Skip to main content

Astudio

Blwyddyn 5 o’r Cwrs Meddygaeth: Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (Junior Student Assistantship) 

10 Chwefror 2023

Rwyf eisioes wedi ysgrifennu am fy mhrofiadau o astudio rhan o’r cwrs Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar o’r cwrs a’r profiadau Cymraeg ges i yn ystod blwyddyn 3 ar y Llwybr Addysg Wledig. Yn y blog yma byddaf yn trafod bloc lleoliad cyntaf blwyddyn 5: y Cynorthwywyr Myfyriwr Iau (Junior Student Assistantship). Mi wnes i gwblhau’r bloc yma yng Nghaerfyrddin, ardal ble mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg ac felly mi ges i brofiad o weithio gyda staff Cymraeg a gofalu am gleifion yn y Gymraeg.

Mae’r bloc CMI yn cael ei gwblhau mewn arbenigedd penodol mewn ysbyty a pwrpas y lleoliad yw i gysgodi meddyg sylfaen blwyddyn 1 (meddyg newydd-gymhwyso) er mwyn dysgu sut i wneud ei swydd nhw gan mai dyma fydden ni’n ei wneud pan rydym yn cychwyn gweithio ym mis Awst.

Cyn cychwyn ar y lleoliad, roedd mis o ddarlithoedd a sesiynau tiwtorial ar gychwyn blwyddyn 5. Pwrpas y cyfres yma o sesiynau oedd o’n paratoi ni ar gyfer practis clinigol ar felly roedd ffocws ymarferol ar y sesiynau yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, cwblhau tystysgrif marwolaeth, gofal lliniarol a rhagnodi meddygyniaethau. Roedd yna hefyd sesiwn anatomi yn y ganolfan anatomi yn ystod y bloc yma o ddysgu, y tro olaf i ni fynd yno fel myfyrwyr meddygol. 

Yna i ffwrdd i Gaerfyrddin am wyth wythnos i gwblhau lleoliad cyntaf fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol feddygol. Mae ein lleoliadau ni ar y cwrs Meddygaeth yn gallu bod unrhyw le yng Nghymru a dwi wedi cael profiadau o Fangor a Wrecsam yn y gogledd i Ferthyr a Chaerdydd yn y de. Wrth gwrs mae hi’n wych bod yn y ddinas fawr brysur gyda’n ffrindiau pan rydyn ni ar leoliad yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ond mae yna hefyd rhywbeth braf am fynd i ffwrdd ar leoliad a dod i nabod pobl newydd ar ardal newydd o’r wlad. Doedd Caerfyrddin ddim gwahanol, roedd grŵp o ddeg ohonom ni yn cwblhau’r un lleoliad mewn adrannau gwahanol yn yr ysbyty ac i gyd yn byw mewn un fflat gyda’n gilydd. Isod mae lluniau yn dangos rhai o’n anturiaethau yn yr ardal yn ystod y bloc.

Roeddwn i yn yr adran Cardioleg gydag un myfyriwr arall ac mi ges i brofiad gwych mewn arbenigedd mae gen i ddiddordeb penodol ynddo. Roedd y rhan fwyaf o’n amser yn cael ei dreulio ar y wardiau, roedd taith ward yn y bore ac yna roedden ni’n gwblhau’r tasgau yn y prynhawn megis newid meddygyniaethau, trefnu archwiliadau a cysylltu ag arbenigeddau eraill am gyngor. Roedd dwy ward yn cael ei wasanaethu gan y tîm Cardioleg, y prif Uned Gofal Coronari, ble roedd cleifion newydd a mwy sâl yn tueddu i fynd, ac yna hanner y ward drws nesaf ble roedd cleifion mwy sefydlog oedd yn disgwyl pecyn gofal yn mynd. 

Mi wnes i ddatblygu nifer o sgiliau sy’n bwysig ar gyfer gwaith fel meddyg sylfaen blwyddyn 1 yn ystod y lleoliad yn cynnwys tynnu gwaed, rhoi caniwla i mewn, ysgrifennu yn y nodiadau meddygol yn ystod teithiau ward a dadansoddi canlyniadau profion gwaed, sganiau ac ECGs. 

Mae’n debyg mai dyma’r profiad Cymraeg mwyaf rwyf wedi ei gael ers cwblhau’r Llwybr Addysg Wledig ym Mangor ym mlwyddyn 3. Roedd nifer o’r cleifion yn siarad Cymraeg ac yn amlwg yn falch o glywed llais Cymraeg. Roedd sawl aelod o staff ar y ward hefyd yn siarad Cymraeg, yn cynnwys y meddyg sylfaen blwyddyn 1 ac un o’r ymgynghorwyr yn ogystal ag y rhan fwyaf o’r nyrsus a’r clerc ward. Roedd yn braf gweld faint o wahaniaeth mae’r iaith yn gallu ei wneud wrth weld cleifion yn gallu egluro eu hunain yn well yn y Gymraeg a gweld tîm o weithwyr gofal iechyd yn gweithio trwy gyfrwng dwyieithog.

Roedd nifer o’r cleifion ar yr Uned Gofal Coronari unai wedi dod yn ôl i’r ardal ar ôl bod yn Ysbyty Treforys am weithdrefn (e.e stent yn dilyn trawiad ar y galon) neu yn disgwyl i fynd yno am lawdriniaeth (e.e amnewid falf). Roedd yna lawer o gyfathrebu felly rhwng y tîm yng Nglangwili a’r tîm yn Nhreforys. 

