Skip to main content

Ymgysylltu a myfyrwyr

Digwyddiad Dathlu Arweinwyr Myfyrwyr 2025

2 Mehefin 2025

Ar y 15 o Fai, cafodd yr Academi Dysgu ac Addysgu, mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, y fraint o gynnal Digwyddiad Dathlu Arweinwyr Myfyrwyr 2025.

Cafwyd prynhawn bywiog a lawn hwyl er mwyn dathlu cyfraniadau anhygoel arweinwyr myfyrwyr sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Gan gynnwys yr Hyrwyddwyr Lles Myfyrwyr, Cynrychiolwyr y Cyrsiau, y Myfyrwyr Mentora ac Arweinwyr y Cymdeithasau, ein ffordd ni oedd y digwyddiad o ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi helpu i lunio profiad y myfyrwyr eleni.

Yn y digwyddiad roedd naws hwyl y ffair oedd yn berffaith ar gyfer dathlu. Rhoddodd y myfyrwyr gynnig ar fowlio chwyddadwy, gan gystadlu’n ffyrnig yn y golff mini a chafwyd gemau clasurol y ffair i ennill gwobrau gwych brandiau’r Brifysgol. Roedd crysau-t Caru Caerdydd y Brifysgol yn arbennig o boblogaidd ac roedd pawb yn mynnu bachu un ar y diwrnod, a roedd digon o fwyd a danteithion melys ar gael.

Roedd hefyd yn gyfle gwych i arweinwyr myfyrwyr o bob cwr o Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol ymlacio, cwrdd â phobl eraill a dathlu eu cyflawniadau gyda’i gilydd. Diolch arbennig i’r Myfyrwyr Hyrwyddo a oedd wedi llunio posteri yn tynnu sylw at y prosiectau gwych y maen nhw wedi bod ynghlwm wrthyn nhw eleni. Dyma dyst go iawn o rym partneru â myfyrwyr.

Peth gwych hefyd oedd gweld tîm y Swyddogion Sabothol yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r dathliadau. Ymunodd Dylan y Ddraig yn yr hwyl hyd yn oed, gan ychwanegu at asbri’r diwrnod.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y sgrin fawr. Arni roedd dyfyniadau gan arweinwyr myfyrwyr am yr hyn maen nhw wedi’i fwynhau fwyaf am y rôl, beth oedd wedi’u hysbrydoli a phwy sydd wedi rhoi gwên ar eu hwyneb eleni. Casglwyd y myfyrdodau hyn wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad, a hyfryd o beth oedd gweld y myfyrwyr yn adnabod eu geiriau eu hunain neu’n gweld eu henw wedi’u goleuo.

Diolch yn fawr iawn unwaith eto i bob un o’r holl arweinwyr myfyrwyr. Mae eich angerdd, eich syniadau a’ch ymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydyn ni mor falch o bopeth rydych chi wedi’i wneud ac ar bigau’r draen i weld beth ddaw nesaf.