Skip to main content

NewyddionYmchwil

Cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus newydd sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc

13 Ebrill 2022
Businesswoman of Indian descent speaking at a seminar
Businesswoman of Indian descent speaking at a seminar

Bydd cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yng nghwmni academyddion o fri rhyngwladol yn cael ei lansio fis nesaf; mae’r gyfres wedi’u threfnu gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Mae’r ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar ddeall achosion gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae lansio cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn un o’r llu o ddatblygiadau newydd sy’n digwydd yng Nghanolfan Wolfson.

Wedi’i threfnu gan Dr Yulia Shenderovich a Dr Lucy Riglin, bydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn digwydd ar ffurf cyflwyniad awr o hyd bob mis gan academyddion rhyngwladol; hyn yn gysylltiedig â gwaith y Ganolfan ym maes iechyd meddwl ieuenctid.

Dywedodd Dr Riglin: “Rydym yn falch iawn o fod yn arwain ar y gyfres gyffrous newydd hon o ddarlithoedd. Mae gan Ganolfan Wolfson gysylltiadau cryf ag academyddion o bob rhan o’r byd, sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y gyfres hon yn rhoi rhagor o sylw i’r arbenigwyr sydd gennym ledled y DU yn ogystal â’n cydweithwyr rhyngwladol.”

Ychwanegodd Dr Shenderovich: “Rydym yn ffodus i gael dyfnder ac ehangder gwybodaeth ac arbenigedd ar draws disgyblaethau ym Mhrifysgol Caerdydd ond hefyd cysylltiadau rhyngwladol gwych. Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn cynnig cyfle i gryfhau’r cydweithio hwn ag academyddion uchel eu parch o bob rhan o’r byd, ac rydym wrth ein bodd mai ein siaradwr gwadd cyntaf fydd yr Athro Lucie Cluver.”

Bydd darlith ar-lein gyntaf y gyfres yn cael ei thraddodi gan Lucie Cluver, Athro Gwaith Cymdeithasol Plant a Theuluoedd, Adran Polisi Cymdeithasol ac Ymyrraeth, Prifysgol Rhydychen ac Adran Seiciatreg ac Iechyd Meddwl, Prifysgol Cape Town.

Dywedodd yr Athro Cluver: “Mae’n fraint wirioneddol cael rhoi’r ddarlith gyntaf yn y gyfres newydd hon gan dîm Canolfan Wolfson. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd tu hwnt i blant a theuluoedd. Mae’r pandemig COVID wedi cynyddu trallod iechyd meddwl oedolion, plant a phobl ifanc, ochr yn ochr â thlodi a chyfnodau clo estynedig. Yn ogystal, mae argyfyngau dyngarol megis yn Syria, Afghanistan a nawr Wcráin yn gorfodi teuluoedd i ofalu am blant sydd mewn perygl cyson o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol.

“Yn y cyflwyniad hwn byddwn yn trafod ymdrechion i arloesi – a hynny ar garlam – o ran cynnig y cymorth gorau ar sail tystiolaeth i deuluoedd mewn argyfyngau a byddwn yn dangos tystiolaeth o’n gwaith mewn rhaglenni rhianta sy’n cefnogi teuluoedd mewn argyfyngau.”

Dywedodd Dr Riglin: “Rydym yn gobeithio y bydd y pwnc amserol a phwysig hwn o ddiddordeb i gynulleidfa eang. Gallwch gofrestru nawr ar gyfer sgwrs y mis nesaf ac mae’r ddarlith gyhoeddus yn rhad ac am ddim.”

Bydd darlith rithwir yr Athro Cluver, Parenting in Emergencies: Evidence and innovation to support children and their caregivers,  yn digwydd ddydd Mawrth 26 Ebrill am 2pm.

Cofrestrwch ar-lein nawr.