Pum canfed cymrodoriaeth Prifysgol Caerdydd
17 Gorffennaf 2024Mae Daniel Wilcox, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi derbyn Cymrodoriaeth fel rhan o Raglen Cymrodoriaethau Prifysgol Caerdydd.
Mae ein Rhaglen Cymrodoriaethau Addysg Prifysgol Caerdydd sydd wedi’u hachredu gan AdvanceHE yn helpu cydweithwyr i ddatblygu eu dysgu a’u haddysgu a chael cydnabyddiaeth am eu hymarfer proffesiynol. Mae’r rhaglen, a sefydlwyd yn 2021, wedi ei gynllunio i fod yn ddiddorol, yn ysgafn a’n canolbwyntio ar ymarfer. Mae’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn addysgwyr effeithiol ac maent wedi’u cyd-ddatblygu gan staff a myfyrwyr i ddiwallu anghenion y cyfranogwyr a’r Brifysgol.
Mae cymrodoriaeth Daniel Wilcox yn arwyddocaol iawn – dyma’r pum canfed cymrodoriaeth i’r brifysgol ei ddyfarnu ers sefydlu’r rhaglen. I ddathlu’r carreg filltir, gofynnon wrth Daniel am ei yrfa, ei brofiad o’r rhaglen, a’i gyngor i ymgeiswyr y dyfodol.
Hanes Gyrfa
Cofrestrais i’n nyrs iechyd meddwl yn 2005. Yn ystod y rhan fwyaf o fy ngyrfa, dw i wedi gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl diogel i bobl â phroblemau iechyd meddwl difrifol sydd wedi troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Yn sgil y gwaith hwn, datblygais i sgiliau gweithio gyda phobl sydd ag anawsterau magu a chynnal cydberthynas. Roedd fy mhrofiadau o weithio gyda’r GIG yn cadarnhau fy angerdd dros nyrsio iechyd meddwl sy’n seiliedig ar werthoedd craidd gobaith, tegwch a thosturi. Roedd sefydlu fy hun yn glinigwr medrus a phrofiadol yn arwain yn naturiol at gyfrifoldebau cynyddol addysgwr. Doedd dim llawer o hyfforddiant ffurfiol ynghlwm wrth hyn, ond datblygais i rai sgiliau a oedd yn seiliedig ar arferion addysgu cydweithwyr mwy profiadol eraill.
Yn 2022, ymunais i â Phrifysgol Caerdydd yn Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl. Yn y swydd hon, rwy’n cyfrannu at gynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r rhaglen nyrsio iechyd meddwl. Ar hyn o bryd fi yw dirprwy reolwr y rhaglen ac arweinydd y lleoliadau academaidd.
Profiad o’r Rhaglen Cymrodoriaethau
Ar ôl y pandemig, ro’n i’n ffodus o gael ymuno â rhaglen a gyflwynwyd wyneb yn wyneb, ac roedd hyn yn gweddu i fy arddull ddysgu. Roedd y rhaglen wedi meithrin cymuned ddysgu ar y cyd ac oherwydd hynny roedd sgiliau a phrofiadau amrywiol y garfan wedi ehangu ystod fy ngwybodaeth. Roedd y rhaglen yn defnyddio dulliau addysgu amrywiol a deniadol. Neilltuwyd mentor imi a oedd yn galonogol ac yn gefnogol, gan fy helpu i atgyfnerthu ystod fy ngwybodaeth ac i ddefnyddio sgiliau a mathau newydd o wybodaeth yn fy sesiynau addysgu.
Yn sgil Rhaglen Cymrodoriaethau, dysgais i am agweddau newydd ar ddysgu ac addysgu a oedd yn amlygu fy rhagfarnau ac yn herio fy rhagdybiaethau. Dysgais i am werth dulliau addysgu sy’n amrywiol ac yn gynhwysol, a datblygais i sgiliau ymarferol sy’n creu cyfleoedd dysgu mwy hygyrch a deniadol i garfanau gwahanol myfyrwyr. Er bod hyn yn heriol, mae wedi bod yn werth chweil. Cymhelliant go iawn i wella’n barhaus felly.
Cyngor i gyfranogwyr y dyfodol
Mae’r Rhaglen Cymrodoriaethau’n rhoi’r strwythur a’r cymorth i ysgogi llwyddiant. Pryd bynnag y bo modd, dilynwch yr amserlenni a awgrymir a chwblhewch y blogiau wrth ichi symud ymlaen drwy’r gweithdai. Bydd hyn yn eich helpu i ganolbwyntio a chadw’r llwyth gwaith o dan reolaeth.
Mae’r Rhaglen Cymrodoriaethau’n gyfle gwych i weithio gyda phobl o bob rhan o’r Brifysgol. Meithrin perthnasoedd parhaol gyda phobl eraill yn eich carfan. Dechreuwch gyda’ch grŵp rhannu myfyriol a chysylltwch â’ch gilydd yn rheolaidd, gan sefydlu efallai grŵp Teams i rannu syniadau.
Cysylltwch â’ch mentor i drefnu cwrdd ag ef. Roedd hyn o gymorth mawr imi barhau i ganolbwyntio ar y portffolio a chysoni fy mhrofiad o ddysgu â fframwaith y safonau proffesiynol.
Yn olaf, mwynhewch!