Skip to main content

Addysg Ddigidol

Digifest 2023, Trawsnewid Digidol a Hyder Digidol

22 Mehefin 2023
Digifest 2023 conference logo

Mae David Crowther, Swyddog Cymorth Technoleg Dysgu, tîm Addysg Ddigidol o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu, yn dweud wrthym am gynhadledd Digifest JISC y bu ynddi yn ddiweddar.

Fy mhrofiad i o Digifest 2023

Yn ôl ym mis Mawrth eleni, cymerais i ran yng nghynhadledd Digifest JISC yn Birmingham. Ers ymuno â’r Tîm Addysg Ddigidol yn 2020 yn ystod pandemig covid, mae pob un o’r cynadleddau dw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw wedi bod ar-lein. Er fy mod i’n hoffi’r ffaith ei bod yn gyfleus gallu cymryd rhan mewn cynhadledd ar-lein o gysur fy nghartref, rwy’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio. A minnau’n eistedd o flaen fy nghyfrifiadur gan edrych ar nifer o fonitorau, bydd pethau eraill megis ebyst, negeseuon Teams, a gwaith arall yn tynnu fy sylw i ffwrdd o’r gynhadledd. Digifest eleni oedd y cyfle cyntaf imi fynd i gynhadledd sy’n un wyneb yn wyneb ac ro’n i’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfan.  Am ddau ddiwrnod llawn ro’n i’n gallu bod yn bresennol, canolbwyntio a chymryd sylw o bopeth oedd yn digwydd yn y gynhadledd.

Hwn oedd y tro cyntaf imi fynd i gynhadledd o’r fath a gwnaeth argraff fawr arna i. Roedd y gynhadledd wedi’i threfnu’n anhygoel o dda, roedd yn mynd fel deiol ac roedd y lleoliad yn wych. Cefais fy synnu bod y gynhadledd mor fawr.

Ar ôl cyrraedd a chofrestru, es i ati i ymgyfarwyddo â phopeth gan gerdded o amgylch y brif ystafell gynadledda. Roedd ystod o weithgareddau yno a oedd yn ddigon i’ch drysu, gan gynnwys sgyrsiau sydyn, sgyrsiau o amgylch y tân, sesiynau dangos cynnyrch a llawer mwy. Er gwaethaf y ffaith bod y cyfan yn llethu rhywun braidd, roedd y brif ystafell gynadledda wedi’i gosod allan yn dda a pheth digon hawdd oedd dod o hyd i bopeth. Roedd yr arlwyo yn y gynhadledd yn ardderchog, a chafwyd dewis eang o fwyd at ddant pawb.

Ar ôl brecwast ysgafn a choffi, aeth fy nghydweithwyr a minnau i gyfeiriadau gwahanol i weld sgyrsiau cyntaf y dydd. Roedd amserlen y ddau ddiwrnod eisoes yn llawn, gan gynnwys mynd i sgyrsiau a thrafodaethau ar ystod o themâu sy’n gysylltiedig â thechnoleg ac addysg ddigidol, gan gwmpasu popeth, boed yn ddeallusrwydd artiffisial, asesu dilys, realiti rhithwir, arloesi a chynhwysiant, hyder digidol, dysgu dan arweiniad myfyrwyr, addysgu hybrid a llawer mwy. Peth amhosibl oedd cofio’r holl wybodaeth yn y gwahanol sgyrsiau es i iddyn nhw, ond yn dilyn y gynhadledd ro’n i wedi dysgu nifer o bethau gwerthfawr sy’n berthnasol i fy ngwaith fy hun, sef bod yn weithiwr proffesiynol addysg ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd un sgwrs o’r enw “Mae pawb yn arloesi – hwyluso twf hyder digidol i wireddu dulliau newydd o ddysgu ac addysgu” yn taro tant yn arbennig, yn enwedig gan fy mod i’n dechnolegydd dysgu sy’n cefnogi addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd drwy gyfrwng technolegau digidol. Mae hyn yn arbennig o wir bellach wrth inni fynd drwy gyfnod o newid sylweddol o ran ein haddysg ddigidol, sef symud o gyrsiau Blackboard Original i Blackboard Ultra, pan fyddwn ni’n ceisio annog arweinwyr cyrsiau i wneud pethau’n wahanol, newid eu harferion o ran addysg ddigidol a chroesawu technolegau digidol ac arloesi.

Efallai mai un o’r heriau mwyaf sydd gennym o ran annog newidiadau ac arloesi ym maes ymarfer addysg ddigidol yw diffyg hyder digidol. Rydyn ni’n gweithio gydag academyddion a staff yn y gwasanaethau proffesiynol ar draws y Brifysgol, ac mae gan y rhain lefelau amrywiol o hyder a sgiliau o ran technoleg addysgol. Weithiau bydd yn anodd argyhoeddi rhywun i newid ei ymarferion a rhoi cynnig ar rywbeth newydd os bydd yn ofni y gallai rhywbeth fynd o’i le ac y gallai adlewyrchu’n wael arno o flaen ei fyfyrwyr. Mae angen strategaethau a dulliau arnon ni sy’n gallu helpu i feithrin hyder digidol a chefnogi’r gwaith o arloesi. Sut gallwn ni gyflawni hyn? Roedd sawl awgrym defnyddiol yn y sgwrs rwy wedi sôn amdani a bydda i’n ceisio cyflwyno’r rhain yn fy addysg ddigidol fy hun.

  1. Un ffordd o helpu i feithrin hyder digidol fyddai awgrymu i addysgwyr, os ydyn nhw eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd, eu bod nhw’n rhoi cynnig arni yn ystod sesiwn fwy anffurfiol pan fydd y risg o fethu yn llai o bryder. Er enghraifft, annog mathau gwahanol o asesu ffurfiannol sy’n gallu cefnogi cyrhaeddiad dysgwyr. Os caiff disgwyliadau’r myfyrwyr eu rheoli, hwyrach y bydd hyn yn ffordd ddefnyddiol o roi cynnig ar rywbeth. Hyd yn oed os bydd yn mynd o’i le, efallai y bydd yn brofiad defnyddiol i ddysgu yn ei sgil. Weithiau, bydd rhwyd ddiogelwch yn rhoi hyder i bobl arbrofi a theimlo’n gymharol ddiogel, a gall gweithgareddau o’r fath gefnogi hyder digidol. Er mwyn ehangu dylanwad byd arloesi, rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn meithrin y meddylfryd, er bod pethau’n mynd o chwith weithiau, bod adfer pethau’n bosibl a bod problemau cychwynnol yn beth normal, ond mae hefyd yn syniad da bod cynllun arall wrth gefn os bydd pethau’n mynd o chwith. Mae’n bwysig canolbwyntio ar y dysgu a’r addysgu y dylid ei wneud yn ystod yr adegau hynny pan fydd pethau’n mynd o chwith a meddwl a oes ffyrdd eraill o gyflawni hynny.
  2. Mae hefyd yn syniad da ceisio cefnogi rhesymeg pobl dros roi cynnig ar bethau. A ninnau’n weithwyr proffesiynol addysg ddigidol, os ydyn ni’n annog addysgwyr i roi cynnig ar bethau newydd, dylen ni fynd ar drywydd y rhain a gofyn iddynt sut aeth popeth, beth oedd wedi gweithio’n dda, beth nad oedd wedi gweithio cystal, ac annog y broses o ymarfer myfyriol. Hwyrach y bydd meithrin hunanfyfyrio, dangos arferion da a rhannu profiadau’n offeryn pwerus sy’n annog y gwaith o arloesi ac yn rhoi’r hyder i bobl roi cynnig ar bethau drostyn nhw eu hunain. Yn aml bydd pobl yn meddwl “Wel os llwyddon nhwthau i wneud hynny, pam na alla i ei wneud hefyd?”.

Hyder digidol o’i gymharu â sgiliau digidol

Rwy’n credu bod perthynas rhwng hyder digidol a sgiliau digidol. Mae angen hyder digidol arnon ni i allu trawsnewid yn ddigidol a chyflawni ein nodau. Pan fyddwn ni’n meddwl am hyder digidol a sut mae’n berthnasol i sgiliau digidol, dyma ddau gwestiwn canlynol y gallwn ni eu gofyn er enghraifft:

  1. Ydych chi’n ddefnyddiwr hyderus o feddalwedd xyz?
  2. Ydych chi’n ddefnyddiwr cymwys o feddalwedd xyz?

Mae’n rhaid inni ofyn i ni’n hunain a yw diffyg hyder digidol yn arwain at amharodrwydd i gaffael sgiliau digidol newydd, gan ennill y cymwyseddau digidol sydd eu hangen felly at ddibenion trawsnewid digidol.

