Skip to main content

CymraegOpportunities

Myfyrio ar ôl Blwyddyn ar y Llwybr Addysg Wledig

30 Rhagfyr 2020

*Please let me know in the comments if you would like me to write an English version of this blog about the Community and Rural Education Route (CARER) for year three of Medicine*

Treuliais i flwyddyn tri o’r cwrs Meddygaeth ar y Llwybr Addysg Wledig (LLAW) ym Mangor, Gogledd Cymru. Yn y blog yma, rwyf am geisio rhoi syniad i chi o beth ydi’r LLAW a sut brofiad mae myfyrwyr yn ei gael ar y rhaglen, gydag ambell lun olygfa hardd i’ch denu chi ar hyd y ffordd.

Mae’r LLAW yn enghraifft o Glerciaeth Integredig Hydredol (Longitudinal Integrated Clerkship), ffurf o addysg feddygol gafodd ei ddatblygu yn wreiddiol yn Unol Daleithiau America er mwyn ymdrin a’r diffyg meddygon mewn ardaloedd gwledig yno. Os hoffwch chi ddarllen mwy am y rhagleni hyn, dyma linc i erthygl. Yn draddodiadol, mae blwyddyn 3 o gwrs Meddygaeth C21 Prifysgol Caerdydd wedi ei rannu yn dri bloc: Clefydau Cronig 1, Drws Blaen yr Ysbyty ac Oncoleg a Llawfeddygaeth. Mae’r blociau hyn yn cymryd lle mewn ysbytai ar draws Cymru mewn manau megis wardiau, adranau argyfwng, meddygfeydd, theatrau llawfeddygol ac unedau cancr. Ar y LLAW, treulir y rhan fwyaf o’r amser mewn meddygfeydd gofal sylfaenol ond mae’r amcanion addysgiadol yr un fath.

Yr Olygfa o Bont Menai, Porthaethwy

Mae wythnosau ar y LLAW wedi eu rhannu i dri diwrnod (Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher) yn y feddygfa, Dydd Iau yn y brifysgol mewn darlithoedd a sesiynau tiwtorial a Dydd Gwener ar gyfer gweithio ar brosiect ymchwil. Yn y feddygfa, roeddwn i’n gweld fy nghleifion fy hun; yn trafod eu hanes meddygol a chynnal archwiliadau. Yna, byddwn i’n ceisio meddwl beth oedd yr eglurhad dros y symtomau a sut byddwn i’n ymchwilio’n bellach a thrin y claf cyn trafod y syniadau hyn gyda un o’r meddygon teulu. Wedyn roedd angen cwblhau’r nodiadau ar y cyfridiadur cyn galw’r claf nesaf. Roeddwn i’n ffodus fy mod i wedi fy lleoli mewn meddygfa fawr gyda nifer o feddygon teulu, meddygon iau, nyrsus a staff ategol a fferyllfa yn ogystal â ffisiotherapydd, awdiolegydd a dietegydd oedd yn gweithio rhai sesiynau yn y feddygfa. Roedd rhywbeth i ddysgu ganddyn nhw i gyd.

Dysgais i am nifer eang o gyflyrau yn ystod y flwyddyn; o heintiau byr-dymor fel dolur gwddf a phigyn clust i glefydau mwy cronig fel clefyd llidiol y coluddyn a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Wrth gwrs, wrth fy mod i mewn meddygfa yn gweld pa bynnag gleifion oedd yn dod trwy’r drws, roeddwn i’n gweld pobl â chyflyrau sydd ddim fel arfer yn cael eu dysgu ym mlwyddyn tri o’r cwrs megis problemau iechyd meddwl a brechau croen. Golygai hyn fy mod i’n fwy hyderus yn mynd i mewn i flwyddyn pedwar o’r cwrs. Yn ogystal, roeddwn i’n gweld mwy o blant na fyddai’r myfyriwr blwyddyn 3 arferol, rhywbeth roeddwn i’n ei fwynhau fel rhywun sy’n gobeithio mynd ymlaen i wneud hyfforddiant paediatreg.

Cwm Idwal, Eryri

Wrth gwrs, ni ellir ddysgu am bob cyflwr meddygol mewn meddygfa, felly roedd rhai o’r lleoliadau yn cael eu cynnal yn yr ysbyty lleol. Roedd rhain yn cynnwys wythnosau yn yr adran argyfwng, uned derbyn meddygol ac uned derbyn llawfeddygol. Yr unedau derbyn yw ble mae cleifion sydd wedi eu gyrru i’r ysbyty gan eu meddygon teulu yn mynd. Yn debyg i’r feddygfa, byddai claf yn cael ei ddyrannu i mi a byddwn i’n mynd i’w gweld, trafod eu problem presenol a chynnal archwiliad corfforol cyn trafod fy syniadau gyda un o’r meddygon. Roedd hyn yn gymharol fwy brawychus na gwaith yn y feddygfa pan fod problemau’r cleifion yma yn aml yn fwy brys, ond mae hi bendant yn well ymarfer fel hyn tra bod meddygon mwy profiadol ar gael i gefnogi.

Pier Biwmares, Ynys Môn

Ar ddyddiau Iau, roedd y grŵp o chwech ohonom oedd ym Mangor yn cyfarfod gyda ein tiwtor yn y Brifysgol. Y rhan fwyaf o’r amser, bydden ni’n gwylio fideos o ddarlithoedd oedd wedi cael eu recordio pan oedden nhw wedi cael eu rhoi i weddill ein blwyddyn yng Nghaerdydd. Weithiau, bydden ni’n cael sesiynau tiwtorial, unai gyda thiwtor lleol mewn person (e.e sesiwn gyda’r tîm rhoi organau) neu gyda thiwtor yng Nghaerdydd yn defnyddio linc fideo (e.e sesiwn ar imiwnoleg).

Roedd ein dyddiau Gwener yn cael eu treulio yn gweithio ar brosiect ymchwil: Cyfle i dreulio mwy o amser mewn maes yr oedd gennym ddiddordeb penodol ynddo. Ymysg y grŵp, roedd prosiectau llawfeddygol, gofal sylfaenol a phaediatrig. Trefnwyd y prosiectau trwy gysylltu a thiwtoriaid yn yr ysbyty neu yn y meddygfeydd: Weithiau roedd ganddyn nhw syniad neu mewn achosion eraill roedden nhw’n gofyn i’r myfyriwr feddwl am syniadau. Ar y cyfan, roedd yn ffordd gwych o gael mwy o brofiad yn y meysydd rydyn ni’n gobeithio mynd ymlaen i weithio ynddynt a hynny yn aml trwy ddarganfod rhywbeth neu rhyw batrwm newydd yn y maes trwy ein ymchwil.

Cefais brofiad gwych ar y LLAW a byddwn yn annog unrhyw un sy’n ei ystyried i fynd amdani. Gadewch wybod os fyddwch chi’n hoffi clywed mwy am y LLAW neu am unrhyw beth penodol arall yn y dyfodol!