Dadansoddeg Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd
20 Rhagfyr 2021Ers 2020, mae wedi dod yn fwyfwy heriol gweld a chefnogi ymgysylltiad ein myfyrwyr. Wrth i ni ddefnyddio cyfuniad ehangach o ddulliau o addysgu a chefnogi dysgu, yn naturiol mae ein myfyrwyr yn dangos patrwm mwy cymhleth a phersonol o ymgysylltu â’u cwrs. Efallai na allwn ddibynnu mwyach ar sylwi bod myfyriwr wedi colli ychydig o ddarlithoedd i ddechrau sgwrs am ymgysylltu. Efallai ein bod yn llai tebygol o weld ein myfyrwyr brwd yn gweithio’n brysur yn y llyfrgell, gan ein bod yn treulio llai o amser ar y campws. Neu efallai ein bod yn treulio llai o amser mewn mannau cymunedol gyda chydweithwyr, yn rhannu mewnwelediadau a phryderon am ein hymgysylltiad â’r myfyrwyr a rennir.
Mae hyn wedi amharu’n fawr ar fyfyrwyr sy’n dechrau ar Lefel 4. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi pontio pob myfyriwr i’r sefydliad ac i Addysg Uwch yn gyffredinol. Wrth edrych i’r dyfodol, gallai Dadansoddeg Dysgu fod yn un o’r adnoddau posibl ym mhecyn cymorth Tiwtoriaid Personol. Mae Dadansoddeg Dysgu yn dod â data ar ddysgu myfyrwyr at ei gilydd mewn un lle i roi trosolwg o sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu ac yn perfformio.
Y gobaith yw y gallai Dadansoddeg Dysgu gynnig llwyfan i staff gael sgyrsiau ar sail tystiolaeth gyda myfyrwyr am eu hymgysylltiad â’u cyrsiau. Dylai grymuso myfyrwyr i drafod eu dysgu a’u hymgysylltiad fod o fudd iddynt, gan y byddant yn ystyried yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyrraedd eu nodau gyda chefnogaeth eu Tiwtor Personol wrth law.
Beth yw Dysgu Dadansoddeg?
Hyd yn oed yn ystod wythnosau cynnar astudio, cyflwynir data ynghylch a yw myfyrwyr yn ymgysylltu â’u modiwlau ar-lein a sut. Dylai estyn allan i fyfyrwyr yn y dyddiau cynnar hyn gyda chefnogaeth wedi’i thargedu a phersonoli eu paratoi i lwyddo. Ymhen amser, gellir trafod data asesu ochr yn ochr â data ymgysylltu, gan roi darlun cynyddol o sut y gall ymgysylltiad myfyriwr effeithio ar ei berfformiad. Gellir edrych ar ddata ar lefel unigol a charfan, er mwyn gwerthfawrogi persbectif ac arlliwiau’n well.
Sut rydyn ni’n gweithio gyda Dysgu Dadansoddeg ym Mhrifysgol Caerdydd
Ar hyn o bryd mae Prifysgol Caerdydd yn treialu adnodd Archwiliwr Data Jisc gyda Thiwtoriaid Personol mewn pedair Ysgol (CHEMY, MEDIC, MLANG a SOCSI). Gan adeiladu ar y profiad a’r gefnogaeth a rhoddir eisoes gan Diwtoriaid Personol yn yr Ysgolion, y gobaith yw y bydd y peilot yn ein helpu i werthuso’r system a’r hyn y gall Dadansoddeg Dysgu ei olygu i ymarfer academaidd sy’n ymwneud â chymorth wedi’i bersonoli. Nod y peilot yw cefnogi’r broses o bontio myfyrwyr ar Lefel 4.
Rydym yn gweithio gyda Hyrwyddwyr Myfyrwyr a’r carfannau myfyrwyr yn ein hysgolion peilot i lunio ein hymagwedd tuag at Ddadansoddeg Dysgu. Mae staff sy’n rhan o’r peilot wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod Dadansoddeg Dysgu o fudd i fyfyrwyr ac yn offeryn cefnogol bob amser. Mae’n hanfodol ein bod yn cael ein harwain gan lais myfyrwyr trwy gydol y peilot (a thu hwnt) er mwyn i’r prosiect lwyddo.
Ar hyn o bryd mae’r dangosfyrddau yn arddangos data bywgraffyddol, data SIMS a data VLE mewn ystod o graffiau y gellir eu haddasu ar gyfer pob myfyriwr a modiwl. Fodd bynnag, mae potensial y system yn llawer mwy pwerus. Gellir integreiddio data o fannau megis Panopto, Zoom, Teams a gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â phresenoldeb ffisegol a rhithwir.
Mae’n hollbwysig nad ydym yn casglu data er mwyn data ac yn ystyried yn ofalus a yw pob set yn rhoi darlun o ymgysylltiad a chynnydd y myfyrwyr. Mae ymgysylltu yn fater personol, ac yn y cyfnod hwn o ddysgu cyfunol, byddem yn disgwyl mwy o ddewis a phersonoli. Ymhen amser, gallai mewnwelediadau am gyfatebiaeth ac achosiaeth mewn dysgu ein helpu i ddeall a chyfathrebu’r hyn sy’n gweithio gyda’n myfyrwyr er mwyn eu paratoi orau ar gyfer llwyddiant.
Ysgrifennwyd gan Ada Huggett-Fieldhouse