Skip to main content

Ein tîm

Cwrdd â’r cydweithiwr: Rachel Johns

30 Mai 2024

Rachel Johns, Datblygwr Addysg y Prosiect Addysg Gynhwysol sydd yn sôn wrthym ni am ei rôl a’r prosiectau mae’n gweithio arnynt yn yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa: 

Rwy bob amser wedi bod yn angerddol dros ddysgu ac addysgu! 

Mae fy ngyrfa’n ymestyn dros 20 mlynedd o weithio ym myd addysg orfodol. Roedd gen i amryw o swyddi fel ymarferydd dosbarth ac uwch-arweinydd, ac rwy wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu adnoddau cwricwlwm i’r sector cynradd.  

Dros y blynyddoedd rwy wedi bod yn ddigon ffodus i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a phrifysgolion mewn gwledydd eraill fel Norwy, Bratislafa, yr Almaen a Bangladesh. Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd treulio wythnos yn Bangladesh yn ymweld â chyd-destunau addysgol gwahanol a datblygu cysylltiadau parhaol ag ysgol yn Bangladesh. Y profiadau hyn a gwasanaethu cymuned ddiwylliannol amrywiol yng Nghaerdydd a ddechreuodd fy mhrofiad o ymarfer cynhwysol a sicrhau tegwch i bob myfyriwr er mwyn iddo gyrraedd ei botensial.  

Beth yw cynnwys eich swydd a pha mor hir rydych chi wedi bod ynddi? 

Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o weithio ym Mhrifysgol Caerdydd!  

Ymunais i â’r Academi Dysgu ac Addysgu ym mis Medi 2023 fel Datblygwr Addysg y Prosiect Addysg Gynhwysol. Fy nod yw cefnogi’r gwaith o gynllunio a threfnu gweithgareddau ledled y sefydliad, a hynny’n rhan o’r prosiect addysg gynhwysol. Does dim byd sy’n rhoi mwy o bleser imi na gweithio ochr yn ochr â staff i arwain a chefnogi’r broses o ddatblygu a gwella ymarfer cynhwysol. 

 Hwyrach y bydd fy niwrnod arferol yn cynnwys: 

  • Creu adnoddau ar gyfer y pecyn cymorth ar ddatblygiad addysgol. 
  • Cyflwyno DPP agored ar y fframwaith addysg gynhwysol. 
  • Cyflwyno DPP pwrpasol neu gymorth penodol i golegau ac ysgolion. 
  • Gweithio gyda’r Brifysgol yn ehangach i ddatblygu a gwreiddio arfer cynhwysol.   

Pa brosiectau/tasgau rydych chi’n gweithio arnyn nhw ar hyn o bryd? 

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda chydweithwyr a myfyrwyr ar sicrhau’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, ar y cyd â datblygu adnoddau i ysgolion i gefnogi eu profiad o addysg gynhwysol. Mae datblygu tudalennau pecyn cymorth addysg gynhwysol wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy ngwaith yn ddiweddar, ar y cyd â rhannu’r fframwaith addysg gynhwysol yn eang ledled y sefydliad.  

Beth rydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden? 

Dwi wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu, yn darllen, ac mynd i leoedd newydd!!