Skip to main content

Cymraeg

Prysurdeb tra’n Astudio yn y Brifysgol

30 November 2014

Fe ddaeth hi’n Wythnos 10! Mae’n anodd coelio cyn lleied o amser sydd ar ol o’r tymor hwn. Mewn dim bydd pawb yn mynd am adref ac yn ymbaratoi ar gyfer arholiadau a phrofion ac amrywiol asesiadau sydd i’w cyflwyno ar y ôl y Nadolig. Mae’n rhaid cyfaddef nad ydw i wedi cael llawer o amser o’r gwbl i feddwl am y Nadolig eto. Dyma grynhoi ychydig o fy hanes dros yr wythnosau diwethaf felly.

Y Ddawns Ryng-golegol

Y penwythnos cyn diwethaf, bu criw mawr ohonom yn Aberystwyth ar gyfer y ddawns Ryng-golegol. Mae’r Ddawns yn nhymor yr hydref un o o uchafbwyntiau’r tymor heb os. Heidiodd dau fws ohonom o Gaerdydd ar y nos Wener am noson allan yn Aber gyda’n cyd-fyfyrwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru. Roedd hi’n braf cael dal i fyny â ffrindiau ysgol ac amrywiol gyfeillion eraill o amgylch tafarndai’r dre cyn diweddu yn yr enwog Pier Pressure! Mae lle aros dros nos yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais, ond o brofiad y flwyddyn gyntaf nid dyma’r gwesty fwyaf moethus ger y lli! Roeddwn yn ffodus bod gan fy ffrind Ifan dy yn y dre ac iddo gynnig llety inni. Diolch yn fawr, Ifan ! Mewn dim o dro, roedd hi’n brynhawn Sadwrn wedi llond bol o frecwast mewn caffi chwaethus yn y dre, roedd hi’n amser gwisgo’r Crysau T ac ail-ymgynnull yn y Llew Du i wylio’r gem rygbi. Afraid dweud, roedd yr Hen Lew Du dan ei sang. Fyny Rhiw Penglais wedi swper ac ymweliad ag ambell dafarn arall wedyn ar gyfer y Ddawns ei hun. Cafwyd gwledd o gerddoriaeth ac ambell mosh pit ! Roedd Candelas, Y Bandana, Mellt, Y Reu, Ysgol Sul a Guto Rhun yn DJio oll i’w clywed ar y nos Sadwrn!! Yr unig siomedigaeth oedd o fewn dim o dro roedd hi’n amser llwytho’r ddau fws yn sydyn a chychwyn yn ôl am y brifddinas! Roedd rhai yn cysgu yn syth bin tra bo rhai eraill yn fwy uchel eu cloch ar hyd lonydd y wlad….

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb y Myfyrwyr

Dwi heb son ryw lawer am fy ngwaith fel Swyddog y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr ar y blog hyd yma rhwng pob dim. Serch hynny, mae hi wedi bod yn dymor prysur tu hwnt gyda llawer iawn o ddatblygiadau cyffrous. Roeddwn yn gyfrifol am gyflwyno Siarter iaith Gymraeg Cenedlaethol Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i’r Undeb ddechrau’r mis. Fel rhan o’r argymhellion roedd yr hawl i siarad Cymraeg mewn cyfarfodydd democrataidd. Roeddwn wrth fy modd i allu gwneud hynny yn y Cyfarfod Blynyddol nos Iau. Y Cyfarfod Blynyddol yw’r cyfarfod pwysicaf yng nghalendr Undeb y Myfyrwyr felly dyma ddatblygiad hynod bwysig a dderbyniodd groeso cynnes gan lawer. Darllenwch fy erthygl i TafOd am y Cyfarfod yma: http://issuu.com/mikeocd/docs/gr1039 (Mae TafOd yng nghefn y cyhoeddiad Gair Rhydd ehangach)

Hefyd, os hoffech ddarllen mwy o am gymradwyo’r Siarter, mae’r datganiad i’w weld ar wefan yr Undeb, yma: http://www.cardiffstudents.com/news/article/6013/Siartr-yr-Iaith-Gymraeg-/

Nol at y Bandana!

Mae’n rhaid ein bod wedi mwynhau’r Bandana y penwythnos blaenorol yn y Ddawns yn Aberystwyth gan inni benderfynu mynd i’w gweld eto neithiwr yng Nghlwb Ifor Bach. Roedd awyrgylch fywiog iawn yno eto neithiwr a phawb mewn hwyliau da wedi i Gymru guro’r gem rygbi hefyd! Fe wnaeth y Bandana blesio eto neithiwr gyda ffefrynnau hen a newydd fel ei gilydd. Mae’n debyg mai dyma’r gig olaf yr awn iddo y tymor hwn, gan obeithio y bydd arlwy’r tymor nesaf yno cystal os nad yn well nag eleni.

PRYSUR!

Mae llawer i’w wneud cyn y caf feddwl am y ‘Dolig o ysgrifennu traethawd 2,000 o eiriau ar International Law i gyflwyno cynnig am refferendwm (mwy am hyn yn fuan gobeithio!) i Senedd yr Undeb a mynd i fwynhau amryw ginio a noson allan…Am y tro!

ON. Lluniau i ddilyn