Skip to main content

ElectionsWelsh Elections

Dryswch yng Nghymru Fydd?

14 February 2017

Aled Morgan Hughes sy’n ymateb i argymhellion diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadau cyngor sir…

Dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, gyda thwf pwerau a chynrychiolaeth, does fawr amheuaeth i fap etholiadol Cymru ddod yn fwyfwy cymhleth. Dychmygwch, er enghraifft, neidio mewn car a gyrru o Gaernarfon i Aberystwyth. Gwibio heibio’r chwedlonol Madiha Tandoori; foot down wrth drio pasio lori Mansel Davies ger Dolgellau; a gweddïo nad yw’r Bont Dyfi ger Machynlleth dan ddŵr. Siwrne’ ddigon hirwyntog drwy berfeddion un etholaeth Senedd Ewrop, 4 etholaeth San Steffan a’r Cynulliad, 3 cyngor sir, 2 ranbarth Cynulliad, 2 awdurdod heddlu, a degau o gynghorau cymunedol lleol.

Law yn llaw gyda’r gwahanol haenau yma o gynrychiolaeth a fodolai yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, gwelir y systemau etholiadol hefyd yn amrywio. Ar gyfer Aelodau Seneddol Ewrop (caiff yn fuan eu halltudio i ebargofiant) defnyddir system rhannol-gyfrannol d’Hondt. Ar gyfer y 40 Aelod Seneddol a chynghorwyr sir lleol, defnyddir system draddodiadol Cyntaf Heibio’r Postyn. Ar gyfer y Cynulliad, ceir system gymysg Aelod Ychwanegol, gyda’r 40 AC etholaethol yn cael eu hethol drwy’r system Gyntaf Heibio’r Postyn a’r 20 rhanbarthol drwy system bleidiol gyfrannol Mr d’Hondt. Tra, ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu, sydd wedi cael eu hethol yng Nghymru a Lloegr ers 2012, defnyddir system etholiadol o Bleidlais Atodol.

Gyda bodolaeth 7 lefel gwahanol o gynrychiolaeth etholedig, a chymysg o 3 system etholiadol wahanol o bleidleisio, does fawr syndod ceir awgrym gan rai o ddryswch ac anwybodaeth gwleidyddol (gweler erthygl ddiweddar fy nghyfaill, Jac Larner) ymysg etholwyr Cymru. Caiff y dryswch yma yn aml ei danio ymhellach drwy natur newidiol ffiniau etholiadol. Er enghraifft, gweler etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn rhan o Gyngor Sir Gwynedd, ac felly’n ardal naturiol o Ogledd Cymru- gan hefyd berthyn i awdurdodaeth Comisiynydd Heddlu’r Gogledd. Er hyn, yn y Cynulliad, mae’r etholaeth yn rhan o ranbarth ddaearyddol-enfawr, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, ac nid rhanbarth Gogledd Cymru.

Gan ystyried cyfansoddiad cymysg cynrychiolaeth Cymru, sioc oedd felly darllen ambell gynnig mewn papur gwyn diweddar gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio cynghorau sir. Ynghyd â chynyddu’r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed, amlinellai’r papur argymhellion i awdurdodau lleol fedru ddewis system etholiadol ar gyfer eu hetholiadau cyngor.

Byddai’r cynlluniau yma’n gweld cynghorau unigol yn cael dewis rhwng y system draddodiadol, Cyntaf Heibio’r Postyn o bleidleisio, neu system fwy cyfrannol ei naws – y ‘Single Transferable Vote’ (STV). Dychmygwch unwaith eto felly ein taith ddychmygol o Gaernarfon i Aberystwyth. Drwy’r argymhelliad, gall sefyllfa godi’n hawdd lle, er enghraifft, gwelir Gwynedd yn mabwysiadu system STV, Powys yn parhau gyda’r hen drefn Gyntaf Heibio’r Postyn, cyn yna ddychwelyd yn ôl i diriogaeth STV yng Ngheredigion. Nawr dychmygwch yr amrywiad systemol yma wedi ei ail-adrodd, ar hap a damwain, ar draws 22 cyngor sir Cymru. Smonach go iawn.

Mae’n hanfodol nodi, nid barnu’r syniad o ddiwygio etholiadau cyngor sir Cymru yr wyf, nac ychwaith dadlau yn erbyn system etholiadol STV. Hen stori yw hi bellach bod gormod o gynghorwyr sir yng Nghymru. Byddai symudiad unfrydol tuag at system megis STV yn fodd o gywiro hyn, ac yn rhywbeth i’w groesawu wrth sicrhau cynrychiolaeth fwy cyfrannol. Fel profir yn amgylchfyd gwleidyddol aml-haenog yr Alban, ers i system STV gael ei orfodi ar yr holl gynghorau yn 2007, ceir sawl astudiaeth a honnai i’r cyhoedd ddeall a chefnogi’r system newydd.

Does fawr amheuaeth bod angen ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth ynghylch â’r cwestiwn o etholiadau cyngor sir yng Nghymru. Fodd bynnag, rhyw lipryn bach sydd yn naill yr un peth na’r llall yw’r argymhelliad diweddaraf yma. Cynnig gwag, gan gynrychioli ymgais wirfoddol o basio baich a chyfrifoldeb dros benderfyniad allweddol o ddwylo Llywodraeth Bae Caerdydd i actorion gwleidyddol isradd.

Bydd y potensial am ddiffyg cydlyniant etholiadol drwy adael cynghorau ddewis systemau pleidleisio eu hunain ond yn sbarduno dryswch ar lawr gwlad. Penbleth ychwanegol mewn Cymru lle fodolai yn barod, drwy haenau niferus o wleidyddion a systemau etholiadol amrywiol, treiffl gorlawn o gynrychiolaeth. A hyn oll mewn cymdeithas sydd wedi ei lesteirio gan elfen o anwybodaeth wleidyddol sylfaenol ymysg rhengoedd o’i phoblogaeth.

Tra bod etholiadau a chynrychiolaeth o fewn cynghorau sir Cymru yn fater sy’n crefu am ddiwygiad gan y Llywodraeth, ni fyddai’r argymhelliad yma o’r pick and mix politics yn gam adeiladol ymlaen i’r cynghorau- nac ychwaith o gymorth i gyflwr democratiaeth ein gwlad.


Ers gorffen ysgrifennu’r erthygl hon ddiwedd wythnos diwethaf, mae fy nghyfaill, a Tad Bedydd etholiadau Cymru, yr athro Roger Scully, hefyd wedi cyhoeddi erthygl ar y faterDwy erthygl yn yr un wythnos am ddiwygio etholiadau Llywodraeth Leol yng Nghymru! ‘Dolig wirioneddol wedi dod yn gynnar!

@AledMorganH