Yn ogystal, weithiau bydd ymddiried yn yr offer digidol a ddefnyddir i ddysgu ac addysgu a dibynnu arnyn nhw’n rhwystr.  Os nad ydyn ni’n hyderus bod yr offer yn ddiogel neu y bydd y rhain yn gweithio’n dda, a fyddwn ni’n barod i’w defnyddio?  Weithiau bydd yn hawdd glynu wrth ffordd o feddwl gan feddwl “Os yw’n gweithio, pam y dylen ni ei newid?” a “Pam y dylwn i ddefnyddio’r offeryn newydd hwn nawr? Do’n i ddim yn ei ddefnyddio o’r blaen, ac roedd popeth yn iawn.”  A ninnau’n dechnolegwyr dysgu, rhan o’n gwaith yw helpu addysgwyr i ddeall gwerth mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion addysgu a dysgu. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni ystyried yn ofalus y rhesymeg y tu ôl i annog pobl i fabwysiadu technoleg benodol at ddibenion dysgu ac addysgu.  Mae angen rheswm da pam ein bod yn awgrymu i addysgwyr eu bod yn rhoi cynnig ar rywbeth, a dylen ni ofyn rhai cwestiynau pwysig:

  • Sut mae’r dechnoleg yn effeithio ar brofiad y staff a’r myfyrwyr?
  • Sut gall technolegau digidol wella pethau?
  • Beth yw’r problemau y mae angen eu datrys? Oes problemau hyd yn oed y mae angen eu datrys yn y lle cyntaf, neu a ydyn ni’n eu dyfeisio i gyfiawnhau defnyddio technoleg newydd?
  • Sut gall digidol wella’r profiad ar y campws?
  • A fydd yr offeryn drud, ‘newydd sbon danlli’ hwnnw wir yn cael effaith sylweddol ar addysgu a dysgu?

Nid yw peidio â bod eisiau mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion dysgu ac addysgu yn beth anghyffredin. Dylen ni ystyried pam felly y bydd rhai addysgwyr yn ei erbyn, ceisio deall pam maen nhw’n meddwl hyn a pham eu bod hwyrach yn amharod i ddefnyddio’r dechnoleg hon.

Bydd rhai o’r farn bod cyflymder y newidiadau yn digwydd yn rhy gyflym ac oherwydd hynny maen nhw’n teimlo’n ofnus. Roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod pandemig covid 19 pan symudodd dysgu ac addysgu ar-lein yn gyflym. Yn sydyn, roedd pawb yn yr un cwch megis, yn gorfod gwneud pethau nad oedden nhw erioed wedi’u gwneud o’r blaen, gan orfod datrys pethau wrth i bethau fynd rhagddyn nhw.  Nid yw’n syndod bod pobl o’r farn bod y newid sydyn yn un ychydig yn frawychus, y cwbl roedden nhw’n ei ddymuno oedd i’r cyfan fod ar ben ac i bethau fod fel yr oedden nhw gynt. Ond y gwir amdani, serch hynny, oedd bod y pandemig ond wedi cyflymu newidiadau a oedd eisoes yn digwydd. Wrth i’r pandemig ddod i ben, mae’r newidiadau hynny’n parhau, ac efallai y bydd ofn ac amharodrwydd o hyd ac mae’n rhaid i dechnolegwyr dysgu feddwl yn ofalus am sut i reoli hyn.

Mae’n bwysig cofio mai pobl sy’n gwneud y gwaith a bod mae offer digidol ond yno i helpu i hwyluso hynny.  Ond pa mor aml y byddwn ni’n ystyried pobl wrth ddatblygu strategaeth?  Mae angen i strategaethau a pholisïau ystyried pobl.  Mae angen adnoddau priodol a gallu datblygu ein pobl er mwyn rhoi’r strategaethau ar waith.  Mae’n rhaid inni ddatblygu a hyfforddi pobl. Nid yw pobl eisiau mwy o bwysau a llwyth gwaith ac mae angen i uwch-arweinwyr ystyried sut mae newidiadau’n effeithio ar bobl go iawn.

