Skip to main content

CymraegLectures

Dysgu Wyneb-yn-Wyneb ar Gampws COVID-Ddiogel

14 December 2020

Helo, Shôn ydw i, croeso i fy mlog cyntaf ar y safle hon. Rwyf fel arfer yn astudio Meddygaeth, ond y flwyddyn hon rydw i’n gwneud gradd ymsang mewn Ffarmacoleg rhwng y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn o’r cwrs Meddygaeth. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod, mae gradd ymsang yn fath o radd ychwanegol mae myfyrwyr Meddygaeth yn gallu dewis i’w gwneud mewn blwyddyn. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu bod y cwrs yn mynd o fod yn bum mlynedd o hyd i fod yn chwe mlynedd ond mae’n gyfle i ddatblygu nifer o sgiliau ac mae’n golygu ein bod ni’n cael dwy radd! Yn achos Ffarmacoleg, rydyn ni’n ymuno â’r drydedd flwyddyn o’r cwrs Ffarmacoleg Feddygol.

Mae’r mwyafrif o addysg prifysgol yn cael ei gynnal yn ddigidol y flwyddyn hon, ar lwyfannau megis Microsoft Teams a Zoom, ond oherwydd maint bychain y grwpiau, rydyn ni ar y cwrs Ffarmacoleg wedi bod yn ffodus iawn ein bod ni’n parhau i gael y rhan fwyaf o’n darlithoedd wyneb-yn-wyneb. Roeddwn i’n meddwl byswn i’n defnyddio’r cyfle yma i drafod sut brofiad yw addysg di-rithwir yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn.

Pan yn cyrraedd adeilad prifysgol, mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb o ryw fath ac mae cyfleusterau golchi dwylo ar y ffordd i mewn. Mae system un ffordd o fewn nifer o adeiladau’r brifysgol ac felly mae’n rhaid mynd i mewn trwy ddrws penodol a dilyn arwyddion i’r ddarlithfa. O fewn y ddarlithfa, mae tic gwyrdd neu groes coch ar bob cadair sy’n dangos ble sy’n ddiogel i eistedd: Does neb yn cael eistedd wrth ymyl ei gilydd hyd yn oed os ydyn nhw’n byw yn yr un tŷ. Mae chwistrellau glanhau a phapur ar gael ym mhob darlithfa ac mae’n rhaid i fyfyrwyr lanhau eu gofod ar ddechrau ac ar ddiwedd y sesiwn. Mae darlithwyr yn cael tynnu eu gorchudd wyneb er mwyn rhoi eu darlith ac mae’n nhw’n aros ym mlaen y ddarlithfa ond rhaid i’r gynulleidfa adael eu gorchuddion wyneb ymlaen.

Llun o Ddarlithfa 1 yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda addasiadau mewn lle oherwydd COVID-19

Er gwaetha’r holl reolau newydd, rydyn ni mor ddiolchgar i’r darlithwyr am ein dysgu wyneb-yn-wyneb pan fo hynny’n addas ac yn ddiogel. Credaf fy mod yn canolbwyntio yn well pan rydw i wedi cerdded i ddarlithfa i ystafell rydw i’n gwybod sydd ar gyfer dysgu yn hytrach na gwylio sesiwn ar gyfrifiadur yn fy ystafell. Yn ychwanegol i hyn, mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o ein addysg ‘mewn-person’ yn gwneud y sesiynau sydd yn ddigidol (ble mae darlithwyr yn ynysu neu wedi penderfynu gweithio o adref, er enghraifft) yn fwy pleserus: Mae’r gymysgedd yn berffaith. Rhaid nodi bod ymchwil yn dangos bod dim gwahaniaeth rhwng perfformiad myfyrwyr pan maent yn dysgu ar-lein o’i gymharu â wyneb-yn-wyneb (Paul a Jefferson, 2019).

Mae adnoddau digidol o hyd wedi bod yn bwysig i addysg yn y brifysgol. Ym mhell cyn y pandemig, roedd darlithoedd yn cael eu recordio a’u uwchlwytho, mae nifer o lyfrau ac erthyglau ar gael ar-lein trwy’r llyfrgell ac mae modiwlau e-ddysgu a fideos YouTube yn ran pwysig o addysg yn yr unfed ganrif ar ugain. Ond credaf bydd mynd i eistedd mewn darlithfa yn gwrando ar arbenigwr yn cyflwyno yn ran pwysig o addysg am amser hir i ddod.

Dyna’r cyfan ar gyfer y blog cyntaf hwn. Gadewch wybod beth fyddech chi’n hoffi ei glywed amdano yn y blog nesaf!