Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Astudiaeth Achos Cymrodoriaeth: Ellie Dorrans

29 Hydref 2025

Cwblheais i’r Rhaglen Cymrodoriaeth Gyswllt tra oeddwn i’n astudio ar gyfer fy PhD. Rwy bellach ran o’r ffordd drwy’r Rhaglen Cymrodoriaeth. Wrth edrych yn ôl, y broses hon sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar fy natblygiad yn addysgwr. Mae wedi cynnig y strwythur a’r anogaeth i oedi a gwir ystyried fy nulliau o addysgu, yr hyn sydd fwyaf pwysig wrth i mi fynd ati i ymarfer ac ym mha ffordd rwy’n gallu parhau i ddatblygu’n broffesiynol.

Oherwydd hyn, rwy wedi dod i werthfawrogi adborth myfyrwyr mewn ffordd hollol wahanol. Yn hytrach na’i ystyried yn rhywbeth i’w gasglu ar ddiwedd modiwl, rwy bellach yn ei ystyried yn sgwrs barhaus. Rwy’n mynd ati i greu cyfleoedd i fyfyrwyr rannu eu meddyliau a’u profiadau drwy gydol cwrs ac yn gwneud gwir ymdrech i weithredu ar yr hyn sy’n cael ei ddweud wrtha i. Pan fydd myfyrwyr yn ein gweld yn gweithredu ar eu hadborth a bod eu hadborth yn llywio eu hamgylchedd dysgu, mae’n meithrin ymddiriedaeth ac ymdeimlad o bartneriaeth, ac mae hynny wedi trawsnewid fy ymarfer addysgu a’r amgylchedd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae tîm y Rhaglen Cymrodoriaeth wedi chwarae rôl enfawr yn y gwaith hwnnw o drawsnewid fy ymarfer addysgu. Mae aelodau’r tîm yn rhoi cyngor gwych, ac maen nhw bob amser yno i gynnig gwybodaeth ac anogaeth. Mae datblygiad pob un sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. Maen nhw’n gwneud mwy na dim ond trafod arfer gorau – maen nhw’n ei roi ar waith drwy eu gweithdai a’r cymorth y maen nhw’n ei roi, gan ddangos i bawb sy’n cymryd rhan sut beth yw ymarfer effeithiol a chynhwysol sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Ymhlith yr uchafbwyntiau (hyd yma), mae seremoni raddio’r Rhaglen Cymrodoriaeth yn sefyll allan. Roedd sefyll mewn ystafell yng nghwmni cydweithwyr a oedd yn amrywio o Gymrodyr Cyswllt i Brif Gymrodyr a Chymrodyr Addysgu Cenedlaethol yn wirioneddol ysbrydoledig, gan wybod ein bod i gyd yn rhannu angerdd, sef addysgu i’r safon orau bosibl. Mae cyfleoedd i ymgysylltu â chydweithwyr yn y ffordd hon, sy’n cyflawni gwahanol rolau mewn gwahanol feysydd pwnc, yn brin. Mae’r gymuned o Gymrodyr yn cynnig amgylchedd unigryw sy’n galluogi cydweithio i ffynnu.

Ni alla i argymell y rhaglenni ddigon. Maen nhw’n cydnabod yr ymrwymiad sydd ei angen i addysgu ond, yn bwysicach, y pleser a’r ymdeimlad o bwrpas y mae’n eu rhoi. Byddai pawb sy’n addysgu, waeth ble maen nhw arni yn eu gyrfaoedd, yn elwa o ymgysylltu â’r gymuned hon ac ystyried eu hymarfer mewn amgylchedd mor gefnogol.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd neu cysylltwch â ltacademy@caerdydd.ac.uk.