Skip to main content

Cymrodoriaethau Addysg

Astudiaeth Achos Cymrodoriaeth: Diana De

7 Tachwedd 2025

Roedd cael cadarnhad bod Advance HE wedi dyfarnu Prif Gymrodoriaeth i mi’n gyflawniad personol a phroffesiynol enfawr. Mae’n bendant yn garreg filltir yn fy ngyrfa academaidd ac yn tystio i’m cyfraniad i’r sector addysg uwch.

Mae angen i Brif Gymrodyr yr Academi Addysg Uwch ddangos hanes parhaus o fod yn arweinydd strategol effeithiol wrth sicrhau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel a chefnogi eraill ym myd addysg uwch. Mae pwyslais cryf ar ddangos gweledigaeth, arwain a thrawsnewid ymarfer, polisi a chanllawiau cenedlaethol. Mae angen cyflwyno tystiolaeth o wneud gwahaniaeth go iawn a chael effaith gadarnhaol drwy gyfrwng tair astudiaeth achos ar wahân. Roedd angen i’r rhain rychwantu 5-7 blwyddyn o leiaf.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oedd hi’n hawdd. Cymerodd gryn amser i mi lunio fy nghais terfynol. Roedd dewis fy nhair astudiaeth achos (allan o restr hir o opsiynau) a chynllunio sut i gyflwyno’r rhain wedi cymryd amser ac ystyriaeth ofalus. Roedd angen cyfleu’n glir fy rhan unigryw yn y gwaith o ddylanwadu ar newid strategol sylweddol, gan gynnwys ei chyfiawnhau drwy gyflwyno data a thystiolaeth bellach (7,000 o eiriau i gyd). Roedd y broses gyfan yn un hynod fyfyriol. Ar ôl dechrau arni, daeth y gwaith ysgrifennu’n fwy rhwydd. Yna, roedd angen i dri gweithiwr proffesiynol annibynnol o’r sector addysg uwch ddilysu fy honiadau. Roedd angen i un ohonyn nhw o leiaf fod o’r tu allan i’m sefydliad fy hun.

Peidiwch â gwrando ar y rhai a allai ddweud ‘fyddai hynny byth yn ddigon’. Dyna’r cyngor a roddais i gydweithiwr yn Ysgol y Gyfraith, a oedd yn credu mai hyn oedd y prif rwystr i wneud cais am Brif Gymrodoriaeth. Cofiwch – bydd pob cais yn unigryw. Ewch amdani. Ceisiwch gymorth gan rwydwaith Prifysgol Caerdydd o Gymrodyr a’r Academi Dysgu ac Addysgu. Mae Advance HE hefyd yn cynnig arweiniad defnyddiol. Gall siarad â Chymrodyr eraill Advance HE ar bob lefel eich ysgogi a’ch ysbrydoli.

Rwy’n meddwl bod y Prif Gymrawd yn cryfhau eich arweinyddiaeth, eich gwerth a’ch hygrededd proffesiynol. Mae’n rhoi cydnabyddiaeth i’r cyfraniadau rydych chi wedi’u gwneud ac yn parhau i’w gwneud yn y byd academaidd a thu hwnt. Enghraifft o hyn yw bod yn addysgwr nyrsys arbenigol, gan gynrychioli tasglu byd-eang Cymdeithas Hematoleg Prydain i Sambia. Yno, ces i’r dasg o gynnal adolygiad o hyfforddiant ‘trallwysiad gwaed diogel’ y wlad a sut y gallai fod yn fwy effeithiol. Yn fy adroddiad roedd argymhellion ar wella effeithiolrwydd yr hyfforddiant presennol. Roedd fy mewnbwn wedi cryfhau gweithio mewn partneriaeth ryngwladol, ond ar ben hynny bwydodd i mewn i brosiect rhwng GIG Lloegr a Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Cenedlaethol Sambia er mwyn sicrhau’r nod ehangach, sef gwella safon deilliannau morbidrwydd a marwolaeth cleifion ledled gwasanaethau mamolaeth. Ar lefel fwy lleol, bydda i’n rhannu rhai argymhellion â’r tîm Nyrsio Oedolion i’w hymgorffori yn rhan o addysgu hemo-wyliadwriaeth lleol i’n nyrsys sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen Rhaglenni Cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd neu cysylltwch â ltacademy@caerdydd.ac.uk.