Skip to main content

Ffrwd, Ymchwil

Deall iechyd meddwl plant mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig

28 Medi 2026

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc y byd yn byw mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig (LMICs) ac efallai mai nhw sy’n dioddef problemau iechyd meddwl fwyaf oherwydd bod gwybodaeth ac ymchwil ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y rhanbarthau hyn yn brin iawn.

Mae hyn yn golygu nad yw ymchwilwyr a chlinigwyr yn gwybod sut mae plant a phobl ifanc yn y rhanbarthau hyn yn datblygu problemau iechyd meddwl. Yn y blog hwn, mae Dr Olakunle Oginni o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn esbonio sut mae’n ceisio newid hynny.

 

Mae gwybodaeth well yn arwain at ymyriadau mwy effeithiol

Mae deall pam mae pobl ifanc yn datblygu problemau iechyd meddwl yn gallu ein helpu i gynllunio ymyriadau gwell i wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig.

Gall yr ymyriadau hyn fod mor syml ag addysgu rhieni ynghylch sut y gallant gefnogi iechyd meddwl eu plant. Fodd bynnag, er mwyn gallu gwneud hyn, mae angen i ni gynnal ymchwil drylwyr ymhlith plant mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig.

 

Cael mwy o ddata

Mae enghraifft o ddyluniadau ymchwil o’r fath yn cynnwys casglu gwybodaeth gan blant ac efeilliaid sy’n oedolion a’u rhieni neu eu plant yn y drefn honno. Gall y dyluniad hwn ddweud wrthym a yw rhieni’n trosglwyddo risg genetig ar gyfer problemau iechyd meddwl i’w plant, ac a yw problem iechyd meddwl rhiant hefyd yn gwneud yr amgylcheddau’n anodd i’r plant.

Gan nad oedd astudiaeth o’r fath wedi’i chynnal o’r blaen mewn gwlad ag incwm a chanolig, fe wnaethom brofi a oedd yn ymarferol yn ne-orllewin Nigeria. Yn ogystal, fe wnaethom archwilio’r cysylltiadau rhwng problemau iechyd meddwl rhieni a phlant ymhlith ein cyfranogwyr.

 

Siarad â chyfranogwyr yr astudiaeth

Fe wnaethon ni wahodd rhieni a phlant ifanc sy’n efeilliaid o 320 o deuluoedd i ddweud wrthym am eu hiechyd meddwl eu hunain ac iechyd meddwl eu plant.

Dywedon nhw wrthym hefyd am bethau eraill sy’n effeithio ar les plentyn megis iechyd corfforol, trais domestig ac anhrefn gartref, triniaeth llym o’r plant, credoau crefyddol y teulu, perthnasoedd cynnes â phlant a thueddiad y plant i feithrin perthnasoedd cadarnhaol (a elwir hefyd yn gymdeithasgarwch).

Elfen allweddol o’r astudiaeth hon oedd cael adborth gan rieni efeilliaid, a helpodd yr awgrymiadau a roddwyd i ni i wneud y prosiect yn llwyddiannus.

 

Beth wnaethon ni ei ganfod?

Ar ôl dadansoddi’r data, gwelsom, pan oedd gan rieni yn ne-orllewin Nigeria broblemau iechyd meddwl, fod eu plant gefeilliaid hefyd yn fwy tebygol o fod â phroblemau iechyd meddwl.

Fe wnaethon ni hefyd ganfod bod ffactorau angenetig yn chwarae rolau pwysig yn y perthnasoedd hyn ac roedd y rhain yn cynnwys triniaeth llym o’r plant, iechyd corfforol gwael plant, cynhesrwydd rhieni isel a chymdeithasgarwch isel ymhlith y plant.

 

Rhoi yn ôl i’r gymuned
Aethom gam ymhellach i rannu’r canfyddiadau hyn â’r rhieni a gymerodd ran yn yr astudiaeth, a dywedon nhw wrthym fod hyn wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy abl i gefnogi eu plant.

Dywedon nhw wrthym hefyd eu bod nhw a’u plant wedi mwynhau cymryd rhan yn yr astudiaeth.

Mae rhai ystyriaethau pwysig yn cynnwys methu profi a yw problemau iechyd meddwl plant hefyd yn effeithio ar iechyd meddwl rhieni.

 

Y camau nesaf
Gallen ni brofi hyn yn y dyfodol drwy gynnwys efeilliaid sy’n oedolion a’u plant hefyd.

Yn y pen draw, rydym yn edrych ymlaen at droi ein canfyddiadau yn weithgareddau addysg gyhoeddus i gynyddu’r wybodaeth gywir am broblemau iechyd meddwl plant yn Nigeria a gwledydd eraill ag incwm isel a chanolog.

 

Dysgu mwy

Er mwyn helpu i wneud canfyddiadau’r ymchwil yn hygyrch i’r teuluoedd a gymerodd ran, fe wnaethon ni greu tri fideo byr yn esbonio’r astudiaeth a’i chanfyddiadau. Datblygwyd y fideos yn wreiddiol fel rhan o weithgaredd i rannu’r canlyniadau’n uniongyrchol â theuluoedd a gymerodd ran ac maent bellach ar gael i’w gwylio ar YouTube:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r fideos ac os hoffech ddysgu mwy am ymchwil i efeilliaid yn Nigeria, dilynwch y prosiect ar Facebook neu LinkedIn .

Os ydych chi’n efell, neu os oes gennych chi blant neu frodyr a chwiorydd sy’n efeilliaid ac yn byw yn Nhalaith Osun, Nigeria ac mae gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymchwil i efeilliaid yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu.