Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo 2023
4 Mai 2023Mae Charis Francis, Swyddog Ymgysylltu â’r Myfyrwyr yn esbonio sut beth oedd Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo eleni.
Ar 19 Ebrill, am y tro cyntaf ers i’r cynllun ddechrau ym mis Hydref 2018, cynhaliwyd Arddangosfa Bosteri’r Myfyrwyr Hyrwyddo, sy’n digwydd unwaith y flwyddyn, ar sail wyneb yn wyneb.
Er bod pob Arddangosfa Bosteri cyn hyn a oedd yn rhithiol yn wych, roedd cynnal y digwyddiad wyneb yn wyneb yn anhygoel ac yn ein hatgoffa cynifer o bobl (staff a myfyrwyr fel ei gilydd) sy’n cymryd rhan yn y cynllun i wella Llais Myfyrwyr yn barhaus ledled Prifysgol Caerdydd.
Cafodd y sawl a gymerodd ran, ar 4ydd llawr Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, y cyfle i weld 17 o bosteri sy’n adlewyrchu prosiectau a thasgau gwahanol y Myfyrwyr Hyrwyddo yn ystod y flwyddyn academaidd hon.
Ymhlith y posteri roedd hyrwyddo’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, prosiectau addysg ddigidol megis Cyrsiau Blackboard Ultra a sut mae cronfa adnoddau’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wedi gwella. Roedd yr ystafell yn fwrlwm o staff o bob rhan o’r Brifysgol, wrth i’r arddangosfa gael ei chyflwyno gan yr Athro ac Arweinydd Academaidd Llais y Myfyrwyr, Luke Sloan, a Chyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu, Helen Spittle.
Ar ôl lluniaeth a rhwydweithio, aeth y staff a’r myfyrwyr i’r ystafelloedd llai o’u dewis, lle cafwyd pedair sgwrs gan Berchnogion Prosiectau Allanol ar y cyd â’n Myfyrwyr Hyrwyddo:
- Marianna Majzonova, Emily Rymer, a Deepika Khali: “Prosiect Ultra – Taith Adnoddau Cymorth Dysgu Digidol”
- Isaac Myers, Hannah Doe, ac Ellie Hosford: “Grymuso Mewnflychau: sut gallwn ni sicrhau bod myfyrwyr yn darllen eu hebyst?!”
- Michael Hackman, Hannah Shaw, ac Emyr Kreishan: “Pecyn Cymorth Grymuso Myfyrwyr i Wella eu Cymuned Ddysgu Ymholi”
- Llinos Carpenter, Hannah Doe, a Riya Majithia: “Myfyrwyr sy’n llunio dyfodol!”
Yn dilyn pob un o’r sesiynau hyn daethon ni i ddeall llawer mwy am y cynllun Myfyrwyr Hyrwyddo a’r dylanwad ehangach y mae’r myfyrwyr hyn yn ei gael ar ddarpar fyfyrwyr hyrwyddo.
Mae’r Myfyrwyr Hyrwyddo wedi gweithio mor galed eleni i wella prosesau, profi’r defnyddwyr, hyrwyddo arolygon i godi ymwybyddiaeth o fecanweithiau adborth, dadansoddi data a llawer mwy. Gwych o beth yw gweld hyn yn dod i’r amlwg mewn digwyddiad mor brysur.
Sut gall myfyrwyr fod yn Fyfyrwyr Hyrwyddo
Bellach, gallwch chi wneud cais i fod yn rhan o gynllun Myfyrwyr Hyrwyddo blwyddyn academaidd 2023/24 a’r dyddiad cau yw hanner nos 8 Mai 2023.
Mae pob myfyriwr a fydd yn astudio yng Nghaerdydd yn 2023/24 yn gymwys i wneud cais. Dyma gyfle â thâl ac yn rôl hyblyg fydd yn cyd-fynd ag astudiaethau’r myfyrwyr.
Gall myfyrwyr wneud cais yma neu wybod rhagor am y cynllun.
Os ydych chi’n aelod o staff a hoffech chi helpu i hysbysebu’r rôl hon, neu os oes hoffech chi weithio gyda’r Myfyrwyr Hyrwyddo yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 ar dasg neu brosiect, cysylltwch â cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk a gallwn drafod eich syniadau a chreu cynllun gweithredu.