Skip to main content

Ein tîm

Dewch i gwrdd â Dr Kate Gilliver, un o’n Partneriaid Academaidd newydd

19 Hydref 2022

Beth fydd eich rôl newydd?

Fi yw’r Partner Academaidd ar gyfer Asesu a Rhoi Adborth. Rydym yn gwybod bod digon o le i’n sefydliad wella ym meysydd asesu a rhoi adborth. Ar y cyd â chydweithwyr yn yr Academi Dysgu ac Addysgu, byddwn yn gweithio gydag ysgolion a myfyrwyr i ddatblygu a lledaenu arfer gorau, gan gynnwys pecynnau cymorth i ysgolion unigol, ac yn gweithio ar themâu penodol yn ehangach.

Beth yw eich blaenoriaethau yn eich rôl newydd?

Rydym yn gwybod bod nifer o fentrau a phrosiectau sy’n ymwneud ag asesu a rhoi adborth wedi’u cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Blaenoriaeth yn y rôl hon yw gwneud yn siŵr bod yr hyn rydym yn ei wneud nawr yn cael effaith barhaol ac yn sicrhau newid cadarnhaol i’r staff a’r myfyrwyr.

Mae blaenoriaethau uniongyrchol yn cynnwys:

  • Adborth – gweithio gyda chydweithwyr i wneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael adborth gwerthfawr a defnyddiol ar ei waith mewn modd amserol
  • Gwaith grŵp – rydym yn gwybod bod cydweithio’n ffordd wirioneddol effeithiol o ddysgu, ac mae llawer o gyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu gweithio’n effeithiol mewn grwpiau; rydym am sicrhau bod cymorth effeithiol ar gael i’r staff sy’n cynnal asesiadau grŵp a’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn yr asesiadau hynny, gan gynnwys dileu unrhyw rwystrau i gynnal asesiadau grŵp

Beth a’ch arweiniodd at y rôl hon?

Fi oedd y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu sydd newydd orffen arwain ei ysgol (Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd) drwy newidiadau mawr i’w cyrsiau gradd. Felly, roeddwn yn chwilio am her newydd!

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at allu cael effaith gadarnhaol ar brofiadau myfyrwyr ar draws y Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am Dr Gilliver

Cefais fy magu yn Dorchester, tref Rufeinig Durnovaria, ac ar ôl ymweld yn rheolaidd â’r amgueddfeydd a’r safleoedd archaeolegol, gan gynnwys astudio hanes lleol yn yr ysgol, efallai nad yw’n syndod i mi syrthio mewn cariad â phopeth sy’n ymwneud â’r Rhufeiniaid yn ifanc.

Treuliais flwyddyn yn gwirfoddoli yn Amgueddfa Swydd Dorset cyn astudio’r Clasuron ac Archaeoleg Glasurol yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Ar ôl hynny, astudiais ar gyfer fy PhD yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Ar ôl blwyddyn yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, cyrhaeddais Gaerdydd ar ddechrau’r 90au. Rwy’n addysgu hanes Rhufain yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ymarferoldeb ymgyrchu Rhufeinig, lle mae pwyslais arbennig ar waith maes a gwersyllu, gan gynnwys ymddygiad ac erchyllter rhyfela Rhufeinig.

Cyn dod yn Bartner Academaidd ar gyfer Asesu a Rhoi Adborth, fi oedd y Deon Cyswllt Cydanrhydedd yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Fi hefyd oedd y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.

Mae fy niddordebau y tu allan i’r gwaith yn cynnwys cefnogi Rygbi Caerdydd. Rwyf hefyd yn mwynhau cerdded mynyddoedd ac yn aelod o’r tîm Achub Mynydd.