Cyfarfod y tîm – Catrin Jones
26 Tachwedd 2021Beth yw eich rôl?
Rwy’n gweithio gyda Deon y Gymraeg a changen Coleg Cymraeg Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd i gyflawni amcanion strategaeth y Gymraeg, Yr Alwad, a lansiwyd ym mis Mawrth 2021. Ein nod yw datblygu a gwella arlwy’r Gymraeg a meithrin diwylliant Cymraeg (dwyieithog) cynhwysol yn y brifysgol. Mae’n waith amrywiol a gwirioneddol ddiddorol, sy’n cynnwys cyfrannu ac adrodd mewn pwyllgorau, a chydweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws pob adran ar brosiectau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd gwybodaeth.
Beth oeddech yn ei wneud cyn gweithio yn y rôl hon?
Gweithiais ar brosiect o’r enw Campws Cyntaf yn nhîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd
Disgrifiwch brosiect yr ydych chi wedi mwynhau gweithio arno gyda’r Academi Dysgu ac Addysgu
Holiadur sgiliau a phrofiadau’r Gymraeg ar gyfer staff, a grëwyd gennym gyda chydweithwyr ar draws y brifysgol.
Beth ydych yn edrych ymlaen ato a pham?
Heblaw am ddarllen yr adborth o holiadur y staff, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddau brosiect yr ydym yn gweithio arnynt ar gyfer y flwyddyn nesaf: ein modiwl Dinasyddiaeth Iaith Gymraeg 5 credyd newydd ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf; a digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Dewi arbennig iawn i staff sy’n dysgu Cymraeg, y byddwn yn ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Allwch chi ddweud ffaith ddiddorol amdanoch chi’ch hun?
Rwy’n gwneud fy siocled amrwd fy hun
Cymerwch ran yn holiadur staff Yr Academi Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ar agor tan 10 Rhagfyr