Skip to main content

Cymraeg

Hwyl dros y Nadolig Tra’n Astudio ym Mhrifysgol Caerdydd

22 December 2014

Helyntion Crol Dolig

Cyn imi droi rownd, roedd hi’n bump o’r gloch ar brynhawn Iau ola’r tymor ym Mhrifysgol Caerdydd…y traethodau wedi’u cyflwyno, y gwin wedi’i agor ar gerddoriaeth Nadoligaidd yn blastio. Ie, HWRE a HALELIWIA daeth hi’n amser dathlu diwedd y tymor. Pa well ffordd i wneud hynny nag ar grol Gym Gym olaf y flwyddyn hon – sef y Crol Dolig. Mae’n ddelfrydol bod y crol yma ar y nos Iau gan bod llawer iawn ohonom ni (fi yn gynwysedig yn hynny!) yn barod am adref ar y nos Wener pan fo Drink the Bar Dry yr Undeb Myfyrwyr yn cael ei gynnal.

Y drefn ydy i bawb wisgo’n Nadoligaidd gan dyrchu’n Primark (mae siopau mawrion a rhesymol eraill i’w cael yng Nghaerdydd wrth reswm!) am y siwmperi Nadolig gorau. Serch hynny, roedd yr ymdrechion yn amrywio o onesies Sion Corn gyda’r goreuon neu ddarn o dinsel unig gan rai eraill! Chwarae teg i Bwyllgor y Gym Gym, eleni, maent yn ceisio trio hynny y gallant o lefydd newydd i ymweld â nhw ar y Crols. Ddechreuon ni’r noson wlyb ac oer yn y Queen’s Vaults cyn symud ymlaen am ambell goctel yn Missoula ar Heol y Santes Fair i’n cynhesu! I’r enwog Flares cyn gorffen y noson yn Walkabout. Yn ein haros yn yr ardal VIP yn Walkabout oedd ‘snowboard’ ar ryw fath o gastell neidio ! Gallwch ddychmygu’r brwdfrydedd ar ol ambell ddiod i drio aros ymlaen! Yn anorfod, doedd neb yn para llawer mwy na ryw bum eiliad (addo!). Rhaid cyfaddef fy mod i’n teimlo’r ergyd o gael fy nhaflu i ffwrdd am ddyddiau wedi’r crol!

Deuddydd yn Aberystwyth efo’r Coleg Cymraeg

Dim ond cyfle i adael fy ffeils a fy magiau adref ges i, cyn ei bod hi’n amser cychwyn am Aberystwyth! Yn swyddogol, daeth y tymor i ben yng Nghaerdydd ddydd Gwener y 12fed o Ragfyr. Ond, efallai y cofiwch imi son mewn blog blaenorol mod i’n astudio modiwl o’r enw ‘Credoau’r Cymry’ drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Golyga hyn bod cyd-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn astudio’r modiwl,felly roedd yn gyfle i grynhoi’r holl ddysgu dros y tymor diwethaf a pharatoi ar gyfer y traethodau. Cawsom ddeuddydd o seminarau dwys, noson mewn gwesty yn y dref a phryd o fwyd yn y Llew Du – i gyd am ddim ! Roedd hwn yn brofiad hynod braf ac yn rhywbeth unigryw iawn. Roedd modd trafod syniadau am y pwnc gyda’n cyd-fyfyrwyr a’r darlithydd, y tu hwnt i’r sesiynau ffurfiol, heb deimlo ei bod hi’n amhriodol gwneud hynny. Cafwyd cyfle i ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal ar y dydd Mawrth – y tro cyntaf imi fod yno. Fel a ddywedais yn y blog blaenorol, dyma ddangos addysg Gymraeg yn ein prifysgolion wirioneddol yn ehangu’r profiad- boed hynny drwy gynnig profiadiau dysgu gwahanol, gwahanol grwpiau o gyfoedion i gymdeithasu â nhw neu drwy ymweld â gwahanol sefydliadau a phrifysgolion yn ei sgil. Ges i hefyd gyfle i wneud ychydig o siopa Dolig yn Siop y Llyfrgell Genedlaethol!

Mae’n rhaid imi rannu’r llun Instagram yma wnes i ddal yn y B+B yn Aber. ‘Dydyn nhw’n cwl?! Diolch am drefnu, Coleg Cymraeg!

Bydd rhaid imi awgrymu wrth Brifysgol Caerdydd edrych ar osod y tapiau yma yn y brifysgol! Ymddiheuriadau mai dyma mor ddifyr â mae’r lluniau yn mynd – dwi’n un gwael iawn am dynnu lluniau ar noson allan a mae’n ffon i wedi bod yn wael ar ben hynny! Addewid ar gyfer 2015 – mwy o luniau defnyddiol ichi efallai!

Bwyta. Gweithio. Joio. Gweithio…

Dw i bellach yn ol adref yn mwynhau bwyta- lot! Mae’n braf cael dal fyny hefo ffrindiau nad ydych yn eu gweld yn ystod y tymor yn y brifysgol pan fyddwch adref a chael mynd allan yn yr hen haunts sydd wastad yn brofiad braf (gan fwyaf)! Serch hynny, mae’n boen bod gwaith prifysgol yn parhau heb fawr o drugaredd dros y Dolig. Felly, dros yr wyl rwan bydd rhaid imi gydbwyso traethawd 2,500 o eiriau, 2 arholiad, prawf dosbarth a chyflwyniad – oll ddechrau Ionawr, ynghyd â joio. Bydd digon o fwynhau dros yr wyl hefyd. ‘Dolig Llawen ddarllenwyr! X