Dw i wedi sôn am y term ‘trawsnewid digidol’ ychydig o weithiau yn yr erthygl hon. Dylen ni geisio deall beth mae trawsnewid digidol yn ei olygu i bobl gan y bydd gan bawb syniad gwahanol o’r hyn sydd dan sylw.  Mae’n rhaid inni feithrin ymddiriedaeth, hyder a mynd â phobl gyda ni fel y gall y newidiadau hyn ddigwydd.  Dylai pobl gael gwybod y rhesymau dros y newidiadau, pam rydyn ni’n eu gwneud, pam eu bod yn bwysig, a pha wahaniaethau fydd yn digwydd o’u herwydd.  Mae angen deall hyn ar y brig, ac ni ddylai newidiadau gael eu gorfodi oddi uchod yn hynny o beth.  Mae’n rhaid esbonio’n glir pam rydyn ni’n gwneud rhywbeth.  Dylen ni osod gweledigaeth a rhesymeg glir dros wneud rhywbeth pan fydd trawsnewid digidol ynghlwm. Mae eglurder, tryloywder a’r gallu i gyfathrebu’n bwysig.

Sut rydyn ni’n annog pobl i arloesi a mabwysiadu technolegau digidol at ddibenion dysgu ac addysgu mewn ffyrdd sy’n cael effaith ar fyfyrwyr?  Sut gallwn ni feithrin eu hyder digidol er mwyn iddyn nhw ddeall y gwerth digidol o ran addysgu a dysgu, gan annog trawsnewid digidol?

Un ffordd fyddai llunio polisïau a strategaethau yn y fath fodd sy’n peri i’r hyn rydyn ni’n gofyn i bobl ei wneud ymddangos yn werthfawr i’r bobl rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ei roi ar waith. Er mwyn rhoi’r hyder i bobl roi newidiadau ar waith serch hynny, dylai seilwaith ac adnoddau sylfaenol a chadarn fod ar gael. Un o’r egwyddorion allweddol sy’n sail i’r gwaith a wnawn yw cadw pethau’n syml a gwneud y pethau sylfaenol yn iawn. Mae’n bwysig bod systemau craidd a data yn gadarn ac o safon. Mae’n rhaid i’r seilwaith sylfaenol fod yno a dylai fod yn ddibynadwy. Mae angen sylfaen gref i ehangu ac arloesi yn ei sgil. Bydd cael y pethau sylfaenol yn iawn, sicrhau bod sylfaen gadarn yn ei lle a darparu’r adnoddau angenrheidiol yn helpu i drawsnewid digidol ddigwydd.

Pan fydd sylfaen gref yn ei lle, dylen ni gefnogi pobl i arloesi ac arbrofi, gan gydnabod na fydd rhai pethau’n llwyddo, a dylen ni annog risgiau a reolir. Gallwn ni wneud defnydd da o ddata megis dadansoddeg at ddibenion dysgu, ymgysylltu a lles myfyrwyr yn achos ymyraethau a all ein helpu i wneud penderfyniadau gwell, gwella bywydau staff a myfyrwyr yn ogystal â sicrhau llwyddiant. Dylen ni gynnwys myfyrwyr yn y broses, gan ehangu diwylliant o arloesi ac arbrofi pan fydd pobl yn gallu rhoi cynnig ar bethau a methu mewn cyd-destun diogel. Bydd hyn yn helpu i bobl feithrin hyder digidol a meithrin creadigrwydd, arloesi ac ymddiriedaeth.

Y tu hwnt i wneud y pethau sylfaenol yn iawn, dylen ni ystyried sut y gallwn ni gefnogi’r broses o arloesi er mwyn i bobl i fynd y tu hwnt i’w harferion unigol a bod yn ‘aflonyddgar’ o ran y sefydliad ehangach a chael effaith ehangach. Gallwn ni ddefnyddio trawsnewidiadau digidol i greu lleoedd mwy cyfoethog a mwy deniadol lle mae llai o ffiniau rhwng y byd digidol a’r byd go iawn. Yn ddelfrydol, dylen ni anelu at sefyllfa pan fydd y newid o’r naill i’r llall yn digwydd yn ddi-dor bron â bod, nid y naill beth neu’r llall.

Cymryd rhan

Os hoffech chi ysgrifennu blog ar gynhadledd, gweithdy neu ddigwyddiad yr aethoch chi iddo’n ddiweddar ac a fydd o fudd hwyrach i bobl eraill, rhowch wybod inni drwy ebostio ltacademy@caerdydd.ac.uk.