddwyr ac aelodau staff presennol am yr effaith y mae’r cynllun wedi’i chael ar eu gwaith ac arnynt yn bersonol. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y cynllun llynedd ac es i i’r digwyddiad- felly dwi’n awgrymu’n gryf eich bod yn ymuno eleni!
Un o’n prif nodau yw cydweithio â’n myfyrwyr fel partneriaid i wella profiad myfyrwyr yn gadarnhaol, ac mae’r cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cynnig y cyfle hwnnw.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad, ac darllenwch rhagor o wybodaeth am sut y gallech weithio gyda’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr.
Ni chefais fwyd, pennau ysgrifennu na laniardau’n rhad ac am ddim, ond nid oedd hynny’n bwysig mewn gwirionedd – gan ei fod yn ddigwyddiad RHYFEDDOL.