Skip to main content

Cymraeg

Profiadau Allygyrsiol Cymreig

15 November 2019

Yng Nghaerdydd, ceir yna gyfoeth o brofiadau allgyrsiol Cymreig. Gall y rhain amrywio o brofiadau chwaraeon i brofiadau cerddorol. Rwyf am grybwyll ychydig o’r rhai yr wyf wedi manteisio arnynt, Yn ddiau, fe wnaeth y profiadau hyn ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i ddod i Gaerdydd i astudio.

Y GymGym

Dyma gymdeithas sydd yn cwrdd yn bythefnosol gan amlaf i gymdeithasu. Fel arfer, crôls sy’n ymgasglu’r myfyrwyr at ei gilydd gan ddechrau mewn tafarnau’r ddinas cyn gorffen mewn clwb nos fel pinacl y noson. Nid yw’r gymdeithas yn cael ei chynnal ar noson benodol bob tro, bydd y gymdeithas yn ceisio amrywio’r crôls o ran noson yr wythnos bob tro, er mwyn osgoi effeithio’r un bobl bob tro. Ceir yna gyfle i ymdrechu trwy gyfrwng gwisg yn y crôls gyda themâu amrywiol, megis degawdau, cymeriadau, Calan Gaeaf, SgymGym, i grybwyll ond ychydig.

Yn ychwaneg i’r rhain, ceir digwyddiadau nodedig eraill ar hyd y flwyddyn. Rwyf newydd ddychwelyd o Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Ryng-golegol. Achlysur ydyw sy’n uno cymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru (Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth, Bangor a’r Drindod) sy’n gyfle arbennig i gymdeithasu gyda hen ffrindiau, yn ogystal â chwrdd â phobl o Brifysgolion eraill. Yn ystod y penwythnos, cafwyd Stomp farddonol, gêm bêl-droed gyfeillgar, gig a mwy na digon o gyfleoedd i yfed. Nid dyma’r unig ddigwyddiad rhyng-golegol ar hyd y flwyddyn ychwaith, caiff Eisteddfod ei chynnal yn yr ail dymor.

Hyd yn hyn, mae’r gymdeithas wrthi’n cynllunio ar gyfer y Ddawns Fawreddog, sef cyfle i gymdeithasu dros ginio 3 phryd mewn awyrgylch ffurfiol. Caiff hon ei chynnal yn ystod wythnos olaf mis Ionawr fel ffordd o ddathlu ar ôl cyfnod o arholiadau. Yn fwy na hynny, ceir yma gyfle i’r aelodau gael lluniau gan ffotograffydd proffesiynol er mwyn eu huwchlwytho i’w proffiliau ar-lein!

Yn ystod yr ail dymor hefyd, mae aelodau’r gymdeithas yn teithio ar drip rygbi ar gyfer gêm rygbi’r Chwe Gwlad. Gan amlaf, newidia’r trip ei leoliad o flwyddyn i flwyddyn am yn ail rhwng Dulyn a Chaeredin. Yn ogystal â chymdeithasau Cymraeg Prifysgolion Cymru, ceir ymddangosiadau eraill gan gymdeithasau Cymraeg Prifysgolion eraill megis Bryste, Caerfaddon a Sheffield i enwi ond ychydig.

Er inni fod yn gymdeithas sy’n cyfarfod yn rheolaidd gyda’r hwyr, ceir canghennau eraill gan y gymdeithas hefyd. Ymhlith y rhain yw tîm rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd. Maent hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn hyfforddi a chwarae o fewn cynghreiriau chwaraeon y Brifysgol. Yn ychwanegol i hyn, cyniga hyn gyfleoedd i’r timoedd chwarae yn erbyn prifysgolion y rhyng-golegau. Rheswm arall i’r Prifysgolion gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Aelwyd y Waun Ddyfal

I’r rheiny ohonoch sydd wedi cystadlu mewn Eisteddfodau ar hyd y blynyddoedd (yn enwedig Eisteddfod yr Urdd), mae’n bosib nad yw enw’r Waun Ddyfal yn un estron. Dyma gymdeithas arall sydd yn cyfarfod yn aml er mwyn cyd-ganu ac ymarfer tuag at nodau gwahanol ar hyd y flwyddyn. Rydym newydd gynnal cyngerdd Nadolig yn Eglwys Dewi Sant yn y ddinas a chodi arian tuag at Mind Cymru. Ein her nesaf, fel y crybwyllais uchod, yw paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd lle y byddwn yn cystadlu mewn cystadlaethau’r Corau Cymysg, Côr Merched, Côr Bechgyn, Parti Cerdd Dant a’r Grŵp Llefaru.

Dyma gymdeithas sydd yn annibynnol o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac felly mae yna fwy o groeso yma i bobl ifanc o brifysgolion eraill, ôl-raddedigion a gweithwyr ifanc ymuno. Hefyd, croesawa’r gymdeithas bob gallu cerddorol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle a bod pawb yn mwynhau.

Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd

Dyma ymbarél o gymdeithas sydd yn cwmpasu cyfryngau Cymraeg o fewn Xpress Radio, Gair Rhydd, CUTV a Quench. Cyniga pob un ohonynt rywbeth gwahanol at ddant pawb sydd yn ymddiddori ym myd y cyfryngau. Cyfle i greu sioe radio wythnosol eich hun a gynigir gan Xpress Radio gyda sawl sioe lwyddiannus ar yr awyr bob wythnos. O’r siarad i’r ysgrifennu, mae Gair Rhydd yn blatfform gwych i newyddiadurwyr y dyfodol finiogi eu sgiliau a cheir adran Taf-Od sy’n arbenigo mewn cynnwys Cymraeg. Cyfrwng arall yw CUTV sy’n creu fideos rheolaidd am sawl elfen o fywyd Cymraeg yng Nghaerdydd. Heb os, ceir elfen eithaf anffurfiol a hwylus gan CUTV sy’n aml yn ceisio crisialu manteision ymuno â’r cymdeithasau a phrofiadau cyfrwng Cymraeg eraill. Yn olaf, cylchgrawn wythnosol yw Quench sydd yn cynnwys adran Gymraeg o’r enw Clebar. “