Skip to main content

NewyddionYmchwil

Ceisiadau ar agor ar gyfer Ysgol Haf newydd mewn ymchwil iechyd meddwl ieuenctid

6 Ebrill 2022

Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal ei Hysgol Haf rithwir gyntaf ym mis Gorffennaf eleni.

Cynhelir y cwrs tri diwrnod ar-lein rhwng 18 a 20 o Orffennaf, yng ngofal y tîm rhyngddisgyblaethol arbenigol yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Vicky Powell a Dr Chris Eaton o Ganolfan Wolfson sy’n arwain ar raglen yr Ysgol Haf.

Dywedodd Dr Powell: “Rydym ar ben ein digon i fod yn trefnu’r Ysgol Haf gyntaf un ar ran Canolfan Wolfson. Nod ein rhaglen ar-lein yw rhoi sylfaen i ddarpar ymchwilwyr o gefndiroedd clinigol ac anghlinigol mewn ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y gwaith eang a wnawn yn y ganolfan.”

Ychwanegodd Dr Eaton: “Bydd yr ysgol haf yn cael ei chyflwyno gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf, a fydd yn cynnig cyflwyniadau a gweithdai yn eu meysydd arbenigedd. Byddant yn canolbwyntio ar ddeall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a all lywio ffyrdd effeithiol newydd o gynnig cymorth ymarferol i bobl ifanc.

Bydd y rhaglen amrywiol yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau ym maes dulliau a chanfyddiadau ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, gan ddefnyddio disgyblaethau epidemioleg, geneteg, niwrowyddoniaeth a datblygu ymyriadau.

Mae’r ysgol haf hefyd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar bynciau sy’n cynnwys cyngor ar yrfa ymchwil, pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, a sut gall ymchwilwyr helpu i sicrhau bod canfyddiadau’n cael eu trosi’n bolisi i’r llywodraeth. Bydd cyfle hefyd i rwydweithio’n rhithiwr gyda phobl eraill a fydd yn bresennol a chyda siaradwyr.

Mae’n rhad ac am ddim i fynychu’r ysgol haf ac mae wedi’i hanelu at wyddonwyr ymchwil (Meistr, PhD, Ôl-ddoethurol, neu i unrhyw un sydd wedi cwblhau gradd israddedig) a hyfforddeion clinigol (Hyfforddiant Sylfaen/Craidd/Arbenigedd) sydd â diddordeb mewn symud i ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, neu’r rhai sydd am gael cyflwyniad i’r maes.

Rydym yn hoffi annog unrhyw ddarpar wyddonwyr ymchwil neu hyfforddeion clinigol i wneud cais am y cyfle hwn. Mae’r rhaglen yn gyfle i ddysgu mwy am symud i faes iechyd meddwl ieuenctid mewn rolau ymchwil a chlinigol a gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i ystod eang o fynychwyr.

Dr Victoria Powell, Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

I gloi, dywedodd Dr Eaton: “Rydym yn edrych ymlaen at agor drysau rhithwir Canolfan Wolfson yr haf hwn a chroesawu hyfforddeion ac ymchwilwyr newydd i ddysgu mwy am ein gwaith. Mae’r ceisiadau yn cau ar 27 o Fehefin 2022 ac edrychwn ymlaen at glywed gennych yn fuan!”

Sut i wneud cais

I wneud cais i fynychu Ysgol Haf Canolfan Wolfson mewn Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i wefan yr Ysgol Haf.