Pwynt Addysgiadol: Os yw claf yn cael trawiad mawr ar y galon (ac mae arwydd o hyn ar brawf o’r enw ECG sef olrhain o actifedd trydanol y galon) bydd ambiwlans yn mynd â nhw i ysbyty penodol sydd a’r offer ac arbenigedd i gynnal gweithdrefn. Yng Ngorllewin Cymru, y ganolfan agosaf yw Ysbyty Treforys. Ond, os bydd claf yn mynd i’r ysbyty lleol ar eu pen eu hunain yn hytrach na ffonio 999 bydd rhaid eu trosglwyddo i un o’r ysbytai arbenigol hyn. Roedden ni’n gweld nifer o gleifion yng Nghaerfyrddin oedd unai wedi eu gyrru eu hunain neu wedi cael lifft gan ffrind/teulu i’r ysbyty lleol yn hytrach na ffonio 999.

I ffwrdd o’r wardiau roedd nifer o gyfleoedd eraill yn yr uned Cardioleg. Roedd y wardiau drws nesaf i’r uned cleifion allanol ac felly roedd yn hawdd iawn mynd yno i weld os oedd unrhyw glinigau ar gael i fyfyrwyr eistedd i mewn ac roedd ein goruchwyliwr addysgiadoll yn groesawgar iawn ac yn athro gwych. Yn ystod y clinigau roedd cyfle i glywed am straeon y cleifion, i wrando ar grwgnachod (murmurs) ac i glywed proses meddwl yr ymgynghorydd wrth benderfynu sut i drin y claf. Roedd ein goruchwyliwr addysgiadol hefyd yn gyfrifol am glinig ffôn poen ar y frest oedd yn cael ei redeg gan un o’r nyrsus clinigol arbenigol. Mi wnes i dreulio diwrnod gyda’r nyrs yma yn ffonio cleifion, cymryd hanes dros y ffôn ac yna penderfynu pa archwiliadau a thriniaethau pellach oedd angen. Mi wnes i hefyd dreulio bore yn Ysbyty Llanelli yn arsylwi gweithdrefnau o’r enw angiogram ble mae meddyg yn pasio gwifren o’r arddwrn trwy’r pibellau gwaed i’r galon i weld os oes rhwystr ym mhibellau gwaed y galon.

Yn ogystal a’u swydd arferol ar ward penodol, mae meddygon sylfaen blwyddyn 1 hefyd yn mynd ar-alwad yn yr ysbyty. Treuliais i un diwrnod gyda’r meddyg sylfaen blwyddyn 1 o’r adran Cardioleg tra roedd o ar-alwad gyda’r tîm meddygol. Y tîm meddygol ar-alwad sydd yn gyfrifol am gleifion ‘meddygol’ (hynny yw, nid llawfeddygol, obstetreg a gynaecoleg na phaediatrig) sydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty trwy’r uned achosion brys neu gan eu meddyg teulu.

Ar gychwyn pob sifft ar-alwad mae’r tîm yn cael cyfarfod er mwyn clywed gan y tîm oedd ar-alwad cynt am y cleifion sydd dan ofal y tîm. Roedden ni ar-alwad yn ystod y dydd felly roedden ni’n clywed gan y tîm nos ac yna’n trosglwyddo yn ôl iddyn nhw ar ddiwedd y dydd. Cychwynodd y dydd gydag ‘argyfwng meddygol’, dyma pan mae claf rhywle yn yr ysbyty yn ddifrifol sâl ac mae staff yn yr ardal ble mae’r claf yn rhoi galwad allan am y tîm meddygol ar-alwad i fynd i helpu i ofalu am y claf. Maent yn cael eu galw trwy focs bach maent i gyd yn gario sydd yn aml yn cael ei alw yn ‘y bleep’. Yna roedd rhaid mynd lawr i’r uned achosion brys er mwyn i’r ymgynghorydd ar-alwad weld yr holl gleifion newydd oedd wedi dod i mewn yn ystod y nos. Yn dilyn y daith ward yma, tan 5 o’r gloch, roedden ni’n gyfrifol am weld y cleifion newydd oedd wedi cael eu cyfeirio i’r tîm meddygol felly mi ges i gyfle i ymarfer fy sgiliau cymryd hanes a chynnal archwiliad corfforol yn ogystal â cheisio dod i fyny â chynllun triniaeth ar gyfer y cleifion. O 5 o’r gloch tan ddiwedd y sifft sef 8 o’r gloch roedden ni’n gyfrifol am y wardiau (gan fod y meddygon sydd fel arfer yn gweithio ar y wardiau yn gorffen am 8 o’r gloch). Yn ystod y nos, os yw claf angen meddyg unai oherwydd eu bod nhw’n sâl neu oherwydd eu bod nhw angen rhywbeth fel caniwla, meddygyniaeth wedi ei ragnodi neu bod angen edrych ar ganlyniadau sgan, mae’r staff ar y ward yn ffonio’r meddyg ar-alwad neu bydd y meddygon sydd fel arfer yn gweithio ar y ward yn ffonio’r meddyg ar-alwad i adael iddynt wybod cyn gorffen eu sifft. Yna am 8 o’r gloch aethon ni yn ôl i’r ystafell gyfarfod i drosglwyddo yn ôl i’r tîm nos.

Ar y cyfan, mi ges i brofiad gwych ar y lleoliad. Mi wnes i ei orffen yn teimlo yn fwy parod o gychwyn gweithio fel meddyg sylfaen blwyddyn 1 ac wedi dysgu llawer am Gardioleg. Os ydych chi wedi mwynhau darllen y blog yma, gallwch glicio yma i ddarllen rhai o fy mlogiau blaenorol. Yn yr wythnosau a misoedd nesaf byddaf yn ysgrifennu’r blog olaf yn y gyfres am flwyddyn 4 o’r cwrs yn ogystal â blociau eraill blwyddyn 5 yn cynnwys y bloc meddygaeth teulu a’r lleoliad dewisol.